Glanfa yw ein gofod mwyaf lle cynhelir perfformiadau am ddim, ac mae ar gael i'w logi ar gyfer digwyddiadau mawr megis derbyniadau preifat, ciniawau, sioeau ffasiwn, arddangosfeydd a lansiadau.
Trosolwg
Bydd awyrgylch unigryw Glanfa yn gosod unrhyw ddigwyddiad ar wahân, wedi'i swatio rhwng adeiladau eiconig y Senedd a'r Pierhead a'r bae yn gefndir iddo.
Mae'r cyntedd golau braf yn llawn pren cynaliadwy sy'n dod o goedwigoedd Cymru, sy'n rhoi naws wresog llond egni i'r gofod.
Gellir defnyddio Glanfa fel gofod bwyta neu i gynnal seremoni wobrwyo fawreddog i 350 o westeion, derbyniad diodydd i 500, a gellir hyd yn oed ei drawsnewid yn lleoliad ffilmio anhygoel.
Mae Doctor Who, Gavin and Stacey, Plant mewn Angen ac S4C i gyd wedi ffilmio yma.
Gellir cyrraedd y cyntedd o ddwy ochr yr adeilad, ac mae ganddo dai bach hygyrch, lifftiau at y lefelau uwch, a golygfeydd gwych o'r balconïau uchod.
CAPASITI
Derbyniad / Arddangosfa | 500 |
Gwledda | 350 |

Glanfa

Wedi'i goleuo am ginio corfforaethol
Er mwyn llogi'r ardal yma cysylltwch â'n tîm digwyddiadau.