Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Sioeau ysblennydd yr haf yma

Gwyddom eich bod chi eisiau bod allan drwy'r dydd bob dydd yn ystod yr haf (yn dibynnu ar y tywydd wrth gwrs) ond gadewch i ni eich temtio i mewn i'n hadeilad eiconig gyda'n sioeau a gweithgareddau anhygoel.

O sioeau cerdd gyda rhestrau chwarae pop i Nye yn dychwelyd gyda Michael Sheen, edrychwch ar ein dewisiadau ar gyfer yr ychydig fisoedd nesaf.

& Juliet

16–28 Mehefin

Wedi’i chreu gan awdur Schitt’s Creek a enillodd wobr Emmy, mae’r sioe gerdd ddoniol newydd yma yn troi sgript y stori gariad fwyaf erioed ar ei phen ac yn gofyn beth fyddai’n digwydd nesaf pe na bai Juliet wedi rhoi pen ar y cwbl oherwydd Romeo?

Mae stori newydd Juliet yn dod yn fyw drwy restr chwarae o anthemau pop, gan gynnwys Baby One More Time gan Britney Spears, Roar gan Katy Perry a chaneuon eraill a gyrhaeddodd frig y siartiau fel Since U Been Gone, It’s My Life, Can’t Stop the Feeling a mwy – i gyd gan Max Martin, y cyfansoddwr caneuon/cynhyrchydd talentog sydd tu ôl i fwy o ganeuon #1 nag unrhyw artist arall y ganrif yma, a’i gydweithredwyr.

Tocynnau

The Book of Mormon

1–19 Gorffennaf

Mae’r comedi cerddorol sarhaus yma yn dilyn anffodion pâr anghydweddol o genhadon, sy’n cael eu hanfon ar neges i le sydd mor bell o Salt Lake City â phosib.

Wedi'i ysgrifennu gan Trey Parker a Matt Stone, creawdwyr South Park, dyw hwn yn bendant ddim yn un i bobl gwangalon! 

Tocynnau

Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat

22–27 Gorffennaf

Un o sioeau cerdd teuluol mwyaf poblogaidd y byd, gydag enillydd X-Factor Joe McElderry yn codi'r to fel Pharaoh. 

Mae’n cynnwys caneuon theatr gerdd a phop poblogaidd, gan gynnwys Any Dream Will Do, Close Every Door, There’s One More Angel In Heaven a Go, Go, Go Joseph. Byddwch chi'n sicr o fod yn hymian canueon o'r megamix am ddyddiau wedyn. 

Tocynnau

Ghost Stories

29 Gorffennaf–2 Awst

Dewch i mewn i fyd sy’n llawn troeon cynhyrfus ac epig, lle caiff y llythyr cariad eithaf i arswyd ei ddychmygu’n fyw ar y llwyfan.

Y profiad synhwyraidd a gwefreiddiol yma yw un o’r dramâu a gafodd yr adolygiadau gorau erioed yn Llundain, a bydd yn eich cadw ar flaen eich sedd. Mae hwn yn brofiad theatraidd unigryw. Ydych chi'n ddigon dewr i archebu? 

Tocynnau

The Last Laugh

12–16 Awst

Drama ddoniol newydd sbon sy’n ailddychmygu bywydau tri o ddigrifwyr gorau erioed Prydain – Tommy Cooper, Eric Morecambe a Bob Monkhouse.

Yn llawn jôcs gwych a straeon ingol, mae The Last Laugh yn sioe hiraethus a theimladwy ac yn sicr o fod yn noson gomedi wych.

Tocynnau

Nye

22–30 Awst

Os gwnaethoch chi golli'r datganiad gwerthfawr a dewr yma am y GIG yn ystod ei rediad anhygoel a werthodd allan y llynedd, peidiwch â phoeni. Mae Michael Sheen yn dychwelyd i chwarae Nye Bevan yn y dathliad yma o fywyd a gwaddol y dyn a drawsnewidiodd y wladwriaeth les.

A hyd yn oed oes daethoch chi tro diwethaf, rydyn ni'n credu ei bod hi'n werth ei wylio eto – bydd Jason Hughes (Midsomer Murders) yn chwarae Archie Lush eleni. 

Tocynnau

Straeon ymdrochol

Yn ein Stiwdio Weston, mae gennym ni Monsieur Vincent drwy gydol gwyliau'r haf, 21 Gorffennaf–1 Medi. 

Yn y profiad mae Marguerite, un o fodelau olaf yr arlunydd Vincent van Gogh, yn mynd â’r gwyliwr ar daith drwy ei balet o liwiau a gweithiau enwog: yn Provence, lle bu bron â cholli ei hun wrth iddo chwilio am y “nodyn melyn uchel”; coch a gwyrdd y caffis ar hyd yr afon Rhône; lliwiau llachar awyr y nos; ac yng nghaeau gogledd Ffrainc, lle archwiliodd lliwiau pur llawenydd ac angerdd.

Mae Monsieur Vincent yn brofiad estynedig newydd sy’n cynnwys gweithiau enwog ychwanegol gan yr arlunydd, gan gynnwys Café in Arles, Starry Night a Portrait of Van Gogh.

Tocynnau am £6 yn unig!

Cabaret

Os ydych chi'n chwilio am rywbeth mwy anturus ac agos atoch, edrychwch ar raglen Cabaret a llenwch eich penwythnosau â drag, comedi, bwrlésg, jazz a mwy!

Dewiswch o Connie Orff a’i ffreulu (ffrindiau+teulu) lliwgar yn dathlu Drag iaith Gymraeg yn Dragwyl; teyrnged ddoniol ac ymdrochol i seren fwyaf eiconig Hollywood yn One Night with Marilyn; neu Janie Dee's Beautiful World Cabaret, lle mae seren y West End yn wynebu argyfwng yr hinsawdd ac yn dathlu ein byd prydferth drwy ganeuon a gair llafar gyda'i gwestai arbennig Gruff Rhys Jones, i enwi ond ychydig.

Darganfyddwch fwy o sioeau Cabaret

Wedi gweld sawl peth sy'n plesio? 

Edrychwch ar ein hopsiynau aelodaeth os ydych chi'n ymwelydd rheolaidd – mae'r manteision yn cynnwys blaenoriaeth wrth archebu, gostyngiad o 20% yn ein caffis a bariau a chynigion arbennig ar docynnau.