Gadewch i ni eich helpu chi i lenwi eich dyddiadur 2026 â theatr! Mae gennym ni flwyddyn gyffrous o sioeau o'n blaenau.
O Owain & Henry, ein cyd-gynhyrchiad gyda Welsh National Theatre, i sioeau cerdd hudol, dramâu pwerus a dawnsio disglair, mae'n siŵr bod gennym rywbeth byddwch chi'n ei fwynhau.
DRAMÂU PWERUS
Yn seiliedig ar nofel fer Stephen King o 1982, mae cynhyrchiad llwyfan cyffrous o The Shawshank Redemption, sy'n archwilio cyfeillgarwch a gobaith tu ôl i fariau clawstroffobig carchar diogelwch eithaf, yn dod i'n Theatr Donald Gordon y mis yma gyda Joe McFadden, Ben Onwukwe a Bill Ward.
Mae premiere byd y cynhyrchiad llwyfan o Single White Female yn ailddychmygiad dewr a modern o’r llyfr a’r ffilm lwyddiannus, a fathodd ymadrodd ac arwain cenhedlaeth i ofni sawdl stileto! Gyda Kym Marsh a Lisa Faulkner.
Am y tro cyntaf erioed, mae nofel gan John le Carré – meistr cydnabyddedig y genre ysbïo modern – yn dod yn fyw mewn addasiad llwyfan cyffrous o The Spy Who Came in from the Cold, taith afaelgar drwy dir niwlog ysbïo, twyll a chyfaddawd moesol y Rhyfel Oer.
Bron i 50 mlynedd ers iddo ymddangos ar y teledu am y tro cyntaf, mae Fawlty Towers bellach yn ddrama lwyfan newydd sbon wedi’i haddasu gan y seren comedi John Cleese. Gyda ffraethineb, anhrefn, a helbul ar bob tro, dyma ddigwyddiad comedi’r flwyddyn!
SIOEAU CERDD HUDOL
Yn dilyn rhediad yn Llundain a dorrodd recordiau, mae The Lightning Thief: The Percy Jackson Musical yn dod i Gaerdydd y mis yma. Wedi’i addasu o lyfr poblogaidd Rick Riordan gan Joe Tracz, awdur Be More Chill, a gyda sgôr roc gwefreiddiol gan Rob Rokicki, dyma’r antur berffaith ar gyfer duwiau, pobl hanner-gwaed a marwolion!
Dewch i ddawnsio drwy'r nos yn Here & Now: The Steps Musical ym mis Chwefror. Wedi’i gynhyrchu gan Steps, ROYO a Pete Waterman, mae'n cynnwys y caneuon One for Sorrow, Better The Devil You Know, Deeper Shade of Blue, 5, 6, 7, 8 a mwy. Byddai colli allan yn drasiedi.
Ym mis Mawrth, bydd ffefryn y West End a’r seren deledu Lee Mead yn camu ar y llwyfan fel dyn sioe adnabyddus y 19eg ganrif yn Barnum. Bydd y llwyfannu newydd ysblennydd yma yn cynnwys cast ensemble arbennig o dros 20 o actorion-cerddorion yn chwarae 150 o offerynnau, acrobatiaid ac actau syrcas rhyfeddol.
Mae cynhyrchiad newydd ysblennydd o'r sioe gerdd Miss Saigon yn cyrraedd ym mis Mehefin. Mae’r sgôr yn cynnwys caneuon poblogaidd fel 'The Heat is On in Saigon', 'The Movie in My Mind', 'Last Night of the World' a 'The American Dream'.
COFIANNAU CERDDOROL
Wedi’i gosod i drac sain nerthol ei chaneuon eiconig, gan gynnwys The Best, What’s Love Got To Do With It?, Private Dancer a River Deep, Mountain High, darganfyddwch y galon a’r enaid tu ôl i Frenhines Roc a Rôl yn Tina – The Tina Turner Musical ym mis Chwefror.
Bydd Buddy – The Buddy Holly Story yn gwneud i chi deimlo'n wych! Profwch y ddrama, angerdd a chyffro ym mis Mai wrth i gast amldalentog o actorion-cerddorion adrodd stori Buddy Holly, o’i fagwraeth yn Texas i enwogrwydd rhyngwladol
Mae Sunny Afternoon, sy’n dilyn uchafbwyntiau gorfoleddus ac isafbwyntiau arteithiol The Kinks, yn dathlu eu hegni crai, angerdd a sain ddiamser drwy gatalog anhygoel o ganeuon a gyrhaeddodd brig y siartiau, gan gynnwys You Really Got Me, Lola ac All Day and All of the Night.
Mae’r bechgyn ‘nôl wrth i’r sioe syfrdanol wreiddiol a enillodd wobr Tony Jersey Boys ddychwelyd ym mis Awst ar gyfer ei 20 mlwyddiant! Ewch y tu ôl i’r gerddoriaeth a thu mewn i stori Frankie Valli a’r Four Seasons yn y ffenomenon cerddorol yma am fywydau go iawn.
DAWNS DISGLAIR
Bydd Cynhyrchiad Matthew Bourne o The Red Shoes, drama gyffrous lle mae bywyd yn dynwared celf gyda chanlyniadau anochel, yn syfrdanu eich synhwyrau ac yn torri eich calon yn mis Mawrth.
Ym mis Mai rydyn ni'n croesawu Les Ballets Trockadero de Monte Carlo (sydd hefyd yn cael eu galw'n The Trocks) – y cwmni ballet comedi gwrywaidd lle mae pob perfformiad yn gorlifo gyda thwtwau a thestosteron, esgidiau ballet pinc, amrannau ffug ffyrnig ac agwedd prima ballerina.
ADDASIADAU CERDDOROL O FFILMIAU
Gallwch chi ddisgwyl cymeriadau eiconig, ffraethineb siarp a chaneuon bachog yn Mean Girls ym mis Mawrth. Gyda Faye Tozer o Steps yn chwarae tair rôl wahanol.
Mae Priscilla Queen of the Desert, yn seiliedig ar y ffilm arloesol a enillodd wobr Oscar, ‘nôl ym mis Ebrill gyda chynhyrchiad teithiol disglair newydd sbon i ddathlu ei 30 mlwyddiant. Mae gan y strafagansa gerddorol yma drac sain yn llawn eich hoff anthemau disgo a dawns o’r 80au a 90au
Mae Carrie Hope Fletcher yn serennu fel Jenna yn Waitress ym mis Mehefin. Peidiwch â cholli'r comedi cerddorol yma sy'n dathlu cyfeillgarwch.
Mae sioe gerdd ddoniol, eiconig a llwyddiannus y West End a Broadway Legally Blonde The Musical ‘nôl mewn ffasiwn gyda chynhyrchiad newydd enfawr gyda'r Gymraes Amber Davies fel Elle!
Mae’r sioe gerdd lwyddiannus ac arobryn The Bodyguard ‘nôl ym mis Gorffennaf! Mae'r ddrama gyffrous a hynod ramantus yma yn cynnwys llu o glasuron cymhellol gan gynnwys Queen of the Night, I Have Nothing, I Wanna Dance With Somebody ac wrth gwrs, I Will Always Love You.
Mae The Karate Kid - The Musical yn dod â ffilm enwog 1984 yn fyw ar y llwyfan. Peidiwch â cholli profiad theatraidd bythgofiadwy y tymor wrth i’r stori dod i oed emosiynol ddod yn fyw gyda cherddoriaeth fawreddog a choreograffi dyfeisgar a disglair.
Mae Dirty Dancing yn dychwelyd i Gaerdydd ym mis Hydref, yn byrlymu â cherddoriaeth wefreiddiol, emosiwn pur a dawnsio hudolus a nwydus. Dewch i weld y ffilm boblogaidd o flaen eich llygaid gyda’r sioe fyw wych, emosiynol a champus yma.
OPERA ARBENNIG
Byddwch yn barod am antur egniol a chalonogol yn Blaze of Glory! gan Opera Cenedlaethol Cymru ym mis Ebrill – stori ddyrchafol wedi’i osod yng Nghymoedd De Cymru yn y 1950au. Mae'n ddathliad o Wlad y Gân ac yn cydnabod y gall ysbryd cymunedol oresgyn adfyd.
Mae WNO hefyd yn cyflwyno ailddychmygiad gafaelgar o The Flying Dutchman gan Wagner. Y môr, a ysbrydolwyd gan brydferthwch hynod arfordir Cymru, yw canfas yr opera, sydd hefyd yn orfodaeth ac yn garchar i'w chymeriadau.
SIOEAU TEULUOL RHYFEDDOL
Yn dilyn galw mawr, mae Bluey, Bingo, Bandit a Chilli yn dychwelyd i Gaerdydd yn y sioe lwyfan a gafodd ei henwebu am wobr Olivier, Bluey’s Big Play. Gyda phypedau gwych, mae’r addasiad theatraidd yma o’r gyfres deledu i blant a enillodd wobr Emmy yn llawn cerddoriaeth, chwerthin a hwyl i’r teulu cyfan.
Mae cynhyrchiad llwyddiannus y West End o Annie yn cyrraedd ym mis Gorffennaf. Gyda llyfr a sgôr a enillodd wobr Tony®, gan gynnwys y caneuon bythgofiadwy It’s The Hard-Knock Life, Easy Street, I Don’t Need Anything But You a Tomorrow, rydych chi’n siŵr o fwynhau!
Mae Matilda The Musical, wedi’i ysbrydoli gan y llyfr poblogaidd gan Roald Dahl, yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru Nadolig nesaf. Gyda cherddoriaeth a geiriau gan Tim Minchin, Matilda yw stori merch fach anarferol sydd â dychymyg byw a meddwl siarp, yn meiddio sefyll ei thir a newid ei thynged.
HANES EPIG
Wedi’i ysgrifennu gan Gary Owen a gyda Michael Sheen yn serennu, mae Owain & Henry yn stori epig hanesyddol sy’n llawn pŵer barddonol. Mae’r cynhyrchiad newydd uchelgeisiol yma yn dod ag un o straeon mwyaf diffiniol Cymru yn fyw, lle mae’r frwydr dros fodolaeth cenedl yn y fantol. Mae tocynnau'n gwerthu'n gyflym ar gyfer hon felly peidiwch ag oedi!
Cofiwch gadw llygad ar dudalennau tymor Cabaret a Bocs i weld pa ddigwyddiadau sydd ar y gweill yn ein lleoliadau eraill.
Dwli ar theatr? Ymaelodwch i gael y seddi gorau yn yr awditoriwm, yn ogystal â gostyngiadau ar fwyd a diod a chynigion arbennig ar docynnau.
Os ydych chi eisiau rhoi trip i'r theatr yn anrheg i rywun ond methu dewis pa sioe, gadewch iddyn nhw ddewis gydag un o'n tystysgrifau rhodd.
Cofiwch, mae pob tocyn a brynwch yn ein helpu ni i drawsnewid mwy o fywydau ifanc, meithrin doniau Cymreig creadigol a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gartref i bawb yn ein cymuned.