Ar ôl haf heulog, mae’n amser meddwl am hydref clyd.
O premiere ein cyd-gynhyrchiad newydd sbon gyda Welsh National Theatre i sioeau cerdd teuluol, operâu clasurol i cabaret digywilydd a phrofiadau ymdrochol anhygoel, gadewch i ni eich helpu chi i lenwi eich dyddiadur dros yr ychydig fisoedd nesaf.
Theatr Donald Gordon
Dog Man: The Musical
16 + 17 Hydref
Mae'r sioe gerdd newydd ddoniol yma yn seiliedig ar y gyfres llyfrau sydd ar restr gwerthwyr gorau’r byd gan Dav Pilkey, creawdwr Captain Underpants a Cat Kid Comic Club. Yn addas i blant 5+ oed, dyma sioe ddifyr i'r teulu cyfan.
Owain & Henry
5–28 Tachwedd
Wedi’i hysgrifennu gan Gary Owen, dramodydd Cymreig sydd wedi ennill gwobr Olivier, mae'r cyd-gynhyrchiad yma rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Welsh National Theatre yn stori epig hanesyddol sy’n llawn pŵer barddonol. Mae'n dod ag un o straeon mwyaf diffiniol Cymru yn fyw, lle mae’r frwydr dros fodolaeth cenedl yn y fantol.
Matilda the Musical
9 Rhagfyr – 17 Ionawr
Gyda cherddoriaeth a geiriau gan Tim Minchin ac wedi'i hysbrydoli gan y llyfr poblogaidd gan Roald Dahl, Matilda yw stori merch fach anarferol sydd, gyda'i dychymyg byw a meddwl siarp, yn meiddio sefyll ei thir a newid ei thynged.
Dewch â'r teulu cyfan i'r sioe ddoniol a thwymgalon yma – rydych chi'n sicr o adael yn gwenu ac yn hymian nifer o'r caneuon bachog.
UN NOSON YN UNIG
An evening with Liverpool legend Ian Rush MBE
12 Hydref
Wedi'i chyflwyno gan Jed Stone, bydd y noson yma yn rhoi cipolwg i chi o yrfa Ian Rush, gan gynnwys dau gyfnod yn Lerpwl lle daeth yn sgoriwr golau uchaf yn hanes y clwb, gan ennill tlysau di-ri ar hyd y ffordd.
The Ultimate Classic Rock Show
15 Hydref
Dewch â’ch gitâr aer am noson o’r anthemau roc clasurol gorau gan enwogion y gorffennol a’r presennol. Dros ddwy awr o anthemau roc clasurol gan artistiaid yn cynnwys Eric Clapton, Led Zeppelin, Queen, Pink Floyd, Deep Purple, Free, The Eagles a Jimi Hendrix, i enwi ond ychydig!
Leroy Brito – Halftime
6 Rhagfyr
Fel y gwelwyd ar sioe lwyddiannus Netflix Baby Reindeer, gyda slotiau cefnogi ar gyfer Rhod Gilbert a Mo Gilligan, mae Leroy Brito ''nol gyda'i sioe fwyaf a mwyaf uchelgeisiol hyd yma.
Halftime yw ei awr stand-yp doniol newydd am droi'n 45, derbyn eich bod chi'n ganol-oed yn swyddogol, a chamu i mewn i'ch oes DILF.
OPERA CENEDLAETHOL CYMRU
Bluebeard’s Castle ac Oedipus Rex
20 + 25 Medi, 2 Hydref
Yn y rhaglen ddwbl bwerus hon, mae dau ddarn o waith eithriadol o’r 20fed ganrif yn dod at ei gilydd mewn byd cyffredin o ddefod, dirgelwch a dwyster seicolegol.
Mae’r perfformiad unedig, gothig a llawn awyrgylch hwn yn weledol drawiadol ac yn creu cysylltiadau pwerus rhwng dwy chwedl fythol. .
La bohème
27 Medi, 1 + 3 Hydref
Mae campwaith teimladwy iawn Puccini yn cyfleu angerdd ieuenctid drwy rywfaint o’r gerddoriaeth hyfrytaf a'r fwyaf adnabyddus a gyfansoddwyd erioed. Mae La bohème yn dwyn i gof ysbryd a dwyster bywyd bohemaidd: y llawenydd o syrthio mewn cariad, y boen o ollwng gafael a bregusrwydd y cyfan.
Mae’r cynhyrchiad clodfawr hwn yn ailddychmygu’r stori boblogaidd hon gydag eglurder trawiadol a phŵer emosiynol. Fe’i lleolwyd mewn byd llwm, monocrom wedi’i ysbrydoli gan Baris y 1930au, lle mae cysgodion yn loetran a marwolaeth byth yn bell.
LLAIS
7–11 Hydref
Rhythmau byd-eang. Lleisiau llawn enaid. Perfformiadau na ddylech eu colli.
Profwch synau'r byd yn Llais 2026. O bŵer ysbrydol gospel a chreadigrwydd jazz cyfoes i draddodiadau cerddorol cyfoethog India, Ciwba a Gorllewin Affrica, mae'r artistiaid anhygoel yma yn dod â pherfformiadau byw bythgofiadwy i Gaerdydd ym mis Hydref.
Peidiwch â cholli Laurie Anderson, yn perfformio yng Nghymru am y tro cyntaf erioed; Blind Boys of Alabama a London African Gospel Choir yn perfformio Graceland gan Paul Simon; Sirens: Wedi'i gyflwyno gan Lisa Hannigan gyda Landless, Bess Atwell, Charlotte Church a mwy; a Buena Vista All Stars gydag Orchestra Baobab.
CABARET
O strafagansas drag llawn egni ac actau comedi doniol i fwrlésg nwydus, bandiau byw a theatr gig avant-garde, ein llwyfan Cabaret yw lle mae syrpreisys yn cwrdd â sbectaclau.
Mae ein dewisiadau i'r hydref yn cynnwys y sioe gomedi fyrfyfyr gyda band byw Giant Steps, rhifyn mis Medi o Glwb Comedi Caerdydd gyda Leroy Brito a Robin Morgan, y digrifwr cerddorol arobryn Tracey Collins gyda'i sioe ddwbl feiddgar Audrey Heartburn and Moody Judy, a Gagged!, noson gomedi gwiar wedi'i chyflwyno gan Lee Peart.
Barrylesque: Oh! It’s a parody!
16 Rhagfyr – 2 Ionawr
Daliwch ‘mlaen i’ch hetiau papur a’r bybls…
Mae'r sioe ysblennydd cabaret drag yma gan Ganolfan Mileniwm Cymru'n rhoi triniaeth Ynys y Barri llawn i fyd annwyl Gavin & Stacey. Gyda’ch hoff gymeriadau i gyd, wedi’u hailddychmygu fel perfformwyr drag a bwrlésg epig ar gyfer noson o ganu byw, meimio, comedi ac anhrefn. Gallwch chi ddisgwyl ymadroddion bachog eiconig, cymeriadau pryfoclyd a diweddglo cyd-ganu a fydd yn gwneud i bawb godi ar eu traed.
YMDROCHOL
Sinema VR
30 Medi – 11 Hydref
Camwch i mewn i fath wahanol o sinema i brofi chwe darn o waith VR anhygoel, o ddawns ymdrochol a chelf ddigidol i straeon sy'n pylu'r llinell rhwng cof a realiti.
Framerate: Pulse of the Earth
27 Hydref – 10 Ionawr
Wedi’i greu o filoedd o sganiau treigl amser 3D dyddiol o dirweddau Prydain, mae’r gwaith yma yn arsylwi newid ar raddfa sy’n amhosib ei gweld gyda lens camera traddodiadol. Mae'r ddelweddaeth hypnotiig yn tystio i dirweddau sy’n newid. Mae effaith ymddygiad dynol a grym aruthrol byd natur yn ymagor o’ch cwmpas ar draws amrywiaeth o sgriniau.
Fel elusen, mae angen eich cefnogaeth arnon ni. Bydd unrhyw gyfraniad a wnewch yn ein helpu ni i drawsnewid mwy o fywydau ifanc, meithrin doniau Cymreig creadigol a sicrhau ein bod ni'n gartref creadigol i bawb yn ein cymuned.