Mae rhai o artistiaid a stiwdios mwyaf arloesol a chreadigol uchelgeisiol y byd yn y ras am wobr gelf fyd-eang newydd, a sefydlwyd i ddathlu a diffinio rhagoriaeth o ran defnyddio technoleg greadigol i helpu cynulleidfaoedd i ymgolli mewn bydoedd newydd.
Heddiw, ddydd Mercher 1 Hydref, mae Gwobr Annwn – y wobr fyd-eang gyntaf sy'n dathlu rhagoriaeth mewn gwaith adrodd straeon ymdrochol – yn cyhoeddi'r 25 o weithiau sydd wedi'u henwebu ar gyfer blwyddyn gynta'r wobr.
Lansiwyd y Wobr yn 2025 gan Ganolfan Mileniwm Cymru, mae'n cael ei chynhyrchu gyda Crossover Labs, ac mae'n garreg filltir newydd yn y calendr celfyddydol byd-eang.
Mae'r gweithiau sydd wedi'u henwebu, a gafodd eu dewis gan gymuned o guraduron a sylwebyddion rhyngwladol, yn arddangos rhagoriaeth mewn gwaith adrodd straeon grymus; yn gwneud cynulleidfaoedd yn rhan weithredol ac annatod o'r darn; ac yn defnyddio technolegau i wella, cynyddu neu effeithio ar ein hymdeimlad o realiti. Mae'n rhaid iddyn nhw fod wedi cael eu harddangos mewn gŵyl, ar daith neu yn rhaglen lleoliad neu ganolfan rhwng mis Ionawr 2024 a mis Gorffennaf 2025 er mwyn bod yn gymwys.
Dyma'r rhestr lawn o weithiau sydd wedi'u henwebu, wedi'u trefnu yn ôl teitl yn nhrefn yr wyddor:
- AI & Me: The Confessional and AI Ego – Yr Almaen, mots
Gosodwaith sy'n ysgogi myfyrdod ar hunan-ddelwedd ac effaith barn artiffisial, gan herio canfyddiadau ynghylch sut rydyn ni'n gweld ein hunain drwy sbectol deallusrwydd artiffisial. - Ancestors – Yr Iseldiroedd, Smartphone Orchestra
Profiad grŵp rhyngweithiol ac ymdrochol fydd yn gwneud i'r gwylwyr gysylltu'n ddwfn â'u cyd-chwaraewyr a chenedlaethau'r dyfodol: wrth gymryd hunlun, maen nhw'n dod yn hen hen nain neu daid i rywun 200 mlynedd yn y dyfodol. - Collateral Echoes – Gwledydd Prydain, Baff Akoto
Cofeb realiti ymestynnol sy'n anrhydeddu bywydau Prydeinwyr Duon a Mewnfudwyr i Brydain a gollwyd i drais y wladwriaeth, drwy dystiolaeth, archifau a pherfformiad, gan roi llais i'r cymunedau maen nhw wedi'u gadael. - Colored / Noire – Ffrainc, Novaya
Profiad ymdrochol wedi'i bweru gan ddeallusrwydd artiffisial, sy'n ail-fyw safiad dewr Claudette Colvin yn Alabama'r pumdegau, a'r rhan arloesol a chwaraewyd ganddi yng nghyfnod hawliau sifil. - Consensus Gentium – Gwledydd Prydain, Karen Palmer
Ap ffilm ganghennog sy'n defnyddio technoleg adnabod wynebau i archwilio themâu gwyliadwriaeth, algorithmau rhagfarn a phŵer mewn dyfodol dystopiaidd ac mewn dyfodol iwtopaidd. - Constantinopoliad – Gwledydd Prydain/Gwlad Groeg, Sister Sylvester
Gwaith sinema estynedig wedi'i ysbrydoli gan waddol Cavafy, yn archwilio archifau cwiar coll a chof barddonol drwy weithredoedd o ddarllen ar y cyd a dychymyg ysbrydaidd. - Dream Machine – Unol Daleithiau America, Nona Hendryx
Taith Affroddyfodolaidd realiti cymysg, ymdrochol sy'n cyfuno cerddoriaeth, realiti estynedig, realiti rhithwir, a deallusrwydd artiffisial i feithrin ymgysylltiad cymunedol ac i ddychmygu posibiliadau newydd. - Fragile Home – Tsiecia, Ondřej Moravec a Victoria Lopukhina (Brainz Immersive)
Profiad realiti cymysg ymdrochol sy'n galluogi defnyddwyr i brofi trawsnewidiad graddol amgylchedd cyfarwydd yn gartref teulu o Wcráin, gan fynd o'r gorffennol heddychlon i'r presennol cythryblus. - Heartbreak and Magic – Gwledydd Prydain, Libby Heaney
Profiad realiti rhithwir teimladwy sy'n cyffwrdd â galar, ffiseg cwantwm, a'r amlfydysawd ehangach fel sbectol i archwilio ystyr bodolaeth a cholled annisgwyl. - Huk, the Jaguaress – Bolivia/Awstralia, Violeta Ayala, Dr. Yasmeen Hitti a Dan Fallshaw
Bod digidol ymwybodol wedi'i gyd-greu gydag artistiaid Cynhenid i amddiffyn yr Amazon ac i herio gwaddol trefedigaethol deallusrwydd artiffisial drwy wybodaeth ecolegol sydd wedi'i chydblethu â dawns a rhythm. - In Pursuit of Repetitive Beats – Gwledydd Prydain, Darren Emerson
Profiad realiti rhithwir dod i oed ewfforig wedi'i osod yng nghanol sîn rêf 1989, lle mae cerddoriaeth yn dod yn achubiaeth. - In the Eye of a Dream – Gwledydd Prydain, Kinnari Saraiya
Byd ymdrochol sy'n adfeddiannu breuddwydion a ddefnyddiwyd mewn hyfforddiant hiliol trefedigaethol, gan ail-animeiddio'r cludwyr proffwydoliaeth yma yn dechnolegau goroesi Brodorol. - Lili – Unol Daleithiau America/Gwledydd Prydain, iNK Stories
Addasiad neo-noir ymdrochol o Macbeth lle mae defnyddwyr yn camu i mewn i rôl hacwyr y we dywyll i lywio byd o ddeallusrwydd artiffisial, gwyliadwriaeth a rhyfel digidol. - NOWISWHENWEARE (the stars) – Unol Daleithiau America, Andrew Schneider
Taith ymdrochol drwy olau a sain lle mae cyfranogwyr yn archwilio'r cosmos – a'u hunain mewnol – o dan arweiniad sêr, cof, a phob penderfyniad a arweiniodd at y foment honno. - Oto's Planet – Lwcsembwrg, Gwenael François
Stori ryngweithiol ddiddorol, wedi'i hadrodd drwy realiti rhithwir, am ddau gyd-letywr annhebygol ar blaned fach, heddychlon wrth iddyn nhw archwilio cyfathrebu a chyd-fyw ar ôl damwain yn ymwneud â ffrwyth. - Reflections of Little Red Dot – Yr Almaen, Chloé Lee
Rhaglen ddogfen agored realiti cymysg, wedi'i chreu ar y cyd gan wylwyr gyda thaflunydd pwrpasol i archwilio tirwedd sy'n prysur esblygu yn Singapôr drwy straeon personol. - Spirit Systems of Soft Knowing ༊*·˚ – Gwledydd Prydain/Yr Almaen, Keiken
Gosodwaith rhyngweithiol gan Keiken sy'n defnyddio crothau haptig gwisgadwy i archwilio themâu empathi, canfyddiad, a rhyng-gysylltiad y tu hwnt i brofiad dynol. - The Founders Pillars and The Power Loom – De Affrica, Dr Meghna Singh, Simon Wood a Lesiba Mabitsela
Cofeb Realiti Estynedig sy'n ymateb i'r safle ac sy'n gweddnewid pensaernïaeth drefedigaethol gyda gosodwaith amlgyfrwng o ddefnyddiau Affricanaidd a hen straeon teuluol. - The Manikins: a work in progress – Gwledydd Prydain, Deadweight Theatre
Sioe ryngweithiol sy'n portreadu un aelod o'r gynulleidfa fel claf yn swyddfa Dr. Ligotti, lle maen nhw'n gorfod llywio agendâu cudd a thechnegau goruwchnaturiol y seiciatrydd enigmatig a'i ysgrifenyddes, Beatrix. - Transmission – Into The Dark – Awstralia, One step at a time like this
Perfformiad radio byw sydd wedi ennill gwobrau, sy'n tywys cynulleidfaoedd drwy osodweithiau dirgel a strydoedd hwyrnosol i mewn i enaid y nos. - Traversing the Mist – Taiwan, CHOU Tung-Yen
Profiad realiti ymestynnol aml-ddefnyddiwr swreal sy'n archwilio dyhead, cyffro ac ofn, wedi'i osod mewn tirwedd freuddwydiol lle mae'r byd yn toddi o'ch cwmpas, mewn sawna yn Nhaiwan. - Turbulence: Jamais Vu – Awstralia, Ben Joseph Andrews ac Emma Roberts
Ysgrif ddogfen realiti cymysg sy'n archwilio canfyddiad a jamais vu, drwy waith adrodd straeon agos atoch a rhyngweithio gofodol. - Wilfred Buck's Star Stories – Canada, Lisa Jackson, Wilfred Buck a'r Macronauts
Mae'r gwaith realiti ymestynnol ymdrochol yma ar gyfer cromenni a phlanetaria yn dod â phedair stori yn fyw, wedi'u casglu a'u hadrodd gan yr awdur, yr arbenigwr sêr a'r seryddwr adnabyddus o dras Ininew (Cri), Wilfred Buck. - ./MYTH.YOU (Itʼs like it have found a myth in you.) – Japan, Michibumi ITO
Realiti Rhithwir sy'n trawsnewid eich cyflwr niwral yn ysgrif ffilm fytholegol o'r hunan mewn amser go iawn, drwy newid golygfeydd pensaernïol i adlewyrchu profiad eich corff. - [EOL]. End of Life – Yr Almaen, DARUM.
Adfeilion realiti rhithwir ymdrochol sy'n archwilio gwaddol digidol, cof, a phwy sy'n penderfynu pa olion rhithwir sy'n cael eu cadw neu eu dileu.
Mae artistiaid o 14 gwlad wedi'u cynrychioli ar y rhestr, ac mae'r straeon a'r themâu sy'n cael eu harchwilio yn amrywiol iawn: o brofiad agos atoch o alar i weledigaethau damcaniaethol o wyliadwriaeth, o bosibiliadau hudolus ffiseg cwantwm i daith aml-synhwyraidd i sîn rêf acid house 1989 neu archwiliadau swreal o ddyhead mewn sawna hoyw yn Nhaiwan.
Cyhoeddir rhestr fer o bedwar ymgeisydd terfynol, wedi'u dethol gan bwyllgor dewis, ym mis Tachwedd 2025. Mae'r pwyllgor yn cynnwys chwech aelod o'r panel enwebu ehangach: Mark Atkin, cyfarwyddwr, Crossover Labs; Ana Brzezinska, curadur ymdrochol, Barbican/Moment Factory; Samantha King, pennaeth rhaglen, VIVE Arts; Ellen Kuo, pennaeth marchnad realiti ymestynnol, Gŵyl Newimages; David Massey, uwch gynhyrchydd technoleg greadigol ac adrodd straeon, Canolfan Mileniwm Cymru; Tom Millen, cyfarwyddwr, Crossover Labs.
Yna bydd y pedwar gwaith ar y rhestr fer yn cael eu harddangos i'r cyhoedd mewn arddangosfa fawr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fydd yn agor ym mis Mai 2026, lle bydd rheithgor o arbenigwyr o'r diwydiant a phobl o'r diwydiant celfyddydau ac adloniant yn dewis ac yn cyhoeddi'r enillydd (dydd Sul 14 Mehefin 2026).
Gyda chefnogaeth Peter a Janet Swinburn, bydd yr artist neu'r stiwdio fuddugol yn cael £20,000 ynghyd â chyfnod preswyl pwrpasol i gefnogi datblygiad gwaith newydd.
Cenhadaeth Gwobr Annwn yw darparu llwyfan byd-eang i ddyrchafu gwaith adrodd straeon ymdrochol fel un o golofnau hanfodol mynegiant diwylliannol, dathlu artistiaid arloesol a gyrru trafodaeth feirniadol o'r ffurf yma ar gelfyddyd, gan ddod â gwaith eithriadol a grymus i gynulleidfaoedd gwledydd Prydain.
Meddai prif swyddog creadigol a chynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Graeme Farrow:
"Sefydlwyd Gwobr Annwn i gydnabod a dathlu rhagoriaeth mewn ffurf ar gelfyddyd sy'n esblygu'n gyflym ac i gyflwyno straeon i gynulleidfaoedd y gallan nhw eu byw yn ogystal â'u gwylio. Mae'r gweithiau'n cynrychioli'r gorau o'r lleisiau beiddgar ac eithriadol sy'n siapio dyfodol gwaith adrodd straeon ymdrochol ledled y byd. Mae'r artistiaid a'r stiwdios yma'n gwthio'r ffiniau, gan gyfuno technoleg a chreadigrwydd i greu profiadau bythgofiadwy. Nid dathliad o'u doniau yn unig yw'r eiliad yma, ond arwydd o bwysigrwydd cynyddol y ffurf ar gelfyddyd ei hunan."
Meddai Samantha King, enwebydd a chynrychiolydd y pwyllgor dewis fydd yn tynnu'r rhestr fer:
"Drwy rwydwaith rhyngwladol o arbenigwyr yn y diwydiant, rydyn ni wedi dod o hyd i weithiau sy'n arddangos gallu unigryw gwaith adrodd straeon ymdrochol i sbarduno'n synhwyrau ac i'n herio'n ddeallusol ac yn emosiynol ar yr un pryd. Mae'r gweithiau'n adlewyrchu sut mae celfyddydau ymdrochol wedi esblygu o gyfyngiadau arloesi ac arbrofi i fod yn gyfrwng aeddfed ar gyfer mynegiant artistig dwfn, sy'n mynnu cydnabyddiaeth benodol. Mae Gwobr Annwn yn sefydlu Canolfan Mileniwm Cymru fel arweinydd o ran cydnabod a meithrin y ffurf yma ar gelfyddyd sy'n esblygu'n gyflym, gan ddarparu llwyfan i artistiaid yn y gofod yma a chyfle digynsail i gynulleidfaoedd brofi'r gwaith."
Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi ymrwymo i archwilio ffyrdd newydd o adrodd straeon gan ddefnyddio technoleg ymdrochol a chrewyr llwyddiannus sy'n gweithio ar y groesffordd rhwng celf a thechnoleg. Yn 2022, lansiodd y ganolfan Bocs, gofod pwrpasol ar gyfer profiadau ymdrochol a realiti ymestynnol, ac yn 2024 datgelodd gynlluniau ar gyfer canolfan berfformio arloesol a digidol-yn-gyntaf, fel rhan o ymrwymiad parhaus i ddyfodol creadigrwydd yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Wobr Annwn i annwnprize.com.