Fel cynhyrchydd Cabaret yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, rwy’n cael y fraint o weithio gyda rhai o’r artistiaid a’r perfformwyr cwiar mwyaf cyffrous yng Nghymru a thu hwnt.
Ond rydw i hefyd yn rhywun sydd wedi treulio blynyddoedd yn y clybiau, y bariau a’r lleoliadau annibynnol lle mae cymaint o ddiwylliant cwiar yn cael ei greu. Rydw i wedi gweld â fy llygaid fy hun bod y llefydd hyn yn ymwneud â llawer mwy nag adloniant.
Dyma lle mae cyfeillgarwch yn cael ei ffurfio, hyder yn cael ei feithrin a chymunedau’n dod o hyd i’w gilydd. Dyma lle mae bywyd yn digwydd.
Dyna un o’r rhesymau pam mae Pride wedi teimlo mor bwysig i fi erioed. Wrth gwrs, mae’n ddathliad, ond mae hefyd yn eiliad pan fydd y byd ehangach yn stopio ac yn rhoi sylw i gymunedau, artistiaid a gofodau sy’n bodoli drwy gydol y flwyddyn.
Efallai mai am brynhawn yn unig y bydd y gorymdeithiau eu hunain yn para, ond mae diwylliant cwiar yn cael ei adeiladu yn yr wythnosau a’r misoedd rhyngddynt: yn y nosweithiau drag, y sioeau cabaret, y gigs annibynnol a’r lleoliadau lleol; drwy’r perfformwyr, y cynhyrchwyr a’r gwirfoddolwyr sy’n eu gwneud iddyn nhw ddigwydd; ac ymhlith y bobl sy’n dal i gefnogi a bod yn gefn i’w gilydd.
Dyna pam ei bod hi’n bwysig, a ledled gwledydd Prydain rydyn ni wedi gweld gormod o ofodau LHDTC+ yn cau, yn aml oherwydd costau cynyddol neu arferion bywyd nos sy’n newid.
Pan fydd lleoliad yn cau, rydyn ni’n colli mwy na busnes. Rydyn ni’n colli rhywle lle roedd pobl yn teimlo’n ddiogel i fod yn weladwy, rhywle y gallai artistiaid gymryd risg a rhywle y gallai cymunedau ymgynnull heb orfod egluro eu hunain.
Dyna pam mae’r sgwrs am ofodau cwiar yn golygu llawer mwy na hiraeth am noson allan.
Ac er bod y sgyrsiau hynny’n aml yn canolbwyntio ar Lundain neu Fanceinion, mae’r un mor bwysig bod gennym y gofodau hynny yma yng Nghymru. Ddylai artistiaid a chynulleidfaoedd cwiar ddim gorfod edrych i Loegr na thu hwnt i ddod o hyd i ddiwylliant cwiar beiddgar, uchelgeisiol a diymddiheuriad.
Dylai fod yn rhan o’n tirwedd ddiwylliannol ein hunain a’n stori genedlaethol ein hunain.
Un o fy hoff rannau o fy swydd yw siarad â’r artistiaid sy’n dod i berfformio yn Cabaret yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae llawer wedi treulio blynyddoedd yn teithio’r wlad, yn cynnal sioeau gwych mewn ystafelloedd uwchben tafarndai, clybiau annibynnol a gofodau dros dro.
Byddan nhw’n siarad am nosweithiau bythgofiadwy a chymunedau a’u cofleidiodd, ond hefyd am baratoi mewn ystafelloedd newid dros dro llwm a cheisio creu rhywbeth gwych heb fawr ddim. Dyna’r realiti i lawer o berfformwyr cwiar.
Mae diwylliant cwiar wedi cael ei adeiladu mewn llefydd fel y rhain erioed, yn aml oherwydd nad oedd ganddo unman arall i fynd.
Felly mae rhywbeth tawel bwerus ynghylch croesawu’r artistiaid hynny i Ganolfan Mileniwm Cymru.
Maen nhw’n cyrraedd adeilad eiconig sy’n ganolbwynt diwylliannol a dinesig ym Mae Caerdydd, lle sydd wedi dod yn un o dirnodau diffiniol Cymru fodern.
Ac maen nhw’n dod â holl egni, beiddgarwch a chreadigrwydd y sîn lawr gwlad gyda nhw, ac yn sydyn nid yw’r byd hwnnw wedi’i guddio ar yr ymylon mwyach – mae’n weladwy, yn cael ei ddathlu ac yn union lle dylai fod.
Ac rydych chi’n gallu gweld beth mae hynny’n ei olygu i bobl. Rydych chi’n ei glywed wedyn hefyd. Yn ein tymor diweddaraf, roedd mwyafrif helaeth aelodau’r gynulleidfa a rannodd adborth yn graddio eu profiad fel un da neu dda iawn, gyda’r geiriau “hamddenol” a “chynhwysol” yn cael eu defnyddio fwyaf aml.
I fi, mae’r geiriau yna’n bwysicach nag unrhyw sgôr, oherwydd maen nhw’n cyfleu yr hyn mae’r nosweithiau yma’n ei olygu mewn gwirionedd.
Harddwch cabaret fel ffurf ar gelf yw ei fod bob amser wedi cadw adloniant a chymuned yn un. Mae’n rhoi lle i artistiaid arbrofi ac yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd brofi rhywbeth na fydden nhw o bosib erioed wedi dod ar ei draws o’r blaen.
Mae naws agos atoch Cabaret, gyda chapasiti i 150 o bobl eistedd ar seddi heb eu cadw wrth fyrddau, yn golygu fy mod i wedi gweld pobl yn cyrraedd yn nerfus ar eu pennau eu hunain ac yn gadael wedi gwneud ffrindiau newydd.
Rydw i wedi gweld cynulleidfaoedd yn darganfod perfformwyr sy’n adlewyrchu fersiynau ohonyn nhw eu hunain dydyn nhw heb eu gweld yn aml yn cael eu cynrychioli ar y llwyfan.
Rydw i wedi gwylio artistiaid a ddechreuodd mewn lleoliadau bach ar lawr gwlad yn perfformio gyda hyder sy’n deillio o wybod eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi. Efallai fod yr eiliadau yna’n ymddangos yn fach, ond gyda’i gilydd dyna sut mae diwylliant yn newid.
Dyna hefyd pam rydw i’n credu bod gan sefydliadau diwylliannol mawr gyfrifoldeb i wneud lle i leisiau cwiar drwy gydol y flwyddyn, nid yn ystod Pride yn unig.
Nid oherwydd y dylen nhw fynd ar ôl trends poblogaidd na gwneud gweithredoedd symbolaidd, ond oherwydd y dylen nhw adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.
Mae sefydliadau fel Canolfan Mileniwm Cymru wedi bod yn gyfystyr â sioeau cerdd, operâu mawreddog, sioeau bale a chynyrchiadau mawr eraill ers tro byd, a da hynny.
Ond gallan nhw hefyd fod yn llefydd lle mae cynulleidfaoedd yn dod ar draws drag, bwrlésg, adrodd straeon cwiar ac artistiaid nad yw eu gwaith yn eistedd yn daclus mewn categorïau confensiynol. Yn achos Canolfan Mileniwm Cymru, mae’r ysbryd o greadigrwydd agored eisoes yn bodoli; ac yn un agwedd ar ei hunaniaeth sy’n haeddu mwy o sylw.
Un o’r pethau mwyaf cyffrous rydw i wedi sylwi arno dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yw’r hyder cynyddol yn y sîn greadigol cwiar yng Nghymru.
Mae mwy o artistiaid yn creu gwaith yn y sîn, mae mwy o gynulleidfaoedd yn ei gofleidio ac rydyn ni’n dechrau gweld perfformiadau cwiar nid yn unig fel rhywbeth i’w gynnal, ond fel rhywbeth i’w feithrin a buddsoddi ynddo.
Mae hynny’n bwysig, oherwydd mae’n golygu nad yw diwylliant cwiar Cymru yn benthyca’i hunaniaeth o rywle arall – mae’n adeiladu ei hunaniaeth ei hunan. Ac mae’r hyder yna’n heintus. Mae’n annog rhaglenwyr, cynhyrchwyr ac artistiaid fel ei gilydd i fod yn fwy beiddgar, yn fwy uchelgeisiol ac i gredu bod modd creu’r genhedlaeth nesaf o waith cwiar yma, ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru, ar ein telerau ein hunain. A byddwch chi’n gweld mwy o hyn yn Cabaret yn fuan iawn.
Efallai mai dyna beth ddylai Pride ein hatgoffa ni ohono. Nid dim ond i ddathlu cymunedau cwiar am ychydig ddyddiau bob blwyddyn, ond i gydnabod gwerth y mannau sy’n caniatáu iddyn nhw ffynnu drwy gydol y flwyddyn.
Mewn cyfnodau anodd, gall llawenydd fod yn weithred radical, ac mae llawenydd cwiar wedi bod yn fwy na dathlu yn unig. Mae’n ymwneud â gwelededd, perthyn a’r hyder i hawlio lle. Ac mae hynny’n haeddu bod wrth wraidd ein bywyd diwylliannol, nid ar yr ymylon.
Aled yw cynhyrchydd Cabaret, ein cartref ar gyfer drag, comedi, bwrlésg a pherfformiadau byw amgen. Cymerwch olwg ar ddigwyddiadur Cabaret.
Ysgrifennwyd yr erthygl yma yn wreiddiol ar gyfer Nation.cymru