Mae gŵyl Llais wedi cyrraedd, ac mae’r lein-yp eclectig yn cynnig rhywbeth i bawb. Gyda digwyddiadau am ddim, cynnig aml-docyn a phob tocyn dan £30, mae rhywbeth i bob cyllideb hefyd.
DIGWYDDIADAU TROCHOL DAN £5
9 – 13 Hydref, 11am – 6pm (Hyd: 40 munud)
Tocynnau ar gael wrth gyrraedd ar sail talwch beth y gallwch.
Mae arweinlyfr hardd yn eich annog chi i archwilio'r ddinas, gan ddewis eich llwybr eich hun, tra bod clustffonau gydag electroneg wedi'u teilwra’n arbennig yn dal ac yn trin y synau o'ch cwmpas. Casglwch eich clustffonau o Bocs a'u rhoi’n ôl i aelod o staff yn Bocs pan fyddwch wedi gorffen.
Tu allan | £5 | 10 – 13 Hydref, 7.30pm, 8.30pm + 9.30pm (Hyd 20 munud)
Wedi’u creu i’w taflunio ar wal, gan ddefnyddio effaith ac iaith Celf Stryd, maent wedi’u hanimeiddio fel straeon operatig mewn cerddoriaeth, ac fe wrandewir ar y cyfan ar glustffonau Disgo Distaw. Dychmygwch Banksy yn dod yn fyw ac yn canu!
Cynhelir y perfformiadau hyn y tu allan i Caffi.
CERDDORIAETH AM DDIM YN GLANFA
NANNA PUNK
Dydd Gwener 11 Hydref, 8.15pm
Dydd Sul 13 Hydref, 6.15pm
Yn seiliedig ar syniad gan Jude Price (Cult of Doris) ac wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru, The Cab yng Nghasnewydd ac Efa Supertramp, sesiynau i fenywod dros 50 oed i gymdeithasu a datblygu eu sgiliau cerddoriaeth pync yw Nanna Punk. Dewch i’w perfformiadau byw ddydd Gwener a dydd Sul i weld yr hyn maent wedi bod yn brysur yn ei greu!
CÔR CYMUNEDOL TRE BIWT
Dydd Sadwrn 12 Hydref, 12.30pm
Ymunwch â ni am berfformiad un-tro arbennig i ddathlu pen-blwydd Betty Campbell yn 90 oed.
PANTASIA STEEL PANS
Dydd Sadwrn 12 Hydref, 12.30pm
Dydd Sul 13 Hydref, 2pm
Yn dychwelyd i Llais ar ôl eu perfformiad cyntaf y llynedd, mae Pantasia Steel Pans yn grŵp sosbenni dur cymunedol a ffurfiwyd gan y cerddor lleol Wahda Placide.
SGYRSIAU AM DDIM
JOE BOYD: AND THE ROOTS OF RHYTHM REMAIN
Theatr Donald Gordon | Dydd Sadwrn 12 Hydref, 1pm
Ymunwch â ni yn Theatr Donald Gordon am sgwrs am ddim gyda’r cynhyrchydd a rheolwr label recordiau o fri, Joe Boyd. Mae Boyd wedi treulio’i oes yn teithio’r byd ac yn ymgolli mewn cerddoriaeth. Archebwch docyn am ddim i gadw’ch sedd.
COFIO VIC PARKER
Chris Hodgkins, y trympedwr jazz arobryn a gafodd ei fentora gan Vic Parker, yn sgwrsio gyda Humie Webbe
Cabaret | Dydd Sadwrn 12 Hydref, 1pm
Cyflwyniad cryno i Vic – ei gefndir a’i yrfa gynnar – gan gynnwys amser Chris gydag e yn Quebec a sawl stori sy’n glwm â’i gyfansoddiadau diweddar. Archebwch docyn am ddim yma. Gwrandewch ar y cyfansoddiadau a gwyliwch Chris yn perfformio fel rhan o A Celebration of Bay Jazz ddydd Sadwrn a dydd Sul.
COFIO JAZZ YN Y BAE
Sgwrs gyda Gaynor Legall, Cadeirydd Tiger Bay and the World
Cabaret | Dydd Sul 13 Hydref, 1pm
Sgwrs gyda Gaynor Legall, Cadeirydd Tiger Bay and the World ynglŷn â’r cerddorion, cantorion a’r grwpiau coll sydd â gwreiddiau dwfn yng nghymuned Tiger Bay a Dociau Caerdydd. Gan gynnwys ffigyrau eiconig lleol fel Patti Flynn, Vic Parker a’r Brodyr Denise i enwi ambell un.
DIGWYDDIADAU AM £10 NEU LAI
LOCK OFF: DJ-KAYBEE, JESSIKA KAY, BENNY FLOWZ, KIMA OTUNG, JAYAHADADREAM, PAUL STEPHAN + GARDNA
Stiwdio Weston | £5 | Dydd Iau 10 Hydref, 7.30pm
Gyda mentoriaeth gan arbenigwyr y diwydiant, mae ein pobl ifanc talentog yn arwain, yn curadu, yn trefnu ac yn cyflwyno noson epig o gerddoriaeth MOBO. Bydd digwyddiad eleni yn cyflwyno lein-yp enfawr sy’n cysylltu genres ac yn dod ag artistiaid o bob cwr o’r DU, gan gynnwys artistiaid newydd o Gymru.
Cabaret | £10 | Dydd Iau 10 Hydref, 8.45pm
Gitâr feistrolgar a lleisiau gwynias. Mae’r perfformwyr rhagorol yma’n cysylltu ac yn swyno cynulleidfaoedd ledled y byd drwy bŵer cân. Mae’n fwy arbennig fyth pan fydd yn cael ei chanu yn iaith leiafrifol Noongareg.
BLACKSABBATHMODE
Cabaret | £10 | Dydd Gwener 11 Hydref, 7pm
Cywaith rhwng y ddeuawd nu-jazz BIGHEADMODE (Robbie ac Ewan Moore) a Plumm, arweinydd band ac aml-offerynnydd o fri sy’n byw yn Ne Llundain, yw BLACKSABBATHMODE. Gyda’i gilydd, maen nhw wedi creu cyfres hudolus wedi’i hysbrydoli gan y band chwedlonol o ganolbarth Lloegr, Black Sabbath.
Cabaret | £10 | Dydd Sadwrn 12 + Dydd Sul 13 Hydref, amseroedd amrywiol
Ymunwch â ni i ddathlu cyfoeth treftadaeth jazz Tiger Bay, gyda pherfformiadau gan Chris Hodgkins, Jacky Webbe, Ciyo Brown, Leighton Jones, Lily Webbe, Li Harding a mwy.
DIGWYDDIADAU AM £12.50 NEU LAI
LLWCH A LLECHI: GWEN SIÔN GYDA CHERDDORFA GENEDLAETHOL GYMREIG Y BBC a CHÔR Y PENRHYN
Stiwdio Weston | £12 | Dydd Sul 13 Hydref, 3.30pm
Yn cyflwyno’u perfformiad cyhoeddus cyntaf yn Llais 2024, mae Llwch a Llechi yn brosiect clywedol-gweledol byw sy’n archwilio’r cysylltiadau rhwng cerddoriaeth, tirwedd, traddodiad a defod. Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chôr y Penrhyn, un o gorau hynaf Cymru, yn ymuno â Gwen.
Neuadd Hoddinott y BBC | £12 | Dydd Sul 13 Hydref, 8pm
Yn Tafod Arian, mae'r canwr gwerin arobryn Lleuwen Steffan yn taflu goleuni newydd ar drysor o gasgliad o emynau a gafodd eu gwahardd gan bwyllgorau gwrywaidd capeli ein gorffennol.
Cabaret | £12 | Dydd Gwener 11 Hydref, 9.30pm
Ríoghnach Connolly a Stuart McCallum yw calon greadigol The Breath. Mae llais teimladwy, trawiadol Connolly yn ymuno â disgleirdeb cynnil Stuart, gan greu caneuon gonest, personol, twymgalon.
COLORED: THE UNSUNG LIFE OF CLAUDETTE COLVIN (PROFIAD TROCHOL)
Bocs | £12 | Tan 3 Tachwedd, amseroedd amrywiol
Mae Colored yn gadael i'r gynulleidfa fynd i mewn i leoliad a fydd yn fuan yn llawn ysbrydion Alabama’r 1950au. Mewn set a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer y profiad, mae golygfeydd eiconig o fywyd Claudette Colvin yn ystod ei brwydr dros hawliau sifil yn cael eu hailchwarae o flaen eich llygaid.
Stiwdio Weston | £12.50 | Dydd Sadwrn 12 Hydref, 9.30pm
Daeth Fabiana Palladino i’r amlwg yn 2017 fel un o artistiaid sefydlu Sefydliad Paul ar ôl i’w cherddoriaeth bop, sydd wedi’i dylanwadu gan R&B, gyrraedd Jai Paul, a ddechreuodd y label ochr yn ochr â’i frawd. Mae’r byd yn cymryd sylw o gerddoriaeth pop arloesol Fabiana, dyma gyfle i ddarganfod pam
Cynnig tocynnau
Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys Lock Off, Opera Celf Stryd, Only Expansion na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.