Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Waitress2026JP-03030-EditCredit Johan Persson

Yr Haf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Camwch i mewn i haf llawn adloniant yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

O sioeau cerdd disglair a cabaret cyfareddol i straeon ymdrochol a chlyd, rydyn ni’n eich gwahodd i fod yn rhan o straeon fel erioed o’r blaen. P’un a ydych chi eisiau cael eich cofleidio yn y profiad, eich syfrdanu neu eich diddanu, mae yna rywbeth yma i bawb.

Chwerthin Mawr a Theimladau Mawr

Dychwelir Carrie Hope Fletcher i Gaerdydd fel Jenna ar daith 10 mlwyddiant Waitress, sioe gerdd sydd yn dafell gynnes ac ingol o fywyd mewn tref fechan.

Yn cynnwys cerddoriaeth gan yr enillydd gwobr Grammy Sara Bareilles a chyfarwyddo gan yr enillydd gwobr Tony® Diane Paulus, mae’r holl gynhwysion yn union gytbwys am y dathliad bywiog o gyfoethogrwydd byw yma.

Bron i 50 mlynedd ers iddo ymddangos ar y teledu am y tro cyntaf mae Fawlty Towers bellach yn ddrama lwyfan newydd sbon wedi’i haddasu gan y seren comedi John Cleese a’i chyfarwyddo gan Caroline Jay Ranger.

Yn syth o dymor yn y West End a werthodd pob tocyn, mae’r cynhyrchiad holl-ddoniol yma am ddod â’ch hoff olygfeydd o ddeuddeg pennod fythgofiadwy’r sioe yn fyw. Yn cynnwys cast a 18 arbennig sydd yn dod a bywyd newydd i’w cymeriadau eiconig gyda ffraethineb, anhrefn, a helbul ar bob tro.

Clasuron y llwyfan Sioe Gerdd

Mae cynhyrchiad llwyddiannus y West End o Annie, hoff sioe gerdd deuluol y byd, yn dychwelyd i Gaerdydd efo cast arbenning o thalent newydd a gwynebau cyfarwydd, fel Claire Sweeney yn rhan Miss Hannigan.   

Wedi’i osod yn Efrog Newydd yn y 1930au, mae Annie’n ferch ifanc ddewr sy’n cael ei gorfodi i fyw bywyd o ddioddefaint yng nghartref plant Miss Hannigan. Mae ei lwc yn newid pan gaiff ei dewis i dreulio’r Nadolig gyda’r biliwnydd enwog Oliver Warbucks. Yn y cyfamser, mae syniadau eraill gan Miss Hannigan ac mae’n cynllwynio i ddifetha ymgais Annie i chwilio am ei theulu go iawn…

Rydych chi’n siŵr o fwynhau.

Mae’r bechgyn ‘nôl wrth i’r sioe syfrdanol wreiddiol a enillodd wobr Tony Jersey Boys yn dychwelyd ar gyfer ei 20 mlwyddiant. Ewch y tu ôl i’r gerddoriaeth a thu mewn i stori Frankie Valli a’r Four Seasons yn y ffenomenon cerddorol am fywydau go iawn.

Yn cynnwys eu caneuon poblogaidd i gyd fel “Sherry,” “Big Girls Don’t Cry,”“Walk Like A Man,” “Can’t Take My Eyes Off You,”“Beggin’,”“Oh What a Night”,  byddwch yn gorfoleddu ar ôl dilyn eu siwrne o strydoedd New Jersey i Oriel Anfarwolion Roc a Rôl - stori sydd wedi’i gwneud nhw’n sêr rhyngwladol unwaith eto.

Fel y Gwelir ar y Sgrîn Fawr

Mae The Bodyguard yn sioe gerdd llwyddiannus ac arobryn sydd yn eich cymryd ar siwrne gerddorol gyffrous ochr yn ochr efo Frank Farmer (Adam Garcia) , cyn-asiant y Gwasanaeth Cudd wrth iddo drio diogelu’r seren Rachel Marron (Sidonie Smith).

Byddwch yn rhan o’r ddrama gyffrous a rhamantaidd wrth i’r pâr ddarganfod nad ydynt mor wahanol ac yr oeddent yn feddwl yn gychwynnol. Yn cynnwys llu o glasuron cymhellol gan gynnwys ‘I Have Nothing’, ‘Million Dollar Bill’, ‘I Wanna Dance With Somebody’ ac un o’r caneuon gorau erioed - ‘I Will Always Love You’.

Ail-ymwelwch hud sinema'r 80au yn y sioe gerdd newydd sbon, The Karate Kid. Mae’r ffilm eiconig a ddiffiniodd cenhedlaeth yn cael eu hatgyfodi ar y llwyfan, gan anrhydeddu gwreiddiau’r stori ddiamser sydd yn dathlu gwydnwch, mentoriaeth a’r cryfder tawel sy’n pontio cenedlaethau.

Stori glasurol am ddod i oed cain sy’n cael eu trawsffurfio a sgôr newydd gwefreiddiol a gwaith dylunio gan dîm dylunio sydd wedi ennill gwobr Tony. Mae’r holl emosiwn, cyffro a chynnwrf o’r ffilm wreiddiol wedi ei chodi i lefel uwch yn y cynhyrchiad arloesol yma.

Ar ôl ysgubo i mewn i’r West End, mae Burlesque yn dod i Gaerdydd ym mis Medi. Gan y cynhyrchydd gweithredol Christina Aguilera ac yr ysgrifennwr Steven Antin, mae Burlesque yn eich gwahodd i glwb fel nunlle arall: byd cudd o dan oleuadau’r ddinas lle mae secwinau yn disgleirio, deniadau yn pelydru a gall bywydau newid mewn chwipiad bwa pluog.

Mae’n daith befriol o hunan-ddarganfod, ac yn cynnwys caneuon pwerus gan Christina Aguilera, Sia a Diane Warren, ochr yn ochr â rhai newydd cyffrous gan Todrick Hall a Jess Folley, mae Burlesque wir yn sioe arallfydol.

Gwobr Annwn 2026

Gwobr Annwn yw’r wobr fyd-eang gyntaf sy’n dathlu rhagoriaeth mewn straeon ymdrochol. Pedwar Byd. Un Lleoliad.

Mae Colored (Noire) - The Unsung Life of Claudette Colvin yn adrodd stori llais anghofiedig a chwaraeodd rhan allweddol yn tanio’r mudiad hawliau sifil. Gwahoddir i chi gwrdd a’r gorffennol a chael eich ymdrochi mewn stori bywgraffyddol sydd eto i’w adrodd. 

Byddwch yn rhan o’r naratif yn Consensus Gentium, a thywyswch stori sy’n archwilio preifatrwydd data, tueddiad anymwybodol a phŵer technoleg. Mae’r cynhyrchiad yma yn cyfuno technoleg canfod wynebau a deallusrwydd artiffisial i ddod a’r stori yn fyw.

Mae Constantinopoliad wedi’i hysbrydoli gan y tudalennau gwag ac wedi’u rhwygo allan o ddyddiadur epig a ddechreuodd Constantine Cavafy pan wnaeth e a’i deulu ffoi o Alexandria. Mae’r cynhyrchiad yn defnyddio cyffwrdd, delweddau a sain i archwilio dychymyg ifanc Cavafy wrth iddo bendroni eu potensial creadigol a’i rhywioldeb.

Yn olaf, dewch yn ganolbwynt cytser sy’n symud fel rhan o NOWISWHENWEARE (the stars). Mae’r osodwaith rhyngweithiol yn eich tynnu chi i mewn i gyfarfod myfyriol a hynod bersonol ag amser, cof a phresenoldeb, efo 4,000 o oleuadau LED adweithiol a seinwedd 496 o sianeli.

Chwerthin Trwy’r Nôs

Mis Mehefin yma mae Cabaret a Little Wander yn cyflwyno GAGGED, noson hwyliog sy’n arddangos y goreuon o fyd stand-yp cwiar gwledydd Prydain. Wedi'i gyflwyno gan yr anhygoel Lee Peart, bydd llwyfan Cabaret yn croesawu’r hun-ddatganedig “prince of puppets”, Lachlan Werner; y comedïwr sych, difynegiant a ddengar o agored, Grace Jarvis; a’r stand-yp doniol gaib, Sam Lake. Dewch allan i fwynhau diod a llwyth o chwerthin!

Mae Quartey & Blayney yn dod a chwyrlwynt o gymeriadau a sgetsys i’r llwyfan cabaret, yn cyfuno ffraethineb efo chomedi sylwadol penigamp. Yn syth a lwyddiannau personol yn Gwobrau Comedi Newydd y BBC 2025 ac ar Amandaland y BBC, mae’r deuawd hoffus yn cyflwyno perfformiadau ffraeth llawn cymeriadau bythgofiadwy. 

Cyfaredd yng Nghanol y Llwyfan

Bydd Cabaret yn cyflwyno noson gyfoethog llawn naws o gerddoriaeth fyw yn Big Band Burlesque. Bydd band tri aelod profiadol yn darparu trac sain bywiog llawn mynegiant, sy'n codi ac yn cario pob perfformiad mewn cyfuniad hudolus o gerddoriaeth, glam a phersonoliaeth.

Beatrix Valhalla sydd am arwain y rhestr o artistiaid, sy’n cynnwys gwestai arbennig fel Belle de Beauvoir i ddarparu noson llawn-dop o dengarwch, hudoliaeth a cyfaredd sy'n aros gyda chi ymhell ar ôl y nodyn olaf.

Mae Glenda & Rita yn ddwy actores o Oes Aur sinema, wedi’u hanfarwoli mewn du a gwyn ac yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i waith yn y byd lliwgar creulon, anfaddeuol hwn.

Ymunwch a nhw ar daith gerddorol wrth iddynt symud drwy’r degawdau ar stori meddylgar wedi’w addurno llawn sylwadau ffraeth a sylwebaeth ingol. Ymdrochwch yn eu byd cyfaredd unliw nhw.

Fel elusen mae angen eich cefnogaeth arnom ni. Bydd unrhyw gyfraniad a wnewch yn helpu i drawsnewid mwy o fywydau ifanc, meithrin talent greadigol o Gymru a gwneud yn siŵr ein bod yn gartref i bawb yn ein cymuned. Bydd pob cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth, helpwch i danio ein dyfodol.