Mae Ystafell Gyfarfod 6 yn berffaith ar gyfer lletygarwch preifat ac fel gofod i gynnal digwyddiadau llai.
Trosolwg
Wedi'i lleoli ar Lefel 2 rhwng ystafelloedd cyfarfod Sony a Seligman, dyma'r lle perffaith i gynnal digwyddiadau arlwyo a rhwydweithio.
Mae lle i 45 o bobl yn gyfforddus yn yr ystafell er mwyn cynnal derbyniad sefyll mewn gofod golau a chyfoes, sy'n edrych ar draws Bae Caerdydd.
Bydd gan westeion fynediad at deras awyr agored er mwyn mwynhau'r golygfeydd ac awyrgylch yr ardal, ac yn y gofod dan do mae lle i'r gwesteion grwydro i ardal y balconi.
Capasiti
Derbyniad | 45 |
Theatr | 40 |
Gwledda | 24 |
Ystafell Ddosbarth | 12 |

Golau a chyfoes
Er mwyn llogi'r ardal yma cysylltwch â'n tîm digwyddiadau.