Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Evolver_Cannes_2024_HL_OlivierVigerie_CannesImmersiveXCateBlanchett__18-05-2024_18542 (3)

Evolver, y profiad realiti rhithwir ymdrochol gan Marshmallow Laser Feast gyda llais Cate Blanchett, yn dod i Gaerdydd

Mae’r profiad ymdrochol Evolver, sydd â Cate Blanchett yn adroddwr arno ac sydd wedi’i gyfarwyddo gan y gasgleb adnabyddus o artistiaid Marshmallow Laser Feast, yn dod i Gaerdydd wrth i Ganolfan Mileniwm Cymru agor ei harddangosfa haf flaenllaw ddydd Iau 23 Gorffennaf.

Cate Blanchett stands in from of LED screen showing Evolver
Cate Blanchett, Evolver, MLF

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gwahodd cynulleidfaoedd i gamu i mewn i’r corff dynol yr haf yma gydag Evolver – profiad ymdrochol gwefreiddiol gan gasgleb o artistiaid sy’n adnabyddus yn fyd-eang, Marshmallow Laser Feast, gyda Cate Blanchett, actores sydd wedi ennill dwy wobr Academi, yn adrodd arno.

Mae Evolver, sy’n agor ddydd Iau 23 Gorffennaf, yn rhan o raglen ymdrochol Annwn y Ganolfan dros yr haf, rhaglen sy’n dod â chyfres o brofiadau sydd wedi cael clod rhyngwladol – o waith amlsynhwyraidd graddfa fawr i sinema realiti rhithwir – i Gaerdydd.

Evolver wedi’i gyfarwyddo gan Marshmallow Laser Feast

Marshmallow Laser Feast (MLF) yw un o brif stiwdios artistiaid ymdrochol y byd, ac maen nhw’n creu gwaith uchelgeisiol sy’n cyfuno celf, gwyddoniaeth a thechnoleg newydd. Gan weithio ar draws gosodweithiau ymdrochol, realiti ymestynnol (XR), ffilm a pherfformiadau, maen nhw’n llunio amgylcheddau a gwaith celf amlsynhwyraidd lle mae data’n troi’n synhwyraidd, lle mae systemau ecolegol yn dod yn agos-atoch, a lle mae’r prosesau anweledig sy’n cynnal bywyd yn cael eu gwneud yn ganfyddadwy. Mae cynulleidfaoedd ledled y byd wedi profi eu gosodweithiau, o amgueddfeydd ac orielau mawr i wyliau rhyngwladol, gan gynnwys Gŵyl Ddwyflynyddol Fenis a Gŵyl Tribeca, ac mae’r gwaith yn cael ei ddathlu am drawsnewid syniadau gwyddonol cymhleth yn brofiadau synhwyraidd eithriadol.

Bydd Evolver yma o 23 Gorffennaf tan 30 Awst, gan fynd â chynulleidfaoedd ar daith ryfeddol drwy’r corff dynol. Gyda llais yr actores Cate Blanchett, sydd wedi ennill dwy wobr Academi, yn eu tywys, bydd yr ymwelwyr yn dilyn taith un anadl drwy ysgyfaint canghennog, pibellau gwaed a’r celloedd, gan ddatgelu’r cysylltiadau anweledig rhwng ein cyrff a byd natur.

Gan gyfuno taflunio ymdrochol, sain ofodol, myfyrdod, gwyddoniaeth ac adrodd straeon, y gwneuthurwyr ffilm clodwiw Edward R. Pressman a Terrence Malick ydy uwch gynhyrchwyr y

profiad, gyda’r trac sain yn cynnwys cerddoriaeth gan Jonny Greenwood, Meredith Monk, Jóhann Jóhannsson, Howard Skempton a Jon Hopkins.

Yn lle arsylwi ar y corff o’r tu allan, mae cynulleidfaoedd yn cael eu gwahodd i’w brofi o’r tu mewn, gan greu archwiliad myfyriol a syfrdanol o anadl, ymwybyddiaeth a’n perthynas â’r byd byw.

Meddai Eleanor (Nell) Whitley, Rheolwr Gyfarwyddwr Marshmallow Laser Feast: "Rydyn ni'n falch iawn o gael cyflwyno Evolver yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac o fod yn rhan o'u buddsoddiad cynyddol mewn gwaith adrodd straeon ymdrochol. Mae Evolver yn gwahodd cynulleidfaoedd i fynd o dan y croen, i gamu i mewn i'r corff dynol a phrofi, yn uniongyrchol, sut mae anadl yn ein cysylltu ni i gyd. Mae gan Gymru draddodiad dwfn o gysylltu pobl â'r byd naturiol drwy'r celfyddydau, a gobeithio y bydd cynulleidfaoedd Caerdydd yn gadael yr arddangosfa gan deimlo'r cysylltiad yna'n fwy byw nag erioed."

Meddai David Massey, Uwch Gynhyrchydd, Technoleg Greadigol ac Adrodd Straeon, Canolfan Mileniwm Cymru: "Mae Marshmallow Laser Feast yn rhai o artistiaid ymdrochol mwyaf cyffrous y byd, sy’n cyfuno technoleg arloesol gyda gwaith adrodd straeon pwerus i greu profiadau gwirioneddol fythgofiadwy. Rydyn ni wrth ein boddau o gael dod ag Evolver i Gaerdydd fel arddangosfa nodedig yn ein rhaglen haf.

“Mae Evolver yn gwahodd cynulleidfaoedd i bwyllo, i edrych ar y byd mewn ffordd wahanol ac i ailgysylltu â’u hunain, â’i gilydd, ac â byd natur. Dyma’r union fath o waith uchelgeisiol a byd-eang rydyn ni’n ymroddedig i’w gyflwyno i Gymru, wrth i ni barhau i ddatblygu enw da fel cyrchfan ar gyfer mathau newydd o waith adrodd straeon.”

Adroddwr: Cate Blanchett

Cerddoriaeth gan: Jonny Greenwood, Meredith Monk, Jóhann Jóhannsson, Howard Skempton a Jon Hopkins.

Uwch Gynhyrchwyr: Edward R. Pressman a Terrence Malick, gyda chefnogaeth gan Nicole Shanahan a Sefydliad Bia-Echo.

Cynhyrchiad gan Atlas V, Pressman Film, Dirty Films, Marshmallow Laser Feast ac Orange. Mewn cydweithrediad ag Artizen.

Cynhyrchwyr: Antoine Cayrol a Sam Pressman.

Uwch Gynhyrchwyr: Nicole Shanahan, Cate Blanchett, Coco Francini, Andrew Upton, Nell Whitley, Mike Jones, Paula Paizes, René Pinnell, Arnaud Colinart, Pierre Zandrowicz, Fred Volhuer.

Cyd-gynhyrchwyr: Guillaume Brunet a Morgan Bouchet.

Cynhyrchwyr Llinell: Martin Jowers ac Emma Hamilton.

Mewn cydweithrediad â Natan Sinigaglia.