Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd a'r angen brys am weithredu i frwydro yn erbyn heriau amgylcheddol.
Fel sefydliad diwylliannol cenedlaethol, rydym yn deall ein cyfrifoldeb i arwain trwy esiampl. Credwn yng ngrym y celfyddydau i uno, addysgu ac ysbrydoli, a bydd cofleidio cynaliadwyedd yn sicrhau dyfodol lle gall pobl fuddio o'r celfyddydau bob amser. Mae ein hymrwymiad yn glir: byddwn yn lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr, yn cofleidio technolegau adnewyddadwy ac yn gosod y llwyfan ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwnaethom ni gyflawni ardystiad ISO14001 ar ddechrau 2025, gan ffurfioli eich system rheoli amgylcheddol a dangos cydymffurfiaeth â safonau sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol.
Darllenwch ein Polisi Amgylcheddol
“Fel adeilad eiconig a sefydliad celfyddydol blaenllaw ym mhrifddinas Cymru, mae’n bwysig i ni ein bod ni’n hyrwyddo ein cymwysterau cynaliadwy ac yn dangos ein hymrwymiad i leihau ein hôl troed carbon. Mae defnyddio dull ataliol wrth fynd i’r afael â phryderon amgylcheddol yn hollbwysig i Ganolfan Mileniwm Cymru, gan sicrhau ein hymrwymiad parhaus i greu rhagolwg glanach a gwyrddach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.”
Mathew Milsom – Prif Weithredwr
Mae Canolfan Mileniwm Cymru’n cyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy drwy Lyfr Gwyrdd y Theatr, menter gan sector gyfan y celfyddydau i weithio mewn ffordd fwy cynaliadwy.
Fel lleoliad diwylliannol blaenllaw, mae Canolfan Mileniwm Cymru yn falch i hyrwyddo a llywio’r broses o fabwysiadu Llyfr Gwyrdd y Theatr ledled y wlad, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Mae’r fframwaith yn canolbwyntio ar dri maes gwahanol: Adeiladau, Gweithrediadau a Chynyrchiadau.
Rydyn ni’n helpu i lunio dyfodol celfyddydau sy’n amgylcheddol gyfrifol drwy gydweithredu ac arloesedd diwylliannol.
Adeiladau
- Rydyn ni wedi gosod 720 o baneli solar ar ein to gan arbed mwy na 50 tunnell o garbon y flwyddyn. Mae gan ein theatr y ‘llwyfan solar’ cyntaf yn y DU. Byddwn ni’n cynhyrchu mwy na digon o bŵer solar i bweru ein perfformiadau llwyfan (gan gynnwys gwresogi ac oeri’r awditoriwm) bob blwyddyn, dros y 25 mlynedd nesaf a thu hwnt.
- Rydyn ni wedi disodli dros 82% o hen oleuadau aneffeithlon gyda bylbiau LED dros y safle, gydag ymrwymiad i newid y gweddill erbyn 2030.
- Rydyn ni wedi partner gyda sefydliadau mawr eraill i sicrhau ein bod ni’n caffael ein hynni ar y cyfraddau mwyaf cystadleuol a’i fod yn cefnogi cynaliadwyedd.
- Rydyn ni’n un o’r pum cleient angor a helpodd i wireddu’r Rhwydwaith Gwres Ardal yng Nghymru. Bydd hyn yn darparu dŵr cynnes o wres gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu yn y cyfleuster ERF Viridor lleol a bydd yn ein galluogi i leihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil.
- Rydyn ni’n dilyn egwyddorion yr economi gylchol fel rhan o’n dull o weithredu prosiectau, fel ailddefnyddio 70% o’n dodrefn wrth i ni adnewyddu ein swyddfeydd.
Gweithrediadau
- Rydyn ni’n ymdrechu’n gyson i gynyddu faint rydyn ni’n ei ailgylchu tra ein bod ni’n sicrhau nad yw unrhyw wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi. Mae unrhyw wastraff cyffredinol yn cael ei anfon i’r safle Viridor sy’n cefnogi’r Rhwydwaith Gwres Ardal ac yn cynhyrchu egni ‘nôl i Ganolfan Mileniwm Cymru.
- Mae’n rhaid i gontractwyr newydd gael cymwysterau cynaliadwyedd fel rhan o’n proses gaffael.
- Rydyn ni’n gostwng effaith amgylcheddol ein cynigion bwyd a diod, gan leihau deunyddiau pacio, yn enwedig plastigion untro. Yn ein bariau, rydyn ni ond yn cynnig cwpanau plastig caled ailddefnyddadwy, sy’n gwbl ailgylchadwy.
- Rydyn ni’n defnyddio cyflenwyr bwyd lleol.
- Mae 98% o’n tocynnau bellach yn ddigidol, gan leihau’r angen am docynnau papur a gwarchod adnoddau naturiol.
- Rydyn ni’n rhoi hyfforddiant i staff a chyflwyniad i’n nodau cynaliadwyedd yn ystod sesiynau cynefino.
- Rydyn ni wedi arwyddo Siarter Teithio Llesol Cymru sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac yn hyrwyddo dulliau cynaliadwy o deithio.
- Rydyn ni wedi ymrwymo i gynyddu’r nifer o westeion sy’n teithio mewn ffordd gynaliadwy wrth ymweld â Chanolfan Mileniwm Cymru.
- Fel rhan o’n mentrau Cynaliadwyedd parhaus, mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi croesawu ei chlwstwr gyntaf o wenyn, rydym yn falch iawn. Mae peillwyr yn chwarae rhan allweddol yn yr amgylchedd, ond yn anffodus mae dirywiad ohonynt. Rydym wedi ymrwymo i roi cartref i genedlaethau o’r celfyddydau yng Nghymru drwy feithrin diwylliant cryf a sicrhau amgylchedd cadarn.
Cynyrchiadau
- Rydyn ni’n cydweithredu gyda chynhyrchwyr i hyrwyddo Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wrth groesawu sioeau i Ganolfan Mileniwm Cymru.
- Ar gyfer ein cynyrchiadau ac arddangosfeydd ein hunain, rydyn ni’n ailddefnyddio ein setiau ac yn ailgylchu i gefnogi’r economi gylchol ac osgoi gwaredu.
- Roedd ein cyd-gynhyrchiad o Nye gyda’r National Theatre yn cadw at safonau Llyfr Gwyrdd y Theatr.
- Mae Bocs, ein gofod pwrpasol ar gyfer profiadau ymdrochol a realiti ymestynnol (XR), yn cyflwyno profiadau fel ‘Invisible Ocean’, a oedd yn tynnu sylw at faterion amgylcheddol i addysgu’r cyhoedd ac ysbrydoli newid.
Pobl ac Addysg
- Yn ystod sesiynau cynefino staff, caiff aelodau newydd eu cyflwyno i’n polisïau a mentrau cynaliadwyedd, gan feithrin y parch a gofal amgylcheddol sy’n ddilysnodau ein sefydliad.
- Darperir hyfforddiant rheolaidd i staff, gyda chefnogaeth gan gontractwr rheoli gwastraff Canolfan Mileniwm Cymru drwy weithdai a sesiynau addysgu cyflogeion.
- Fel rhan o fenter yn y gweithle, mae aelodau o staff yn rhoi o’u hamser gyda banciau bwyd lleol i helpu i leihau newyn yn ein cymunedau lleol.
- Rydyn ni’n trefnu sesiynau codi sbwriel yn rheolaidd o amgylch Bae Caerdydd, gan wahodd busnesau lleol i ymuno â ni yn ymfalchïo yn yr amgylchedd rydyn ni’n ei rannu. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n creu cymuned lanach a gwyrddach ac yn ysbrydoli newid cadarnhaol o amgylch y Bae.
EIN CAMAU NESAF
- Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn sefydliad allyriadau carbon sero net erbyn 2035.
- Rydyn ni wedi ymrwymo i ymuno â Rhwydwaith Gwres Ardal Caerdydd a fydd yn lleihau ein hallyriadau Cwmpas 2 a 3.
- Byddwn ni’n parhau i hyrwyddo teithio cynaliadwy i gynulleidfaoedd drwy ymrwymo i Siarter Teithio Llesol Cymru a drwy greu partneriaethau gyda Thrafnidiaeth Cymru.
- Byddwn ni’n cynyddu ein cynigion gan gyflenwir bwyd lleol moesegol.
- Byddwn ni’n parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau i seilwaith yr adeilad i leihau defnydd o ynni a gwella effeithlonrwydd gweithrediadau.
- Byddwn ni’n ehangu’r cynnwys cynaliadwyedd yn ein rhaglenni dysgu ac ymgysylltu â’r gymuned, gan rymuso pobl ifanc i weithredu a chefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Gwobrau a Chydnabyddiaethau a roddwyd i Ganolfan Mileniwm Cymru
- Gwobr y Frenhines am Ddatblygu Cynaliadwy, 2015
- Gwobr Effaith IWFM am Weithredu Cadarnhaol ar yr Hinsawdd, 2023
- Tystysgrif Ynni I'w Harddangos, Gradd A, 2024.
- ISO 14001 Accreditation Awarded 2025