Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
BLUR, PHI Studio

Cyhoeddi Enwebeion Gwobr Annwn 2027

Artistiaid o bob cwr o'r byd ar restr fer Gwobr Annwn 2027

Mae Canolfan Mileniwm Cymru a Crossover Labs yn datgelu'r rhestr hir ar gyfer Gwobr Annwn 2027 yng nghynhadledd Y Peth Mawr yn Llandudno heddiw. Daw'r 14 gwaith sydd ar y rhestr hir o bob cwr o'r byd ac maen nhw'n arddangos rhai o'r straeon ymdrochol mwyaf dyfeisgar a grëwyd dros y 18 mis diwethaf, gan ffurfio'r rhestr hir ar gyfer y wobr fyd-eang gyntaf o'i math.

Gwobr fyd-eang sy'n dathlu'r gorau mewn gwaith adrodd straeon ymdrochol yw Gwobr Annwn, a gefnogir gan Peter a Janet Swinburn ac sydd bellach yn ei hail flwyddyn. Cafodd ei dychmygu a'i chreu gan Ganolfan Mileniwm Cymru, gyda chefnogaeth gan Crossover Labs, ac mae yn ei hail flwyddyn erbyn hyn. Mae'n cydnabod gwaith sy'n rhoi cynulleidfaoedd wrth wraidd y profiad ac yn defnyddio technoleg greadigol i newid sut mae straeon yn cael eu hadrodd a'u teimlo. Mae rhestr hir eleni'n cwmpasu disgyblaethau ac ymarfer creadigol gan gynnwys realiti rhithwir, realiti cymysg, gosodweithiau, theatr ryngweithiol a gwaith amlsynhwyraidd, gan adlewyrchu ehangder ac uchelgais gwaith adrodd straeon ymdrochol sy'n cael ei greu ledled y byd heddiw.

Rhestr hir Gwobr Annwn 2027, yn nhrefn yr wyddor, yw:

Er bod y gweithiau'n cwmpasu gwahanol dechnolegau, fformatau a diwylliannau, mae llawer yn troi at waith adrodd straeon personol iawn i archwilio'r berthynas rhwng y meddwl, y corff a'r amgylchedd. Mae galar a cholled yn rhedeg drwy The Clouds Are Two Thousand Meters Up a Blur; cof a hunaniaeth drwy Mekwâc a Dark Rooms; gorbryder, iselder a'r meddwl drwy MIRAGE a Sense of Nowhere. Y corff a marwolaeth sy'n siapio The Baby Factory Is Closed, Temping a Voooooo—Peeeeee—, tra bod newid amgylcheddol yn gyrru Gondwana a Fossilised Futures.

Mae eraill yn troi at hanes, gwrthdaro a chwarae: archifau Fformiwla Un yn Black Cats & Chequered Flags, rheng flaen Wcráin yn In 36,000 Ways, ac ewyllys rydd ac ymwybyddiaeth yn Arcade.

Gyda'i gilydd maen nhw'n dangos pa mor eang mae gwaith adrodd straeon ymdrochol yn cael ei ddefnyddio bellach, a pha mor uniongyrchol y gall osod cynulleidfaoedd wrth wraidd stori.

Daw rhestr hir 2027 yn dilyn llwyddiant blwyddyn gyntaf Gwobr Annwn. Yn 2026, cafodd y pedwar gwaith a gyrhaeddodd restr fer y Wobr eu cyflwyno mewn arddangosfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, gan ddenu 2,271 o ymwelwyr a rhoi cyfle i gynulleidfaoedd Cymru brofi rhai o’r straeon ymdrochol mwyaf clodwiw o bob cwr o’r byd.

Meddai Prif Swyddog Creadigol a Chynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Graeme Farrow:

"Mae Gwobr Annwn yn bodoli i hyrwyddo gwaith adrodd straeon ymdrochol ac i roi cartref iddo yng Nghymru. Mae'r rhestr hir yn ein galluogi i gydnabod y maes ehangach bob blwyddyn, cyn dod â detholiad o'r gweithiau i Gaerdydd. Mae'n rhan o ymrwymiad mwy hirdymor, wrth i ni weithio tuag at gartref pwrpasol ar gyfer profiadau ymdrochol erbyn 2030."

Meddai David Massey, Cynhyrchydd Gweithredol Technoleg Greadigol ac Adrodd Straeon Canolfan Mileniwm Cymru:

"Yr hyn sy'n sefyll allan eleni yw sut rydyn ni'n dechrau gweld tuedd newydd gyffrous o ran sut mae straeon ymdrochol yn cael eu dychmygu a'u creu. Mae'r pedwar ar ddeg yma'n weithiau soffistigedig ac uchelgeisiol iawn sy'n cael eu gyrru gan stori ac sy'n cwmpasu Ewrop, y Dwyrain Canol, Asia, Awstralia, Canada ac Unol Daleithiau America. Gyda'i gilydd maen nhw'n rhoi darlun da o sefyllfa gwaith adrodd straeon ymdrochol a'r hyn mae'n gobeithio bod. Mae gwobr Annwn yn foment yn y calendr lle gallwn gydnabod hyn drwy ddathlu’r rhai sy’n creu newid ac sy’n creu gwaith beiddgar gyda dewrder emosiynol go iawn.”

O'r rhestr hir, bydd pwyllgor o arbenigwyr yn y diwydiant yn dewis y rhestr fer o ymgeiswyr terfynol, i'w chyhoeddi ar 28 Ionawr 2027. Bydd tocynnau ar gyfer yr arddangosfa ar werth yn gynnar yn 2027. Yna bydd y gweithiau terfynol yn cael eu cyflwyno mewn arddangosfa fawr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o 10 Mai tan 27 Mehefin 2027, lle gall cynulleidfaoedd eu profi cyn i reithgor annibynnol ddewis yr enillydd cyffredinol.

Gyda chefnogaeth Peter a Janet Swinburn, bydd yr artist neu'r stiwdio fuddugol yn cael £20,000 a phreswylfa bwrpasol i gefnogi datblygiad gwaith newydd.