Os ydych chi'n chwilio am rywle gwahanol i gynnal eich digwyddiad yna efallai yr hoffech roi cynnig ar un o'n hystafelloedd ymarfer unigryw.
Trosolwg
Mae dau o'n prif ofodau ymarfer ar gael i'w llogi ar gyfer digwyddiadau corfforaethol a phreifat, a gellir eu cyrraedd o'r Lanfa.
Tu mewn, mae lle i hyd at 200 o westeion i giniawa, neu ofod arddangos 318m².
Gellir hefyd ehangu'r gofod i lwyfan Theatr Donald Gordon drws nesa, gan greu ardal sy'n 1,200m² i gyd.
Mae bod y tu ôl i'r llwyfan yn rhoi mynediad hawdd drwy ddrysau tal at ardal lwytho'r Ganolfan, sy'n hwyluso pethau i drefnwyr arddangosfeydd a digwyddiadau.

Ystafell ymarfer gwag

Barod am gynhadledd

Barod am arddangosfa
Er mwyn llogi'r ardal yma cysylltwch â'n tîm digwyddiadau.