P'un a ydych chi mewn perthynas neu beidio, nag yw dangos i'r bobl rydych chi'n eu caru pa mor bwysig ydyn nhw i chi yn teimlo'n dda?
Dangoswch ychydig o ramant i'ch partner, prynwch anrheg i'ch ffrind, neu ewch â'ch hun ar ddêt – byddwch chi'n dod o hyd i o leiaf un sioe i'w charu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Darllenwch i gael syniadau anrhegion ar gyfer Santes Dwynwen neu San Ffolant a dewiswch o 8 sioe sydd ar y ffordd yn ein hadeilad eiconig ym Mae Caerdydd.
"powerful, evocative"

Ghost The Musical
Y ffilm Ghost yw un o lwyddiannau mwyaf erioed sinema. Gyda’r diweddar Patrick Swayze ochr yn ochr â Demi Moore a Whoopi Goldberg, dyma oedd y ffilm a wnaeth y mwyaf o arian yn 1990 ac enillodd y sgrin-awdur Bruce Joel Robin wobr Oscar; mae wedi addasu ei sgript ffilm ar gyfer y sioe yma.
"a cheeky, rapid-paced production"

Calamity Jane
Yn seiliedig ar y ffilm Doris Day boblogaidd, bydd actor a chantores arobryn y West End Carrie Hope Fletcher (Cinderella, Les Misérables) yn ymddangos yn y cynhyrchiad newydd ffansi yma. Am beth ydych chi’n aros? Archebwch nawr!
"Glorious! You won't find many better nights out"

& Juliet
Mae stori newydd Juliet yn dod yn fyw drwy restr chwarae o anthemau pop, gan gynnwys Baby One More Time gan Britney Spears, Roar gan Katy Perry a chaneuon eraill a gyrhaeddodd frig y siartiau fel Since U Been Gone, It’s My Life, Can’t Stop the Feeling a mwy
"the entire piece crackled with humour, goodwill and pure joie de vivre"

The Marriage of Figaro
Mae cynhyrchiad WNO, sydd wedi ei osod yn yr oes o’r blaen, yn cynnwys setiau cain, gwisgoedd godidog a holl gynhwysion opera glasurol. Felly, ymunwch â ni wrth i ni gamu i fyd The Marriage of Figaro lle mae cariad a chwerthin yn cydgyfeirio mewn troellwynt o gynlluniau clyfar a gwychder melodig Mozart.
"TERRIFIC"

Matthew Bourne’s Swan Lake
Ar ôl cael ei lwyfannu am y tro cyntaf yn Sadler’s Wells yn Llundain yn 1995, ysgubodd Matthew Bourne’s Swan Lake y byd theatr; dyma’r clasur dawns hyd llawn sydd wedi rhedeg am y cyfnod hiraf yn y West End ac ar Broadway
"Very funny, very sexy and very entertaining"

Cruel Intentions: Sioe Gerdd y 90au
Yn seiliedig ar y ffilm eiconig ac wedi’i hysbrydoli gan Les Liaisons Dangereuses, mae’n llawn clasuron pop y 90au gan gynnwys caneuon gan Britney Spears, Boyz II Men, Christina Aguilera, TLC, R.E.M., Ace of Base, Natalie Imbruglia, The Verve, *NSYNC a llawer mwy!
Noson yn arddangos bwrlésg gorau’r DU

Cadbury's Spring Fling
Ymunwch â ni am noson amrywiaethol yn hyrwyddo ffurfiau gwahanol o fwrlésg, o demtasiwn dymunol i wiriondeb sosi a pherfformiadau gafaelgar, rydyn ni yma i’ch difyrru a’ch gwefreiddio.
"Absorbing, emotive, delicate, and utterly compelling"

Hannah Horton & Jazz Band
Fel cyfansoddwr a sacsoffonydd arobryn wedi’i chefnogi gan Selmer, arweinydd band ac artist recordio llwyddiannus, mae ei thôn gref a chlir, synnwyr rhythmig pwerus a synnwyr cymhellol o alaw yn ei gwneud hi’n llais digamsyniol yn y byd cerddoriaeth.
Yn dwli ar theatr? Ymaelodwch i gael y seddi gorau yn yr awditoriwm yn ogystal â gostyngiadau ar fwyd a diod a chynigion arbennig ar docynnau.