Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae Canolfan Mileniwm Cymru ("ni" neu "ein") yn ymrwymedig i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd.

Mae'r polisi hwn (ynghyd â'n telerau defnydd ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt) yn nodi ar ba sail y byddwn yn prosesu unrhyw ddata personol a gasglwn gennych neu a ddarperir gennych (gan gynnwys data a gesglir/a ddarperir ar-lein, dros y ffôn neu mewn person).

Darllenwch y canlynol yn ofalus i ddeall ein barn a'n harferion mewn perthynas â'ch data personol a sut y byddwn yn ymdrin ag ef.

At ddiben Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 (y "Rheoliad"), y rheolwr data yw Canolfan Mileniwm Cymru, cwmni cyfyngedig drwy warant, sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr â'r rhif cwmni 3221924 a'r rhif elusen 1060458, y mae ei gyfeiriad cofrestredig ym Mhlas Bute, Caerdydd CF10 5AL.

Ein cynrychiolydd enwebedig at ddiben y Rheoliad yw ein Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol. 

GWYBODAETH Y GALLWN EI CHASGLU ODDI WRTHYCH

Gallwn gasglu a phrosesu'r data canlynol amdanoch:

  • Gwybodaeth a ddarperir gennych wrth lenwi ffurflenni ar ein gwefan yn wmc.org.uk ("ein gwefan") a gwefannau eraill a gynhelir gan Ganolfan Mileniwm Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a ddarperir pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio ein gwefan, tanysgrifio i'n gwasanaethau, gosod archebion, cyflwyno deunydd neu sylwadau neu ofyn am wasanaethau pellach. Gallwn hefyd ofyn i chi am wybodaeth pan fyddwch yn rhoi cynnig ar gystadleuaeth neu gynnig hyrwyddo a noddir gennym, a phan fyddwch yn rhoi gwybod am broblem ynghylch ein gwefan;

  • Os byddwch yn cysylltu â ni, gallwn gadw cofnod o'r ohebiaeth honno;

  • Gallwn hefyd ofyn i chi gwblhau arolygon a ddefnyddiwn at ddibenion ymchwil, er nad oes rhaid i chi ymateb iddynt;

  • Manylion unrhyw drafodion a wnewch ar ein gwefan ac unrhyw archebion a gwblheir gennych (gan gynnwys unrhyw wasanaethau a ddarparwn i chi yn sgil eich ymweliad â'n safle); 

  • Manylion eich ymweliadau â'n gwefan gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i ddata traffig, data lleoliad, blogiau a data cyfathrebu arall, pa un a oes angen y data hwn arnom at ein dibenion bilio ein hunain neu beidio a'r adnoddau a ddefnyddir gennych. 

  • Gall data o'r fath gynnwys eich enw, eich cyfeiriad dosbarthu, eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn a rhifau eich cardiau debyd a/neu gardiau credyd. Ni fyddwn yn cadw unrhyw wybodaeth am eich cerdyn credyd neu ddebyd.


Gallwn hefyd ofyn i chi ateb cwestiynau cyffredinol amrywiol amdanoch eich hun gan gynnwys unrhyw feysydd sydd o ddiddordeb i chi fel y gallwn deilwra gwybodaeth yn y dyfodol yn unol â'r meysydd a allai fod o ddiddordeb i chi yn ein barn ni.

Y DEFNYDD A WNEIR O'CH GWYBODAETH

CYFFREDINOL

Byddwn yn defnyddio gwybodaeth a ddelir amdanoch yn y ffyrdd canlynol er mwyn:

  • Sicrhau y caiff cynnwys o'n gwefan ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol i chi a'ch cyfrifiadur;

  • Darparu gwybodaeth, cynhyrchion neu wasanaethau rydych yn gofyn i ni amdanynt neu a allai fod o ddiddordeb i chi yn eich barn ni, os ydych wedi rhoi caniatâd i ni gysylltu â chi at ddibenion o'r fath; 

  • Cyflawni ein rhwymedigaethau sy'n deillio o unrhyw gontractau a luniwyd rhyngom ni a chi;

  • Eich galluogi i ddefnyddio nodweddion rhyngweithiol ein gwasanaeth, pan fyddwch yn dewis gwneud hynny;

  • Eich hysbysu am newidiadau i'n gwasanaeth a'ch ymweliadau â'n safle neu os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch i hwyluso eich ymweliad; 

  • Darparu gwybodaeth gyfunol am ein defnyddwyr i randdeiliaid (ond nid hysbysebwyr).

  • Cynnal gweithgareddau ymchwil desg a chodi arian er mwyn hyrwyddo dibenion Canolfan Mileniwm Cymru fel elusen.

DIBENION MARCHNATA

Dim ond os byddwch wedi rhoi caniatâd 'optio i mewn' penodol i ni wneud hynny y byddwn yn anfon gwybodaeth atoch am y Ganolfan, ein sioeau a'n digwyddiadau.

Os byddwch yn newid eich meddwl ac am roi'r gorau i dderbyn negeseuon e-bost gennym, gallwch glicio ar 'dad-danysgrifio' ar unrhyw neges e-bost a anfonwyd atoch gan y Ganolfan; mewngofnodi i'ch cyfrif er mwyn newid eich dewisiadau yn uniongyrchol, neu ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 029 2063 6464 i ofyn iddynt ddiweddaru eich cofnod.

Gallwch hefyd newid eich dewisiadau post a ffôn drwy ddefnyddio'r ddau opsiwn olaf.

Os byddwch wedi rhoi caniatâd i ni gysylltu â chi â gwybodaeth farchnata, byddwn yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'r data hynny at ddibenion marchnata ar ôl 7 mlynedd os bydd eich cyfrif wedi bod yn anweithredol dros y cyfnod hwnnw, ac eithrio o dan amgylchiadau penodol iawn; er enghraifft, lle bydd cynhyrchiad ar eich hanes tocynnau yn dod o dan gategori arbenigol neu "niche" a bod rheswm gennym dros gredu yr hoffech gael eich hysbysu am fath tebyg o ddigwyddiad, neu os bydd cwmni penodol yn dychwelyd yn y dyfodol.

Byddwn yn parhau i gadw cofnodion ar ein system am hyd at 15 mlynedd o'r gweithgarwch diwethaf a nodwyd at ddibenion dadansoddi, sydd o fudd cyfreithlon i'n busnes.

Ni fyddwn yn darparu eich manylion i sefydliadau trydydd parti gysylltu â chi â gwybodaeth farchnata oni fyddwch wedi rhoi caniatâd penodol i ni wneud hynny.

DIBENION CODI ARIAN

Rydym yn dadansoddi gwybodaeth a ddarperir gennych a sut rydych wedi ein helpu, er mwyn i ni allu deall ein cefnogwyr yn well. Er mwyn sicrhau eich bod ond yn derbyn cyfathrebiadau codi arian sy'n berthnasol, efallai byddwn yn cynnal ymchwil i ddeall ein cefnogwyr yn well ac i gysylltu â phobl priodol sy'n gallu ein cefnogi ymhellach. Efallai bydd hyn yn cymryd ffurf gweithgareddau proffilio, sgrinio a rhestri neu segmentu mewnol o fewn y cwmni. Er mwyn gwneud hyn byddwn yn defnyddio gwybodaeth ychwanegol amdanoch sydd ar gael yn gyhoeddus. Fel rhan o'n gweithgareddau codi arian, efallai byddwn yn ceisio ychwanegu at wybodaeth archebu gwybodaeth amodol fel gwybodaeth rhwydwaith busnes, cysylltiadau personol a gwybodaeth cyhoeddus arall sy'n perthyn i: oedran, man preswyl, cyfoeth, gyrfa, diddordebau a rhoddion cyhoeddus i fudiadau eraill. 

Nid ydym byth yn defnyddio cwmnïau cyfoethogi data nac unrhyw gwmnïau trydydd parti i ddarparu gwybodaeth bersonol.

WY ALL WELD EICH GWYBODAETH?

Yn 2007, creodd y Ganolfan Gonsortiwm er mwyn i sefydliadau celfyddydol eraill allu elwa ar yr un System Rheoli Cydberthnasau â Chwsmeriaid (CRM) / Tocynnau a ddefnyddir gennym, sef Tessitura, heb orfod buddsoddi cymaint ag y byddai angen iddynt fuddsoddi fel arall.

Rydym yn cynnig dull colegaidd o ddefnyddio Tessitura gyda phartneriaid y consortiwm, gan rannu system er budd pawb yn hytrach na meithrin cydberthynas gorfforaethol fwy traddodiadol.

Ar hyn o bryd, mae'r sefydliadau canlynol yn rhan o'n Consortiwm:

  • Opera Cenedlaethol Cymru 
  • Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru 

Er mai dim ond y sefydliadau priodol all weld unrhyw ddata "sefydliad-benodol" (h.y. gwybodaeth drafodol, data am daliadau, rhyngweithio â chwsmeriaid, hanes tocynnau ac ati), mae tab cyffredinol ar gofnod cwsmer a gaiff ei rannu ymhlith partneriaid y Consortiwm.

Mae hyn yn golygu y gall pob aelod o'r consortiwm weld y wybodaeth ganlynol: Enw, Cyfeiriad, Rhif Ffôn, Cyfeiriad E-bost.

Fodd bynnag, ni chaniateir iddynt ddefnyddio'r wybodaeth hon o dan unrhyw amgylchiadau oni fyddwch wedi rhoi caniatâd penodol iddynt wneud hynny.
Os hoffech ragor o wybodaeth am ein System CRM, Tessitura a'r Consortiwm.

DATGELU EICH GWYBODAETH

Gallwn ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon os oes dyletswydd arnom i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol, neu os credwn yn ddidwyll bod angen i ni wneud hynny, neu er mwyn gorfodi neu gymhwyso ein telerau defnydd neu amodau gwerthu a chytundebau eraill; neu i ddiogelu ein hawliau, ein heiddo, neu ein diogelwch neu hawliau, eiddo neu ddiogelwch ein cwsmeriaid, neu eraill.

Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth â chwmnïau a sefydliadau eraill at ddibenion diogelu rhag twyll a lleihau risgiau credyd.

O bryd i'w gilydd, gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau ein rhwydweithiau partner, hysbysebwyr a chysylltiadau ac o'r gwefannau hynny.

Os dilynwch ddolen i unrhyw un o'r gwefannau hyn, nodwch fod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd dros y rhain. Darllenwch y polisïau hyn cyn cyflwyno unrhyw ddata personol i'r gwefannau hyn.

MYNEDIAD AT WYBODAETH

Mae'r Rheoliad yn rhoi'r hawl i chi gael mynediad at wybodaeth a ddelir gennym amdanoch. Er mwyn arfer yr hawl hon, cysylltwch â ni yn data-protection@wmc.org.uk neu drwy'r post gan gyfeirio eich ymholiad at y Arweinydd Data, Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Bae Caerdydd CF10 5AL a byddwn yn ymateb i chi o fewn un mis.

Os bydd gennych unrhyw bryderon am y defnydd a wnawn o'ch data a sut mae hynny'n cydymffurfio â'r Rheoliad, neu os hoffech ddefnyddio eich "Hawl i Gael eich Anghofio", cysylltwch â ni yn data-protection@wmc.org.uk neu ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 029 2063 6464.

Gweler hefyd y paragraffau isod o dan y penawdau "Ein Defnydd o Deledu Cylch Cyfyng" a "Cofnodion o Ymwelwyr â'n Safle".

MONITRO TRAFFIG DEFNYDDWYR

Gallwn fonitro traffig defnyddwyr cyfunol i'n helpu i ddatblygu a gwella ein gwefan er budd pob defnyddiwr.

CYFEIRIADAU IP

Gallwn gasglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur, gan gynnwys eich cyfeiriad IP, eich system weithredu a'ch math o borwr lle bo'r wybodaeth honno ar gael, er mwyn gweinyddu'r system a rhoi gwybodaeth gyfunol i'n hysbysebwyr.

Data ystadegol yw hwn am gamau a phatrymau pori ein defnyddwyr, ac nid yw'n enwi unrhyw unigolyn.

CWCIS

Am yr un rheswm, gallwn gael gwybodaeth am eich defnydd o'r rhyngrwyd yn gyffredinol drwy ddefnyddio ffeil gwcis a gaiff ei storio ar eich porwr neu yriant caled eich cyfrifiadur.

Mae cwcis yn cynnwys gwybodaeth a drosglwyddir i yriant caled eich cyfrifiadur.

Maent yn ein helpu i wella ein gwefan a darparu gwasanaeth gwell a mwy personol. Mae rhai o'r cwcis a ddefnyddiwn yn hanfodol i weithrediad y wefan.

Defnyddir cwcis yn gyffredin i wneud i wefannau weithio, neu weithio'n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchenogion y wefan.

Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu i chi reoli'r rhan fwyaf o gwcis drwy osodiadau'r porwr. I gael rhagor o wybodaeth am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi'u gosod a sut i'w rheoli a'u dileu, ewch i allaboutcookies.org.

I ddewis peidio â chael eich tracio gan Google Analytics wrth ddefnyddio gwefannau, ewch i tools.google.com/dlpage/gaoptout.

 Cwci  Enw  Diben   Rhagor o wybodaeth
__utmb
__utmc
__utma
__utmz
__utmv
__utmx
Cwcis Google Analytics Mae'r cwcis hyn yn ein galluogi i gasglu gwybodaeth ddienw ynglŷn â'r ffordd y caiff ein gwefan ei defnyddio, pa dudalennau mae defnyddwyr yn ymweld â hwy a faint o amser maent yn ei dreulio ar bob tudalen. Rydym yn casglu'r wybodaeth er mwyn gwella'r wefan a darparu data ystadegol cyffredinol ar gyfer ein rhanddeiliaid neu at ddibenion meincnodi cyffredinol â sefydliadau tebyg eraill. google.com
_bo_active_language Cwci marchnata - iaith  Mae'r cwci hwn yn olrhain yr iaith amgen adborth@wmc.org.uk 
_bo_basket_count Cwci marchnata- cyfrif basged  Mae'n dynodi'r dull gwerthu sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd (ar gyfer cyfathrebiadau rhwng parthau tocynnau a marchnata). adborth@wmc.org.uk 
BOSESSID Cwci tocynnau - rhif adnabod sesiwn   Caiff cwci'r sesiwn ei ddefnyddio i ddilyn yr archeb a monitro os yw'r defnyddiwr wedi mewngofnodi ar hyn o bryd.   adborth@wmc.org.uk
BOTRACE  Cwci tocynnau - rhif adnabod defnyddiwr Cod anhysbys sy'n sbesiffig i ddefnyddiwr. Defnyddir hyn er mwyn trechi trafferthion.   adborth@wmc.org.uk
wrkey Cwci tocynnau - sesiwn ciwio  Cwci sesiwn ar gyfer y system giwio. Defnyddir er mwyn adnabod defnyddiwr a lle yn y ciw.  adborth@wmc.org.uk 
savecard Cwci tocynnau - arbed cerdyn  Defnyddir y cwci hwn er mwyn adnabod os yw defnyddiwr eisiau arbed manylion cerdyn ar gyfer pryniannau yn y dyfodol. Nid yw'n cadw dim gwybodaeth ar y cerdyn.  adborth@wmc.org.uk
_mm_channel Cwci tocynnau - storfa Defnyddir i rwpio defnyddwyr i ddibenion cynnig cynnwys wedi'i storio. adborth@wmc.org.uk

Gallwch flocio cwcis drwy ddefnyddio'r gosodiad ar eich porwr sy'n caniatáu i chi wrthod rhai cwcis penodol neu bob un ohonynt.

Fodd bynnag, os byddwch yn defnyddio gosodiadau eich porwr i flocio pob cwci (gan gynnwys cwcis hanfodol) efallai na fyddwch yn gallu defnyddio unrhyw ran o'n gwefan neu rai rhannau ohoni.

Oni bai eich bod wedi newid gosodiadau eich porwr fel ei fod yn gwrthod cwcis, bydd ein system yn gosod cwcis cyn gynted ag y byddwch yn ymweld â'n gwefan.

Ac eithrio yn achos cwcis hanfodol, daw pob cwci i ben pan fyddwch yn cau ffenest y porwr. Nodwch drwy barhau i ddefnyddio ein gwefan, rydych yn caniatáu i ni gasglu'r cwcis hynny.

CWCIS TARGEDU A HYSBYSEBU

Rydym yn defnyddio cwcis targedu a hysbysebu er mwyn dangos hysbysebion sydd wedi'u teilwra ar eich cyfer yn seiliedig ar eich ymweliadau blaenorol â'n gwefan, neu'n seiliedig ar eich demograffeg neu'ch diddordebau yn ôl Google*.

Mae Google yn defnyddio'r cwci DoubleClick i gasglu data a dangos hysbysebion sy'n berthnasol i chi ar wefannau ei bartneriaid.

Nid yw'r cwci yn cynnwys unrhyw wybodaeth a all nodi pwy ydych, ac nid ydym yn ei gyfuno ag unrhyw wybodaeth a all nodi pwy ydych a gesglir drwy'r wefan.

Gall defnyddwyr optio allan o ddefnyddio'r cwci DoubleClick ar gyfer hysbysebion sy'n seiliedig ar ddiddordebau drwy fynd i Ads Settings.

Mae'r wefan yn defnyddio nodweddion hysbysebu Google Analytics i gasglu data drwy gwcis hysbysebu Google a dynodwyr anhysbys. Defnyddir y nodweddion canlynol: Remarketing with Google Analytics, Google Display Network Impression Reporting a Google Analytics Demographics and Interest Reporting.

*Y ffordd y mae Google yn pennu gwybodaeth ddemograffig a gwybodaeth am ddiddordebau

Pan fydd rhywun yn ymweld â gwefan sydd mewn partneriaeth â Google Display Network, mae Google yn storio rhif yn ei borwr i gofio ei ymweliadau.

Mae'r rhif hwn yn nodi porwr gwe ar gyfrifiadur penodol, nid yw'n nodi unigolyn penodol. Gall porwyr gael eu cysylltu â chategori demograffig neu gategori diddordeb yn seiliedig ar y gwefannau yr ymwelwyd â hwy.

Yn ogystal â hyn, gall rhai gwefannau roi gwybodaeth ddemograffig i Google y mae pobl yn ei rhannu ar wefannau penodol, megis gwefannau rhwydweithio cymdeithasol.

Hefyd, gall Google ddefnyddio demograffeg sy'n deillio o broffiliau Google.

BLE BYDDWN YN STORIO EICH DATA PERSONOL

Gall y data a gasglwn oddi wrthych gael ei drosglwyddo i leoliad y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd ("AEE") a'i storio yno.

Gall hefyd gael ei brosesu gan staff y tu allan i'r AEE sy'n gweithio i ni neu un o'n cyflenwyr.

Gall y staff hyn fod yn gyfrifol am gwblhau eich archeb, prosesu eich manylion talu a darparu gwasanaethau cymorth, ymhlith pethau eraill.

Drwy gyflwyno eich data personol, rydych yn cytuno iddo gael ei drosglwyddo, ei storio neu'i brosesu drwy'r dulliau hyn.

Byddwn yn cymryd pob cam sy'n rhesymol angenrheidiol i sicrhau bod eich data yn cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â'r polisi preifatrwydd hwn.

Caiff yr holl wybodaeth a ddarperir gennych ei storio ar ein serfwyr diogel.

Caiff unrhyw drafodion talu eu hamgryptio fel rhan o'r broses gan ddefnyddio dull amgodio TLS 1.2. Os rydym wedi rhoi (neu os ydych wedi dewis) cyfrinair sy'n eich galluogi i fynd i rannau penodol o'n gwefan, chi sy'n gyfrifol am gadw'r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu cyfrinair â neb.

Yn anffodus, nid yw'r rhyngrwyd na phrosesau trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel.

Er y byddwn yn cymryd camau rhesymol i ddiogelu eich data personol ac atal unrhyw un rhag cael mynediad iddo heb awdurdod drwy ei storio ar serfwr diogel a gaiff ei ddiogelu gan gyfrinair a'i guddio rhag y byd tu allan gan wal dân, ni allwn warantu diogelwch y data a drosglwyddir gennych i'n gwefan; rydych yn trosglwyddo data ar eich menter eich hun.

 EIN DEFNYDD O DELEDU CYLCH CYFYNG

Rydym yn monitro ac yn recordio delweddau yn ein safle gan ddefnyddio teledu cylch cyfyng. Gwnawn hyn at ddibenion atal troseddau a diogelu'r cyhoedd.

RECORDIO POBL SY'N YMWELD Â'N SAFLE

Gallwn ni, neu drydydd partïon a awdurdodir gennym ni, recordio ffilm a/neu sain yn ystod, cyn neu ar ôl perfformiad a/neu yn ein safle o bryd i'w gilydd.

Er y cymerwn gamau rhesymol i sicrhau bod ymwelwyr yn cael gwybod am y cyfryw recordiadau pan fyddant yn dod i'n safle a'u bod yn cael cyfle i osgoi'r cyfryw recordiadau, drwy ddod i'n safle rydych yn rhoi caniatâd i ni eich cynnwys chi ac unrhyw bobl (gan gynnwys plant) a all fod gyda chi, yn y cyfryw recordiadau ac i'r cyfryw recordiadau gael eu defnyddio gennym yn ddiweddarach at unrhyw ddibenion masnachol rhesymol gan gynnwys, heb gyfyngiadau, at ddibenion marchnata a hyrwyddo.

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw daliad i chi mewn perthynas â'ch cynnwys yn y cyfryw recordiadau.

NEWIDIADAU I'N POLISI PREIFATRWYDD

Caiff unrhyw newidiadau a wnawn i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol eu dangos ar y dudalen hon a, lle y bo'n briodol, byddwn yn rhoi gwybod i chi amdanynt drwy e-bost.

CYSYLLTU

Croesewir cwestiynau, sylwadau a cheisiadau ynghylch y polisi preifatrwydd hwn a dylid eu hanfon i data-protection@wmc.org.uk

I gael rhagor o wybodaeth am y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, gallwch ffonio (DU) 01625 545 700 neu fynd i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth yn ico.org.uk.