Llwyfan Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) cylch cyfan yw Rhwydwaith Tessitura, a ddefnyddir ar gyfer pob agwedd o ryngweithio â chwsmeriaid. Cafodd ei ddatblygu'n arbennig at anghenion sefydliadau celfyddydol, diwylliannol ac adloniant.
Mae mwy na 600 o sefydliadau celfyddydol a diwylliannol mwyaf blaenllaw'r byd yn rhan o'r Rhwydwaith, a phob un yn rhannu'r angen i sicrhau rhagoriaeth ar lefel weithredol.
Mae ei aelodau'n cynnwys theatrau, cerddorfeydd, canolfannau celfyddydau perfformio, gwyliau, cwmnïau dawns, cwmnïau opera, amgueddfeydd, ac adrannau prifysgol a lleoliadau sy'n ymwneud â'r celfyddydau.
Canolfan Mileniwm Cymru oedd trwyddedai cyntaf Tessitura ym Mhrydain, ac mae wedi bod yn annatod i'n gweithredoedd ers i ni werthu ein tocyn cyntaf.
Mae modd rhannu Tessitura rhwng nifer o sefydliadau, ac felly mae'n galluogi lefel o seilwaith cefnogi a rheoli data sydd fel arfer yn ddrud iawn i sefydliadau unigol.
EIN CONSORTIWM TESSITURA
Yn 2007, yn unol â'n dull arloesol a chydlynol o weithio, fe wnaethon ni greu Consortiwm er mwyn galluogi sefydliadau eraill i elwa ar fuddsoddiad y Ganolfan yn y rhaglen.
Rydyn ni'n gweithredu model colegol yn ein defnydd o Tessitura, gan rannu system gyda Phartneriaid y Consortiwm er lles pawb.
Fel y prif drwyddedai, ni sy'n rheoli'r cronfeydd data, seilwaith y gweinydd ac anghenion technegol mewn perthynas â defnydd o'r system ar ran yr is-drwyddedeion:
- Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (ymuno yn 2008)
- Opera Cenedlaethol Cymru (ymuno yn 2013)
Rydyn ni'n lletya'r gweinyddion sydd eu hangen ar ein Partneriaid Consortiwm i gael mynediad at Tessitura.
Ein cyfrifoldeb ni yw'r costau ynni a thrwyddedu'r gweinydd, ynghyd â'r gwaith o reoli diweddariadau rheolaidd i feddalwedd Tessitura a'r seilwaith technoleg gwybodaeth.
Ein tîm cronfa ddata mewnol sy'n darparu'r holl gymorth Tessitura i'r is-drwyddedeion.
MANTEISION I BARTNERIAID Y CONSORTIWM
GOSOD CYCHWYNNOL
- Caiff y ffi wastadol gychwynnol am y drwydded ei lleihau'n sylweddol fel is-drwyddedai
- Dim ffioedd trwydded blynyddol i Tessitura
- Ffi cymorth flynyddol y cytunir arni, yn seiliedig ar angen
- Mynediad at system feddalwedd CRM lefel fenter o'r radd flaenaf
- Cynllun hyfforddi a gweithredu ar sail dull rheoli prosiect
LLETYA DIOGEL
- Lletya data diogel mewn amgylchedd lleol sy'n defnyddio Gweinydd Citrix Xen a SAN iSCSI HP Storageworks mewn SAN 2 Nod, sy'n caniatáu i'r gweithrediadau a'r rhaglenni gael eu trosglwyddo i beiriant arall os ydy'r cyntaf yn torri
- Cipluniau dyddiol ac wythnosol er mwyn creu copïau wrth gefn o'r data
- Caiff y gweinyddion a'r galedwedd sylfaenol eu darparu a'u cynnal gan staff technoleg gwybodaeth y Ganolfan 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn.
CYMORTH PARHAUS
- Uwchraddio, gwella a dogfennu'r holl feddalwedd
- Addasu gwasanaethau ac adroddiadau
- Rhannu datblygiad IP
- Mynediad at gyfoeth profiad y Ganolfan o ran defnydd gweithredol o'r rhyngrwyd a thechnoleg
- Mynediad at gronfa deunyddiau hyfforddi Rhwydwaith Tessitura
- Hyfforddiant a chyrsiau ad hoc
- Cyfle llawn i gymryd rhan mewn ystod o weithgarwch dysgu a hyfforddi, gan gynnwys Cynhadledd Dysgu a Chymuned Tessitura yn yr UDA, Cynhadledd Ewropeaidd Tessitura, Grwpiau Defnyddwyr a gweminarau hyfforddi byw yn rheolaidd.
- Cysylltiadau ar sawl lefel gyda sefydliadau ar draws Cymru, gwledydd Prydain a'r byd, ar gyfer dysgu, gwaith partneriaethau a gweithio ar y cyd
EIN TÎM
Mae ein tîm cronfa ddata pwrpasol yn gweithio ar Rwydwaith Tessitura a chynhyrchion cysylltiedig, gan ddarparu cymorth i aelodau'r consortiwm.
Mae'r tîm yn cynnwys:
Liz Baird (Pennaeth Cysylltiadau Cwsmeriaid)
Stephanie Cooper (Gweinyddydd Cronfa Ddata)
Katie Sewell (Gweinyddydd Cronfa Ddata)
Os hoffech wybod sut i ymuno â Chonsortiwm Tessitura, cysylltwch â ni drwy databaseteam@wmc.org.uk