Mae Llais yn dychwelyd 7–11 Hydref gyda pherfformiadau unigryw a lleisiau arbennig o bob cwr o’r byd fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.
Mae Llais yn dod ag artistiaid o bob cwr o’r byd ynghyd ar gyfer cyfres o berfformiadau a fydd yn synnu, yn herio ac yn ysbrydoli. O arloeswyr cerddorol chwedlonol i leisiau newydd sy’n siapio sain yfory, mae’r ŵyl yn cynnig cyfle i gynulleidfaoedd ddarganfod artistiaid llai cyfarwydd.
Mae’r ŵyl, sydd wedi’i gwreiddio yn hunaniaeth Cymru fel Gwlad y Gân, yn dathlu pŵer y llais ym mhob un o’i ffurfiau – o ganu gwerin a gospel i sain arbrofol, perfformiadau cerddorfaol, adrodd straeon a thechnoleg ymdrochol.
Mae Llais wedi’i churadu fel wythnos o gyfarfyddiadau cerddorol rhyfeddol – gigs unigryw, cydweithrediadau annisgwyl ac artistiaid na welir yn aml mewn rhannau eraill o wledydd Prydain. Mae’n ŵyl sy’n seiliedig ar ddarganfyddiadau, gan wahodd cynulleidfaoedd i brofi lleisiau a pherfformiadau na fydden nhw’n dod ar eu traws fel arall.
Mae Llais, a fydd yn rhedeg rhwng 7 ac 11 Hydref, yn parhau i sicrhau Canolfan Mileniwm Cymru fel cartref ar gyfer perfformiadau rhyngwladol anturus, gan hyrwyddo artistiaid o Gymru ochr yn ochr â pherfformwyr o bob cwr o’r byd.
Mae’n rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd (2–17 Hydref), sef rhaglen pythefnos ehangach sy’n ymgorffori Gŵyl Sŵn a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, sydd â’r nod o amddiffyn, hyrwyddo a chryfhau ecosystem cerddoriaeth y brifddinas. Cefnogir yr ŵyl gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.
Meddai Graeme Farrow, Prif Swyddog Creadigol Canolfan Mileniwm Cymru: “Nid gŵyl sy’n seiliedig ar algorithmau a siartiau ffrydio yw Llais. Mae’n wythnos sydd wedi’i churadu’n ofalus o leisiau arbennig, cyfarfyddiadau annisgwyl a phrofiadau byw bythgofiadwy. Darganfod yw hanfod Llais. Rydyn ni i gyd yn treulio cymaint o’n bywydau yn derbyn argymhellion am beth i wrando arno nesaf, ond does dim byd gwell na chlywed rhywbeth newydd a byw a chael ein trawsnewid yn llwyr. Dyna yw pwrpas Llais.”
Laurie Anderson
Blind Boys of Atlanta
Tomos Williams
Bess Atwell
Buena Vista All Stars + Orchestra Baobab
Lisa Hannigan
Yn agor yr ŵyl ddydd Mercher 7 Hydref bydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig fawreddog, gan ddathlu’r albymau gorau a ryddhawyd gan artistiaid Cymreig dros y flwyddyn ddiwethaf, a gosod y llwyfan ar gyfer pum niwrnod o gerddoriaeth a pherfformiadau eithriadol.
Ar frig y cyhoeddiad cyntaf o berfformwyr mae’r artist amlgyfrwng arloesol Laurie Anderson, a fydd yn perfformio am y tro cyntaf yng Nghymru gyda Friends and Teachers – perfformiad a grëwyd yn arbennig ar gyfer Llais.
Mae’r band gospel chwedlonol Blind Boys of Alabama sydd wedi ennill Grammy, yn enw arall sy’n ymddangos ar y rhestr, a byddan nhw’n cael eu cefnogi gan y London African Gospel Choir yn perfformio Graceland gan Paul Simon. Hefyd yn perfformio mae’r gyfansoddwraig Wyddelig enwog Lisa Hannigan, yn cyflwyno ei phrosiect cydweithredol enwog Sirens gydag artistiaid fel Theodora Byrne Trio, Jane Patterson, Helen Murray, Amanda Bergman, Kate Stables, Landless, Bess Atwell, Charlotte Church a mwy.
Ymhlith yr artistiaid eraill mae’r sêr cerddorol o Giwba, Buena Vista All Stars ochr yn ochr ag Orchestra Baobab; a’r cyfansoddwr-sitarydd Jasdeep Singh Degun, yn perfformio gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC i ddathlu traddodiadau cerddorol yn dod at ei gilydd.
Bydd perfformiadau yn Stiwdio Weston yn cynnwys Shovel Dance Collective + Naima Bock; Bess Atwell; Tristwch y Fenywod + Joanne Robertson + Jasper Llewelyn; a Cwmwl Tystion III / Empathy gan Tomos Williams.
Yn ymddangos ar ein llwyfan Cabaret bydd Landless a Jordan Playfair, a bydd Gwobrau Oram x Tŷ Cerdd yn cael eu cynnal yno, sy’n hyrwyddo bydoedd creadigol anarferol, cignoeth ac unigryw menywod ac artistiaid amrywiol o ran rhywedd sy’n arbrofi gyda sain, cerddoriaeth a thechnoleg. Er mwyn dathlu rhifyn 2026 o ŵyl Llais, bydd Gwobrau Oram x Tŷ Cerdd yn cynnwys cydweithrediad traws-raglen rhwng tîm Oram, Tŷ Cerdd ac enillwyr dethol eleni.
Sinema Realiti Rhithwir yn Llais
Y tu hwnt i’r rhaglen fyw, gall cynulleidfaoedd hefyd gamu i mewn i bedwar profiad realiti rhithwir sydd wedi cael clod rhyngwladol yn Sinema Realiti Rhithwir Canolfan Mileniwm Cymru, gan ehangu Llais y tu hwnt i’r llwyfan drwy adrodd straeon ymdrochol.
Mae’r arddangosfa Sinema Realiti Rhithwir (28 Medi – 11 Hydref) yn cynnwys:
- Just for You Trilogy – Tair ffilm ymdrochol arobryn gan y gwneuthurwr theatr o Taiwan, Craig Quintero, sy’n archwilio cof, marwolaeth a’r gofod rhwng breuddwydion a realiti.
- The Art of Change – Taith realiti rhithwir drawiadol weledol gan Funilab a DROELOE sy’n archwilio hunaniaeth, cof a thrawsnewidiad personol dros amser.
- Bodies of Water – Mae gwaith ymdrochol yr artist realiti ymestynnol o Ganada, Chélanie Beaudin-Quintin, yn gwahodd cynulleidfaoedd i brofi’r berthynas drawsnewidiol rhwng y corff dynol a dŵr.
- Ôl | Haunts – Stori dod i oed mewn realiti rhithwir gan Lucy Hammond a Tom Chetwode-Barton, wedi’i lleoli yn y gogledd yn 2006, sy’n cyfuno atgofion, cerddoriaeth a’r sîn barti Gymreig.
Mae cyhoeddiad cyntaf rhaglen Llais yn cynnwys artistiaid o fri rhyngwladol, comisiynau newydd beiddgar, gwerin cyfoes, cerddoriaeth arbrofol, cydweithio cerddorfaol a phrofiadau digidol ymdrochol.
Mae tocynnau ar werth nawr. Archwiliwch y rhaglen.
Mae Llais yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd: dathliad pythefnos o hyd o gigs, digwyddiadau, gosodweithiau, a pop-yps, sy’n harneisio pŵer cerddoriaeth, perfformiadau a thechnoleg i uno ac i ysbrydoli.