Oes gennych chi syniad ar gyfer gweithdy creadigol sy’n gallu dod â phobl at ei gilydd ar draws cenedlaethau? Rydyn ni’n chwilio am unigolion a sefydliadau i gynnal sesiynau diddorol, cynhwysol a difyr yn ein mannau cyhoeddus!
Mae tîm cymunedol Canolfan Mileniwm Cymru yn ymdrechu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i fod yn greadigol yn ein gofodau, boed hynny’n arwain digwyddiadau, yn arddangos gweithiau celf neu’n cynnal gweithdai
Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi cynnal cyfres o alwadau sy'n talu pobl i wneud nifer o'r pethau yma. Rydyn ni’n teimlo ei bod yn bwysig arddangos yr holl ddoniau gwych yn ein cymuned, blaenoriaethu’r rhai sy’n cael y lleiaf o’r sylw a chreu gofod diogel lle mae croeso i bawb a phawb yn cael eu dathlu.
Os oes gennych syniad penodol a does dim angen cefnogaeth arnoch chi, anfonwch unrhyw ddolenni at eich gwaith ac un sleid PowerPoint yn egluro eich syniad/cynnig.
Galwad Gweithdy
Oes gennych chi syniad ar gyfer gweithdy creadigol sy’n gallu dod â phobl at ei gilydd ar draws cenedlaethau? Rydyn ni’n chwilio am unigolion a sefydliadau i gynnal sesiynau diddorol, cynhwysol a difyr yn ein mannau cyhoeddus! Am beth rydyn ni’n chwilio: Un gweithdy 3–4 awr neu ddau weithdy 2 awr (mynediad agored neu angen archebu) Dylai sesiynau chwalu rhwystrau cyfranogi, gan groesawu pobl nad ydyn nhw fel arfer yn ymgysylltu â’r celfyddydau Sesiynau rhwng cenedlaethau a hygyrch gallai’r syniadau gynnwys: Gwnïo a gwau Drymio a chanu Ysgrifennu barddoniaeth pync Gwaith crefft Pasg ...a mwy – rydyn ni eisiau clywed eich awgrymiadau!
Sut mae’n gweithio
Bydd gweithdai yn cael eu dewis drwy ein model cyllidebu cyfranogol, lle bydd yr holl ymgeiswyr yn pleidleisio dros y cais sy’n gweddu orau i’r briff yn eu barn nhw. Mae hyn yn sicrhau bod ein rhaglen yn cael ei chreu gennych chi, y gymuned.
Ar gyfer pob comisiwn, rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan artistiaid, unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru neu o Gymru.
Pryd a Ble
Rhwng mis Medi 2026 a Mawrth 2027 I’w cyflwyno yn ein mannau cyhoeddus yn ystod wythnos olaf bob mis (dyddiadau penodol i’w dewis gan bob prosiect creadigol).
Themâu yn ôl mis
- Tachwedd - Thema agored
- Rhagfyr - Dathlu'r gaeaf
- Ionawr - Santes Dwynwen
- Chwefror - Dydd San Ffolant
- Mawrth - Y gwanwyn
Gofynion
- DBS Safonol
- Dogfen hawl i weithio
- Yswiriant
- Asesiad Risg
Cyllideb
£500 (gan gynnwys deunyddiau)
Dyddiad Cau Ymgeisio
28 Medi 2026
Sut i wneud cais
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan artistiaid, unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru.
I ymgeisio e-bostiwch community@wmc.org.uk