Os ydych chi'n chwilio am ofod unigryw i gynnal eich digwyddiad, yna mae'n anodd curo ardaloedd bariau'r theatr sydd ar gael ar dri llawr.

Trosolwg

Mae goleuni haul Bae Caerdydd yn disgleirio drwy'r geiriau enwog ar flaen yr adeilad yn ystod y dydd, a gyda'r nos gallwn drefnu i'w goleuo â'ch lliwiau corfforaethol, gan roi'r 'waw ffactor' i'ch digwyddiad.

Mae gennym dri bar theatr, gan gynnwys Awen Penderyn, Horizons a Stones.

Y bar mwyaf o'r tri yw Awen Penderyn, sy'n plygu â siâp pensaernïol yr adeilad, ac mae lle i dderbyniad o hyd at 200 o bobl yma.

Mae'r gofod hefyd yn boblogaidd ar gyfer digwyddiadau llai, arddangosfeydd, lansio cynnyrch neu fel ardal luniaeth mewn cynadleddau preifat.

Capasiti

Derbyniad / Arddangosfa
200 
Gwledda 160

Er mwyn llogi'r ardal yma cysylltwch â'n tîm digwyddiadau.