Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
7ee6061c-f89e-4e07-a339-4916104f4527

Profiad Realiti Rhithwir Cymraeg Yn Creu Hanes Yn Fenis

Ôl yw’r gwaith realiti rhithwir Cymraeg cyntaf i gael ei ddewis ar gyfer cystadleuaeth yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Fenis, gan nodi carreg filltir bwysig ar gyfer adrodd straeon ymdrochol yn y Gymraeg.

Ôl yw’r gwaith realiti rhithwir Cymraeg cyntaf i gael ei ddewis ar gyfer cystadleuaeth yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Fenis, gan nodi carreg filltir bwysig ar gyfer adrodd straeon ymdrochol yn y Gymraeg.

Mae Ôl, a gafodd ei ddewis ar gyfer y Categori Ymdrochol yn 83ain Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Fenis, yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith hiraethus yn ôl i 2006 – ugain mlynedd yn ddiweddarach. Bydd y gwaith yn cael ei gyflwyno ar Ynys Ymdrochol Fenis o 2 tan 12 Medi, sef ei ddangosiad rhyngwladol cyntaf. Mae’n un o ddim ond 68 o brofiadau ymdrochol o bob cwr o’r byd sydd wedi’u dewis ar gyfer y rhaglen eleni.

Cyn teithio i Fenis, bydd Ôl hefyd yn cael ei arddangos drwy gydol yr wythnos ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gŵyl gelfyddydau a diwylliant fwyaf Cymru, a fydd yn cael ei chynnal yn ardal y garreg las yng Ngogledd Sir Benfro rhwng 1 ac 8 Awst.

Mae’r profiad dwyieithog yn bosib drwy Archif Ddarlledu Cymru, prosiect gan y Llyfrgell Genedlaethol, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru ac mae’n gyd-gynhyrchiad rhwng Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr Pilot a Dreaming Methods a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â’r Llyfrgell Genedlaethol.

Drwy’r profiad, sy’n cael ei adrodd yn Gymraeg gan Steffan Donnelly, ac yn Saesneg gan Callum Scott-Howells (It’s a Sin), bydd cynulleidfaoedd yn cael eu cludo i Lanberis, hen dref chwarelyddol yng Ngwynedd ar drothwy byd newydd lle mae Twitter newydd gael ei lansio ac mae pobl ifanc yn dod i arfer yn gyflym â chymdeithas lle mae’r cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg yn dechrau cymryd gafael.

Mae’r teitl a’r cysyniad yn tynnu ar yr hiraeth roedd y cyd-gyfarwyddwyr, Lucy Hammond a Tomos Chetwode-Barton, eisiau ei ddeffro mewn cynulleidfaoedd gan gyfeirio at brofiad sy’n taro tant gyda’n llencyndod a’r llefydd, y bobl a’r gerddoriaeth sy’n aros gyda ni ymhell i mewn i’n bywydau fel oedolion.

Wrth siarad am gael ei dewis ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Fenis, meddai’r cyd-gyfarwyddwr Lucy Hammond: “Mae’n hynod gyffrous gweld Ôl yn cael ei gydnabod ar lefel ryngwladol.

“Mae gweld gwaith ymdrochol yn cael ei ddathlu yng ngŵyl ffilmiau hyna’r byd yn dangos pa mor bwerus y gall fod fel dull o adrodd straeon; rydyn ni’n gobeithio y bydd yn ennyn yr un teimladau o hiraeth mewn cynulleidfaoedd byd-eang ag y mae wedi’i wneud i gynulleidfaoedd adre.”

Caiff delweddaeth o ddiwylliant ieuenctid y cyfnod ei gosod yn erbyn cefndir chwareli a mynyddoedd llechi tywyll gorffennol diwydiannol yr ardal a naratif a ysgrifennwyd gan Tomos Chetwode-Barton, awdur-gyfarwyddwr a enwebwyd am BAFTA sy’n byw ar Ynys Môn, y mae eu gwaith yn aml yn archwilio themâu dosbarth, diwylliant rhanbarthol, mytholeg a rhywedd.

Meddai’r awdur a’r cyd-gyfarwyddwyr Tomos Chetwode-Barton: “Mae’n gwych gweld gwaith ymdrochol Cymraeg yn cael ei gydnabod ar y llwyfan yma. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn taflu goleuni ar y creadigrwydd a’r doniau sydd gan Gymru ac yn dangos sut gall gwaith adrodd straeon ymdrochol gysylltu â chynulleidfaoedd ym mhob man.”

Daw’r cynhyrchiad fel rhan o ymrwymiad ehangach Canolfan Mileniwm Cymru i greu gwaith newydd yn y maes ymdrochol a chefnogi artistiaid Cymru.

Meddai David Massey, Uwch Gynhyrchydd, Technoleg Greadigol ac Adrodd Straeon, Canolfan Mileniwm Cymru: Mae Ôl yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i ddatblygu gwaith ymdrochol a chefnogi’r artistiaid sy’n ei greu, yng Nghymru a thu hwnt.

“Mae adrodd straeon ymdrochol yn rhan gynyddol bwysig o’n rhaglen yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac rydyn ni’n parhau i fuddsoddi mewn gwaith newydd yn y maes yma – drwy Wobr flynyddol Annwn, a thrwy gomisiynau newydd, gan gynnwys cyd-gynhyrchiad sy’n dod i’n tymor yn 2027 sy’n gwneud yn union hyn.”

Y stiwdio realiti rhithwir, Dreaming Methods (Judi Alston ac Andy Campbell) yn Wakefield, arweiniodd ar y gwaith o ddatblygu’r cysyniad a’r gwaith creadigol ymdrochol.

Gyda cherddoriaeth gan yr artistiaid o Gymru Super Furry Animals, John Cale a High Contrast, mae Ôl yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith amlsynhwyraidd, gan gyfuno theatr, tirweddau rhithwir a deunydd archif o Archif Ddarlledu Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol – sy’n cynnwys casgliad helaeth o gynnwys BBC Cymru, ITV Cymru ac S4C.