Mae clip rhagflas ar gyfer Owain & Henry, lle bydd Michael Sheen yn serennu fel Owain Glyndŵr, wedi'i ryddhau heddiw i nodi Diwrnod Owain Glyndŵr.
Mae'r ffilm newydd atmosfferig yn cynnig cipolwg ar Sheen fel y tywysog chwedlonol cyn y première byd-eang o ddrama epig newydd Gary Owen fydd i'w gweld yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Tachwedd eleni.
Ar 16 Medi 1400, cyhoeddwyd Glyndŵr yn Dywysog Cymru gan ei ddilynwyr, gan gychwyn gwrthryfel 15 mlynedd yn erbyn rheolaeth Harri IV, brenin Lloegr. Mae'r achlysur yn cael ei goffáu bob blwyddyn fel Diwrnod Owain Glyndŵr. Y llynedd, cafodd y ddelwedd a'r clip sain cyntaf o Sheen yn y rhan ei ryddhau i nodi'r achlysur.
Mae'r rhagflas yn codi disgwyliadau ar gyfer Owain & Henry, wrth i Offeiriad gyhoeddi dyfodiad Glyndŵr fel Tywysog y Cymry.
Yn gymeradwy gan waed,
yn gymeradwy gan weithred,
yn gymeradwy gan gymrodyr,
yn gymeradwy gan elynion,
yn gymeradwy gan broffwydoliaeth,
yn gymeradwy gan dân y nefoedd a chryndod y ddaear,
ac wedi’i ddewis i’n harwain ni gan Dduw ei Hun.
Cyfod Owain, tywysog y Cymry.
Mae Owain & Henry, sydd wedi'i ysgrifennu gan Gary Owen a'i gyd-gyfarwyddo gan Sheen a Steffan Donnelly, yn dod â'r cyfnod tyngedfennol yma yn hanes Cymru i'r llwyfan, gyda Sheen yn chwarae rhan Owain mewn cyd-gynhyrchiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Welsh National Theatre.
Yn ymuno â Michael Sheen yn rhan tywysog Cymru, bydd yr actor llwyfan a sgrin clodwiw Linus Roache (Law & Order, Vikings, Richard II) yn chwarae'r rhan deitl arall, sef brenin Lloegr, Harri IV. Mae'r cynhyrchiad yn archwilio'r gwrthdaro ffrwydrol rhwng dau ddyn sydd â dwy weledigaeth wahanol o arweinyddiaeth, cenedligrwydd a grym, wrth i wrthryfel Owain Glyndŵr fygwth gweddnewid dyfodol gwledydd Prydain.
Bydd Rakie Ayola yn ymuno â nhw fel Mared ferch Dafydd, uchelwraig a gwraig Owain, a bydd Emily Burnett yn chwarae rhan eu merch, Catrin ferch Owain. Bydd Sophie Melville yn chwarae rhan y fam a drodd yn rhyfelwr, Lois, tra bydd Ned Costello yn chwarae rhan Hal, etifedd gorsedd Lloegr.
Bydd cyd-gynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Welsh National Theatre, Owain & Henry, yn cael ei berfformio yn Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o 5-28 Tachwedd 2026. Archebwch nawr.