Ydych chi'n chwilio am anrheg ar gyfer San Ffolant neu noson allan gyda'r merched?
Mae gennym ni ddigonedd o gynyrchiadau i ddewis ohonyn nhw, o sioeau cerdd rhamantus traddiadol i sioeau fydd hyd yn oed eich ffrind neu bartner sy'n meddwl nad ydyn nhw'n hoffi theatr yn eu mwynhau!
RHAMANT
Matthew Bourne’s Production of The Red Shoes 3–7 Mawrth
Fel stori tylwyth teg ddiamser a ffilm a enillodd wobr yr Academi, mae The Red Shoes wedi swyno cynulleidfaoedd ac ysbrydoli cenedlaethau o ddawnswyr gyda’i hanes pwerus am obsesiwn, meddiant a breuddwyd un ferch am fod y dawnsiwr gorau yn y byd. Bydd y ddrama gyffrous yma, lle mae bywyd yn dynwared celf gyda chanlyniadau anochel, yn syfrdanu eich synhwyrau ac yn torri eich calon.
The Bodyguard 20–25 Gorffennaf
Mae The Bodyguard, drama gyffrous a hynod ramantus, yn cynnwys llu o glasuron cymhellol gan gynnwys Queen of the Night, So Emotional, One Moment in Time, Saving All My Love, Run to You, I Have Nothing, Greatest Love Of All, Million Dollar Bill, I Wanna Dance With Somebody ac un o’r caneuon gorau erioed – I Will Always Love You.
Gyda Sidonie Smith, Adam Garcia a Matt Milburn.
Dirty Dancing 20–24 Hydref
Dewch i weld y ffilm boblogaidd o flaen eich llygaid gyda’r sioe fyw wych, emosiynol a champus yma. Mae’r stori eiconig yn cynnwys y caneuon hynod boblogaidd 'Hungry Eyes', ‘Hey! Baby’, ‘Do You Love Me?’ a’r drawiadol ‘(I’ve Had) The Time Of My Life’, a chast o ddawnswyr anhygoel.
NOSON GYDA'R MERCHED
Mean Girls 10–14 Mawrth
Ffoniwch eich ffrindiau, mae hon yn mynd i fod yn ‘fetch’! Mean Girls yw’r comedi cerddorol llwyddiannus doniol gan dîm creadigol arobryn gan gynnwys yr awdur Tina Fey a gyda’r bersonoliaeth teledu, actor a seren Steps Faye Tozer. Gallwch chi ddisgwyl cymeriadau eiconig, ffraethineb siarp a chaneuon bachog.
Legally Blonde 16–20 Mehefin
Gyda'r Gymraes a seren Strictly Come Dancing Amber Davies, mae’r comedi rhamantus eithaf yma, sy’n seiliedig ar y ffilm arobryn gyda Reese Witherspoon yn y brif ran, yn dilyn Elle Woods wrth iddi drawsnewid o arweiniwr ffasiwn i bencampwr cyfreithiol yn Ysgol y Gyfraith Harvard, i gyd yn enw cariad.
NOSWEITHIAU ALLAN GWYCH (i'ch partner neu ffrind sy'n meddwl nad ydyn nhw'n hoffi theatr!)
The Spy Who Came in from the Cold 28 Ebrill – 2 Mai
Un o bobl sydd wedi bod yn mwynhau The Night Manager. Am y tro cyntaf erioed, mae nofel gan John le Carré – meistr cydnabyddedig y genre ysbïo modern – yn dod yn fyw mewn addasiad llwyfan cyffrous. Yn seiliedig ar y nofel a oedd ar restrau gwerthwyr gorau ledled y byd ac a gafodd ei enwi fel un o’r 100 o Nofelau Gorau Erioed gan TIME Magazine, mae The Spy Who Came In From The Cold yn daith afaelgar drwy dir niwlog ysbïo, twyll a chyfaddawd moesol y Rhyfel Oer.
The Choir of Man 19–23 Mai
Croeso i The Choir of Man, y dafarn orau yn y byd… Dewch yn barod i fwynhau’r cyffro!
Yn llawn caneuon gan artistiaid fel Queen, Luther Vandross, Sia, Paul Simon, Adele, Guns & Roses, Avicii a Katy Perry i enwi ond ychydig, dyma dafarn fel nunlle arall! Grŵp hynod dalentog o offerynwyr anhygoel, crefftwyr geiriau o’r radd flaenaf a chantorion penigamp, mae’r cast yma o naw perfformiwr arbennig yn cyflwyno popeth… yn fyw!
Sunny Afternoon 26–30 Mai
Mae Sunny Afternoon yn dathlu egni crai, angerdd a sain ddiamser The Kinks, un o fandiau mwyaf eiconig Prydain, gan adrodd eu stori drwy gatalog anhygoel o ganeuon a gyrhaeddodd brif y siartiau, gan gynnwys You Really Got Me, Lola, ac All Day and All of the Night. Wedi’i osod ym Mhrydain yn ystod y 60au gwrthryfelgar, mae Sunny Afternoon yn ddathliad bywiog ac emosiynol o gerddoriaeth, bywyd a’r band a newidiodd popeth.
Gormod o ddewis?
Mae ein Tystysgrifau Rhodd yn ddilys am 12 mis a gellir eu defnyddio ar gyfer unrhyw sioe neu yn ein bariau theatr.
Neu, i bobl sy’n dod i’r theatr yn aml, cymerwch olwg ar ein cynlluniau aelodaeth. Maen nhw’n cynnig manteision gwych drwy’r flwyddyn fel cyfnodau archebu â blaenoriaeth, gostyngiad o 20% yn ein bariau theatr a Ffwrnais, cynigion arbennig ar docynnau a diweddariadau rheolaidd drwy e-bost.
Os ydych chi’n chwilio am rywbeth mwy arbennig, mae enwi sedd yn ein hawditoriwm eiconig yn ffordd unigryw a hirdymor o fynegi eich cariad.