Gyda golygfeydd panoramig o rai o dirnodau mwyaf eiconig Caerdydd, mae Ystafell David Morgan yn berffaith ar gyfer cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau bach.
Trosolwg
Gall y gofod ddal cynhadledd o hyd at 50 o bobl yn gyfforddus, neu ystafell fwrdd fach ar gyfer 22 o bobl neu lai. Drwy lithro'r rhaniad sy'n atal sŵn ar draws yr ystafell, mae'r gofod yn troi yn ddwy ystafell o'r un maint ar gyfer niferoedd llai.
Gyda mynediad at Ystafell Preseli gyfagos, mae hefyd yn bosib cynnig gofodau ychwanegol i westeion, neu ystafelloedd pwrpasol i'w defnyddio yn ystod eich digwyddiad.
Capasiti
Arddull Theatr | 50 |
Derbyniad | 30 |
Gwledda | 24 |
Cabaret | 24 |
Ystafell Fwrdd | 22 |
Ystafell Ddosbarth | 16 |
Gwybodaeth Dechnegol
Di-wifr | Oes |
Taflunydd a Sgrin | Oes |
Socedi pŵer | 7 |

Arddull ystafell fwrdd i 24 person
CMC
Arddull ystafell fwrdd i 10 person
WMC