Y gaeaf yma, dathlwch eich gwaith ar ein waliau
Rydyn ni'n chwilio am artistiaid i lenwi Ffwrnais gyda gwaith wedi'i ysbrydoli gan y gaeaf, gan ddod â chreadigrwydd a lliw i'n gofodau yn ystod y misoedd oer.
Y gaeaf yma, rydyn ni'n gwahodd artistiaid i gynnig gwaith ar gyfer arddangosfa yn Ffwrnais, ein bar-caffi a'n porth i'r celfyddydau.
Rydyn ni'n chwilio am waith sy'n ymateb i themâu ac ysbryd y gaeaf. Gallai hynny olygu pethau gwahanol i bobl wahanol, ac rydyn ni'n agored i weld ble fydd eich dychymyg yn mynd â chi.
Gall ceisiadau fod ar gyfer casgliadau o wiath neu ddarnau unigol.
AM BETH RYDYN NI'N CHWILIO
Rydyn ni'n croesawu ceisiadau ar draws ffurfiau celf weledol gwahanol, ar yr amod y gall y gwaith gael ei osod a'i arddangos yn ddiogel o fewn y gofodau sydd ar gael yn Ffwrnais.
Mae sawl ardal ar gael:
Prif Wal Ffwrnais
9m o hyd x 1.3m o uchder
Wal y Cwtsh
3.95m o hyd x 1.4m o uchder
4.85m o hyd x 1.4m o uchder
4.85m o hyd x 1.4m o uchder
Does dim rhaid i chi lenwi pob gofod sydd ar gael. Os byddwn ni'n dewis darnau unigol neu gasgliadau llai, byddwn ni'n trafod y ffi priodol gyda'r artist.
PRYD A BLE
Lleoliad: Ffwrnais
Dyddiad gosod: 28 Tachwedd 2026
GOFYNION
- Dogfennau hawl i weithio
- Yswiriant priodol
- Asesiad risg
Dylai eich cynnig hefyd ystyried dimensiynau y mannau arddangos sydd ar gael.
Cyllideb
Hyd at £2,500
Os bydd darnau neu gasgliadau llai yn cael eu dewis byddwn ni’n trafod y ffi terfynol gyda'r artist.
Dyddiad Cau Ymgeisio
28 Medi 2026
SUT I YMGEISIO
Rydyn ni'n gwahodd ceisiadau gan artistiaid, unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru.
I ymgeisio, e-bostiwch community@wmc.org.uk gyda'ch cynnig.