Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

TELERAU AC AMODAU GWERTHU (YR "AMODAU")

1. TERMAU DIFFINIEDIG

1.1 Ystyr "Contract" yw'r contract rhyngoch chi a ni a ffurfir yn unol ag Amod 2.2;

1.2 Ystyr "ni" ac "ein" yw Canolfan Mileniwm Cymru, cwmni cyfyngedig drwy warant, sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr â'r rhif cwmni 3221924 a'r rhif elusen 1060458, y mae ei gyfeiriad cofrestredig ym Mhlas Bute, Bae Caerdydd CF10 5AL;

1.3 Ystyr "Tocyn" yw tocyn a gynigir i'w werthu gennym ni i fynychu unrhyw fath o berfformiad yn ein lleoliad a dehonglir "Tocynnau" yn unol â hynny;

1.4 Ystyr "Ffioedd Archebu" yw'r ffioedd hynny a ddisgrifir ar dudalen "Ffioedd Archebu" ein gwefan, sy'n briodol i'ch archeb Tocynnau;

1.5 Ystyr "chi" ac "eich" yw'r unigolyn y byddwn yn cael archeb Tocynnau ganddo.

2. FFURFIO'R CONTRACT RHYNGOM NI Â CHI

2.1 Bydd pob Tocyn a werthir yn ddarostyngedig i'r Amodau hyn ac nid unrhyw delerau nac amodau eraill. Darllenwch yr Amodau hyn yn ofalus cyn archebu Tocynnau.

2.2 Os byddwch yn prynu tocynnau ac eithrio Tocynnau (h.y. tocynnau i berfformiad mewn lleoliad ac eithrio ein lleoliad ni), noder mai dim ond gweithredu fel asiant gwerthu i'r lleoliad hwnnw y byddwn ni, a bydd unrhyw gyfryw docynnau a werthir gennym ni i chi yn ddarostyngedig i delerau ac amodau'r lleoliad hwnnw (y bydd copïau ohonynt ar gael gan y lleoliad hwnnw), ac nid yr Amodau hyn.  Ni fyddwn yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb i chi o ran y perfformiad, neu fel arall mewn perthynas â gwerthu'r cyfryw docynnau.

2.3 Ffurfir contract ar gyfer gwerthu Tocynnau gennym ni i chi ar ac yn ddarostyngedig i'r Amodau hyn pan fyddwn ni'n derbyn eich archeb, p'un a gaiff eich archeb (a) ei wneud ar-lein (drwy gwblhau'r gyfres o dudalennau ar gyfer archebu Tocynnau a nodir ar ein gwefan), (b) ei wneud gan berson yn ein swyddfa docynnau a leolir yn ein lleoliad (y "Swyddfa Docynnau") neu (c) ei wneud dros y ffôn i'r Swyddfa Docynnau.  Nid ystyrir bod eich archeb wedi'i dderbyn hyd nes y byddwn wedi cael taliad yn unol ag Amod 4.5.

2.4 Cadwn yr hawl i gyfyngu'r nifer o Docynnau a archebir.

3. PRISIAU

3.1 Hysbysebir prisiau Tocynnau ac argaeledd Tocynnau drwy nifer o ffynonellau ac fe'u darperir gennym ar sail y wybodaeth sydd ar gael i ni. Nid oes rhaid i ni gloi unrhyw Gontract ar y pris a hysbysebwyd ac rydym yn cadw'r hawl i gyflwyno neu atal gostyngiadau a gwneud newidiadau eraill i brisiau heb rybudd. Yn benodol, gall gostyngiadau a chynigion arbennig fod yn gyfyngedig neu'n amodol ar argaeledd. Yn unol â hynny, y pris am Docynnau ar gyfer perfformiad fydd y pris a nodir ar ein gwefan neu'r pris a hysbysir i chi (os byddwch yn archebu dros y ffôn neu'n bersonol) ar adeg gwneud eich archeb. 

3.2 Rhaid i chi ddatgan unrhyw ostyngiad y credwch fod gennych hawl iddo ar adeg archebu eich Tocynnau, gan na ellir cymhwyso gostyngiadau yn ôl-weithredol. Mae cyfraddau gostyngol yn amrywio yn ôl y perfformiad, felly gofynnwch i'r Swyddfa Docynnau pan fyddwch yn archebu os bydd gennych unrhyw ymholiadau. Gellir gofyn am brawf adnabod a/neu brawf o'ch hawl i gael cyfraddau gostyngol , yn cynnwys cardiau Hynt a Chredydau Tempo: (a) ar adeg gwneud eich archeb; a/neu (b) ar adeg casglu eich Tocynnau; a/neu (c) yn y perfformiad ei hun. Nodwch os gwelwch yn dda: os nad oes tystiolaeth hawlio yn cael ei gyflwyno pan y gofynnir i chi, bydd eich tocyn yn cael ei gyfnewid i docyn pris arferol a bydd rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth.

4. TALU

4.1 Byddwch yn talu pris y Tocynnau a archebwyd i ni ynghyd ag unrhyw Ffioedd Archebu cymwys mewn perthynas â'ch archeb.

4.2 Yn ddarostyngedig i Amod 4.3, rhaid talu'r holl Ffioedd Tocynnau a Ffioedd Archebu ar adeg gwneud eich archeb ac ni ellir cadw Tocynnau heb dalu amdanynt.

4.3 Os byddwch wedi cofrestru fel archebydd grŵp, a bod eich archeb am ddeg (10) Tocyn neu fwy neu eich bod yn y broses o ymuno â'n cynllun mynediad ac rydym wedi caniatáu i chi gadw'r Tocynnau hynny heb dalu amdanynt am gyfnod o amser, rhaid i chi dalu am y cyfryw Docynnau, yn llawn ac mewn arian wedi'i glirio, cyn y terfyn amser a nodir gennym ni ar gyfer talu. Caiff unrhyw Docynnau a archebwyd gennych nas talwyd amdanynt yn llawn ac mewn arian wedi'i glirio erbyn y terfyn amser a nodir, neu unrhyw Docynnau y byddwch wedi dweud wrthym nad oes eu hangen arnoch mwyach, eu rhyddhau gennym i'w gwerthu'n gyffredinol ar ôl naill ai: (a) y terfyn amser penodedig; neu (b) y dyddiad y gwnaethoch ein hysbysu nad oedd angen y cyfryw Docynnau arnoch mwyach (pa un bynnag a ddaw gyntaf).

4.4 Gellir gwneud taliadau fel a ganlyn: (a) mewn arian parod yn y Swyddfa Docynnau, (b) drwy siec am archebion grŵp yn unol ag Amod 4.3 yn y Swyddfa Docynnau (rhaid gwneud sieciau'n daladwy i 'Canolfan Mileniwm Cymru'), neu (c) drwy ddefnyddio'r cardiau credyd a debyd canlynol: Visa, MasterCard, MasterCard Debit, Visa Delta, Maestro ac Electron.

4.5 Nid ystyrir bod Taliad o dan yr Amod 4 hwn wedi'i wneud hyd nes y byddwn wedi cael y swm perthnasol yn llawn ac mewn arian wedi'i glirio.

5. DOSBARTHU A CHASGLU TOCYNNAU

5.1 Ni fyddwn yn rhyddhau unrhyw Docynnau i chi hyd nes y byddwn wedi cael taliad yn unol ag Amod 4.5.

5.2 Lle y mae’n bosibl, rydym yn argymell i chi ddewis derbyn eich tocynnau fel E-Docynnau. Fodd bynnag, yn ddarostyngedig i Amod 5.5 os bydd y perfformiad ddeg (10) diwrnod neu fwy ar ôl y dyddiad y byddwch yn talu am eich Tocynnau, gallwn bostio eich tocynnau atoch. Byddwn yn defnyddio post ail ddosbarth safonol i wneud hyn, oni fyddwch yn nodi eich bod am i ni anfon y Tocynnau drwy'r post dosbarth cyntaf neu wasanaeth recorded delivery a'ch bod wedi talu'r Ffioedd Archebu priodol.

5.3 Os bydd y perfformiad o fewn naw (9) diwrnod i'r dyddiad y byddwch yn talu am eich Tocynnau, , we will cease to offer the Mail delivery option. It is our recommendation that you use the E-Tickets option if available. Alternatively you can collect your tickets from us. Bydd yn rhaid i chi gyflwyno'r cerdyn debyd/credyd a ddefnyddiwyd i dalu am eich Tocynnau a/neu brawf adnabod priodol.

5.4 Codir ffi postio ddewisol o £2 (Post Safonol) i bostio’r tocynnau atoch chi. Pan fyddwn yn anfon Tocynnau atoch drwy'r post, byddwn yn anfon y cyfryw Docynnau yn unol â'r manylion cyfeiriad a ddarparwyd gennych at ddibenion o'r fath. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw atebolrwydd na chyfrifoldeb am Docynnau neu ddogfennau eraill a anfonir atoch a gaiff eu camosod neu eu colli yn y system bost. Os caiff Tocyn ei golli, yna byddwn yn ailgyhoeddi'r un Tocyn, ond caiff ei gadw yn ein Swyddfa Docynnau a bydd yn rhaid ei gasglu yn unol ag Amod 5.3.

5.5 Cadwn yr hawl i ohirio anfon Tocynnau drwy'r post neu ofyn i chi gasglu Tocynnau o'r Swyddfa Docynnau:

(a) o ran perfformiadau penodol lle yr ystyriwn yn rhesymol bod y cyfryw berfformiadau'n peri risg uwch y caiff Tocynnau eu hailwerthu am elw neu fudd masnachol; ac

(b) os yw’ch archeb yn cynnwys tocynnau am bris ostyngol. Gellir gofyn am brawf adnabod a/neu brawf o'ch hawl i gael cyfraddau gostyngol yn unol ag Amod 3.2

6. AD-DALIADAU A CHYFNEWID

6.1a Rydym bellach yn cynnig diogelwch ad-daliad drwy ddarparwr trydydd parti, Booking Protect. I sicrhau bod modd i chi ddiogelu ad-daliad, bydd angen ychwanegu hyn at eich basged wrth archebu. Caiff cost diogelu ad-daliad ei chyfrifo mewn modd ddeinamig, i ddiogelu pob eitem yn eich basged sydd gwerth dros £4.01. Nid yw'n bosib ychwanegu Booking Protect yn hwyrach. Mae'n rhaid i geisiadau am ad-daliad fynd yn syth at gwmni Booking Protect.

6.1b Oni bai eich bod wedi ychwanegu Booking Protect at eich basged, ni fyddwn yn cynnig ad-daliad, oni chaiff perfformiad ei ganslo. Pan gynigir ad-daliad, fe'i cyfyngir i werth enwol y Tocyn/Tocynnau yn unig ac ni fydd yn cynnwys unrhyw Ffioedd a allai fod wedi'u codi arnoch eisoes.

6.2 Yn amodol ar argaeledd, gallwn ganiatáu i chi gyfnewid Tocynnau a brynwyd hyd at 24 awr cyn dechrau'r perfformiad y prynwyd y cyfryw Docynnau ar ei gyfer, am seddi ar gyfer perfformiad arall o'r un cynhyrchiad.

Ni ellir cyfnewid Tocynnau o un cynhyrchiad i un arall – h.y. Hamilton i & Juliet, rhwng cyngherddau BBC NOW neu rhwng cynyrchiadau Cabaret, ac eithrio cynyrchiadau Opera Cenedlaethol Cymru. Gellir cyfnewid tocynnau ar gyfer cynyrchiadau WNO rhwng cynyrchiadau o fewn yr un Tymor (h.y. y 3 cynhyrchiad o fewn tymor y Gwanwyn) ond nid rhwng tymhorau (h.y. rhwng tymor yr Hydref a'r Gwanwyn).

Pan gaiff Tocynnau eu cyfnewid am seddi rhatach, byddwn ni'n cyflwyno Taleb Credyd Canolfan Mileniwm Cymru am werth y gwahaniaeth mewn pris. Pan gaiff Tocynnau eu cyfnewid am seddi drutach, bydd yn rhaid i chi dalu'r balans sy'n ddyledus. Ni fyddwn yn codi ffi am gyfnewidiadau a wneir ar-lein drwy'r adnodd hunanwasanaeth yn Fy Nghyfrif. Bydd cyfnewidiadau a wneir gan staff Canolfan Mileniwm Cymru yn destun ffi o £2.50 fesul tocyn (uchafswm o £10 fesul perfformiad). 

6.3 Rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r opsiwn cyfnewid o berfformiadau unigol heb rybudd. 

6.5 O dan amgylchiadau eithriadol, rydym yn cadw'r hawl i gynnig seddi amgen i'r rhai a nodir ar y Tocynnau.  Mewn achosion o'r fath, byddwn yn ceisio sicrhau bod y cyfryw seddi amgen yn werth yr un faint neu fwy na'r seddi a nodwyd ar y Tocynnau. Fodd bynnag, os na fydd hyn yn bosibl yn ein barn resymol ni ac rydym yn cynnig seddi amgen i chi sy'n werth llai na'r rhai a nodwyd ar eich Tocynnau yna byddwn hefyd yn ad-dalu'r gwahaniaeth i chi, ar yr amod eich bod yn gallu cyflwyno eich Tocynnau. Ni fydd unrhyw gyfryw ad-daliad yn cynnwys Ffioedd Archebu a godwyd arnoch eisoes.

7. NEWID I'R CAST, Y RHAGLEN A'R TREFNIADAU A HYSBYSEBWYD

Gwerthir Tocynnau yn ddarostyngedig i'n hawl i newid neu amrywio'r cast, y rhaglen a'r trefniadau a hysbysebwyd. Er mwyn osgoi ansicrwydd, ni chynigir ad-daliad os digwydd y cyfryw newid neu amrywiad.

8. EICH CYFRIFOLDEBAU

8.1 Rhaid i chi roi manylion cywir amdanoch chi eich hun a'ch archeb i ni ar adeg gwneud eich archeb, p'un a wneir y cyfryw archeb ar-lein, dros y ffôn neu yn bersonol. Dylech fwrw golwg manwl dros eich Tocynnau gan na ellir bob amser gywiro camgymeriadau ac ni chynigir ad-daliadau ac eithrio yn unol â'r Amodau hyn.

8.2 Rydym yn ceisio sicrhau bod ein lleoliad yn amgylchedd diogel a hapus er mwyn i'n cwsmeriaid fwynhau perfformiadau ac i'n staff weithio.  Er mwyn ein helpu i gyflawni hyn, tra byddwch yn ein lleoliad, byddwch yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol a roddir gan ein staff.

8.3 Dylech wneud y canlynol: (a) peidio â cheisio prynu unrhyw Docynnau ar gyfradd ostyngol oni fydd gennych hawl i fanteisio ar y gyfradd berthnasol;    (b) peidio â recordio na darlledu drwy unrhyw fodd unrhyw luniau, fideos na synau sy'n rhan o berfformiad; (c) peidio â phrynu Tocynnau at ddibenion ailwerthu'r Tocynnau hynny am elw neu fudd masnachol; (ch) peidio â mynd â gwydr, camera a/neu unrhyw offer recordio i mewn i berfformiad; (d) diffodd pob ffôn symudol a/neu alwr a/neu ddyfais gyfathrebu electronig arall yn ystod y perfformiad; (dd) peidio ag ysmygu yn ein lleoliad.

8.4 Os byddwch wedi prynu Tocynnau ar ran pobl eraill, chi sy'n gyfrifol am roi gwybod i'r cyfryw bobl am y telerau ac amodau hyn ac am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â hwy.

9. EIN HAWLIAU

9.1 Cadwn yr hawl i wneud y canlynol:

(a) cynnal chwiliadau diogelwch i sicrhau diogelwch ein cwsmeriaid a'n staff;

(b) gwrthod mynediad i chi a/neu eich hel allan o'n lleoliad neu unrhyw berfformiad o dan yr amgylchiadau canlynol:  (a) os byddwch chi neu unrhyw un o'ch parti yn ymddwyn mewn ffordd a fydd neu a all effeithio'n andwyol ar fwynhad pobl eraill yn ein lleoliad neu unrhyw berfformiad; (b) os byddwch, yn ein barn ni, yn ymddwyn yn afresymol boed o ganlyniad i fod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau neu fel arall; (c) os byddwch yn methu â chydymffurfio â chwiliad diogelwch; (ch) am resymau iechyd a diogelwch; (d) os na fyddwch yn cyflwyno Tocyn dilys ar gyfer perfformiad ar gais; neu (dd) os byddwch yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r Amodau hyn, neu'n torri unrhyw un ohonynt;

(c) gwrthod gwerthu Tocynnau i unrhyw un y credwn ei fod yn prynu at ddibenion ailwerthu. Oni roddwyd ein caniatâd, ni ddylid ailwerthu na throsglwyddo Tocynnau am elw na budd masnachol. Os byddwch yn gwneud hynny, byddwn yn dirymu'r Tocynnau perthnasol a gellir gwrthod mynediad i ddeiliad y Tocynnau.

10. EIN HATEBOLRWYDD

10.1 Yn ddarostyngedig bob amser i Amodau 10.2 a 10.3, os byddwn yn methu â chydymffurfio â'r Amodau hyn, dim ond am bris y Tocynnau ac unrhyw golledion uniongyrchol a brofir gennych o ganlyniad i'n methiant ni i gydymffurfio, (p'un a yw'n codi mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeuluster), tordyletswydd statudol neu fel arall) y mae hefyd yn ganlyniad rhagweladwy o'r cyfryw fethiant, y byddwn yn atebol i chi.  Caiff ein holl gyfrifoldebau eraill, o unrhyw fath o gwbl, eu heithrio i'r graddau eithaf a ganiateir yn ôl y gyfraith.

10.2 Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw gostau teithio na chostau llety yr eir iddynt o dan unrhyw amgylchiadau, gan gynnwys os caiff perfformiad ei ganslo.

10.3 Ni fydd unrhyw beth yn yr Amodau hyn yn eithrio nac yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd yn yr achosion canlynol:
(a) marwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeuluster;
(b) twyll neu gamliwio twyllodrus;
(c) unrhyw achos o dorri'r rhwymedigaethau a nodir yn adran 12 o Ddeddf Gwerthu Nwyddau 1979 neu adran 2 o Ddeddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982; 
(d)  unrhyw fater arall y byddai'n anghyfreithlon i ni eithrio ein hatebolrwydd neu geisio eithrio, amdano.

11. MYNEDIAD A HWYRDDYFODIAID

11.1 Rhaid i bawb gael Tocyn dilys i gael mynediad i'r perfformiad perthnasol. Byddwn yn gofyn am dystiolaeth oedran/ hawl ar gyfer tocynnau am bris gostyngol wrth i chi fyned i’r theatr.

11.2 Byddwn yn ymdrechu i roi sedd i bobl sy'n hwyr ar saib yn y perfformiad sy'n addas ym marn ein staff. Fodd bynnag, noder efallai na fydd hyn tan ar ôl yr egwyl gyntaf. O dan amgylchiadau eithriadol ac yn dibynnu ar y perfformiad, mae'n bosibl na fyddwn yn gallu rhoi mynediad i unrhyw un sy'n hwyr. Felly gwnewch bob ymdrech i gyrraedd mewn da bryd ar gyfer perfformiadau.

12. PLANT

12.1 Gwerthir Tocynnau y bwriedir iddynt gael eu defnyddio gan blant o dan 16 oed yn ddarostyngedig i'n Polisi Mynediad i Fabanod a Phlant.

12.2 Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn (18+), rhiant neu warcheidwad a rhaid bod ganddynt Docyn dilys.

12.3 Ni ddylai'r gymhareb o blant i oedolion mewn unrhyw barti fod dros 10:1. Er budd ein holl gwsmeriaid, gall ein staff ofyn i'r oedolyn cyfrifol dywys plant sy'n swnllyd neu'n aflonydd allan. 

12.4 Fe'ch cynghorir i gadarnhau ar gyfer pa oedran y mae perfformiad yn addas cyn archebu Tocynnau gan nad yw pob perfformiad yn addas i blant.

POLISI BABANOD A RHAI DAN 16

Mae angen tocyn dilys ar bob un o dan 16 oed i weld digwyddiadau yn y theatrau, ac mae’n rhaid i riant neu warcheidwad fod gyda nhw. Mae rhai rhwng 2 a 15 oed yn gymwys am ostyngiad tocyn Dan 16 rhatach lle maent ar gael; mae rhai iau na 2 oed (babanod) angen tocyn baban £2. Gofynnwch am ganllawiau oedran addas wrth archebu (dros y ffôn, neu edrychwch ar y dudalen berthnasol ar y we) gan nad yw pob digwyddiad yn addas i bob grwp oedran.

13. RECORDIO POBL SY'N YMWELD Â'N LLEOLIAD

Gallwn ni, neu drydydd partïon a awdurdodir gennym ni, recordio ffilm a/neu sain yn ystod, cyn neu ar ôl perfformiad a/neu yn ein lleoliad o bryd i'w gilydd. Drwy brynu Tocynnau gennym rydych yn rhoi caniatâd i ni eich cynnwys chi ac unrhyw bobl (gan gynnwys plant) a all fod gyda chi, yn y cyfryw recordiadau ac i'r cyfryw recordiadau gael eu defnyddio gennym yn ddiweddarach at unrhyw ddibenion masnachol gan gynnwys, heb gyfyngiadau, at ddibenion marchnata a hyrwyddo. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw daliad i chi mewn perthynas â'ch cynnwys yn y cyfryw recordiadau.

14. DIGWYDDIADAU Y TU HWNT I'N RHEOLAETH

14.1 Yn ddarostyngedig i Amod 6.1, ni fyddwn yn atebol i chi os na fyddwn yn gallu cyflawni unrhyw un o'n rhwymedigaethau o dan y Contract oherwydd unrhyw ddigwyddiad neu amgylchiadau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth resymol gan gynnwys, heb gyfyngiad, gweithred Duw (gan gynnwys tân, llifogydd, daeargryn, storm wynt neu drychineb naturiol); rhyfel neu fygythiad ohono neu baratoad ar ei gyfer, gwrthdaro arfog, gosod sancsiynau, embargo, torri cydberthnasau diplomyddol neu weithredoedd tebyg, cydymffurfiaeth wirfoddol neu orfodol ag unrhyw gyfraith, gorchymyn, rheol, rheoliad neu gyfarwyddyd llywodraethol, tân, ffrwydriad neu ddifrod maleisus neu ddamweiniol, ymosodiad terfysgol, rhyfel sifil, anghydfod sifil neu derfysg, amodau tywydd garw, halogiad niwclear, cemegol neu fiolegol neu daran sonig, dymchwel strwythurau adeiladau, methiant cyfrifiaduron neu gyfarpar; unrhyw anghydfod llafur, gan gynnwys streiciau, gweithredu diwydiannol neu gloi allan, neu ymyriad neu fethiant unrhyw wasanaeth cyfleustod, gan gynnwys pŵer trydan, nwy neu ddŵr.

15. Y CYTUNDEB CYFLAWN

15.1 Mae'r Amodau hyn ac unrhyw ddogfen y cyfeirir ati yn benodol ynddynt yn cynrychioli’r cytundeb cyflawn rhyngom o ran testun unrhyw Gytundeb ac yn disodli unrhyw ddealltwriaeth neu drefniant blaenorol  rhyngom ni, boed yn ysgrifenedig neu ar lafar.

15.2 Mae'r ddau barti yn cydnabod, drwy ymrwymo i'r Contract, nad yw'r naill na'r llall ohonom wedi dibynnu ar unrhyw gynrychiolaeth, ymgymeriad nac addewid a roddwyd gan y naill na'r llall nac  y goblygwyd gan unrhyw beth y dywedwyd neu yr ysgrifennwyd mewn trafodaethau rhyngom cyn y cyfryw Gontract ac eithrio'r hyn a nodir yn benodol yn yr Amodau hyn.

16. YR HAWL I AMRYWIO'R TELERAU AC AMODAU HYN

16.1 Mae gennym yr hawl i ddiwygio a newid yr Amodau hyn o bryd i'w gilydd i adlewyrchunewidiadau yn amodau'r farchnad sy'n effeithio ar ein busnes, newidiadau o ran technoleg, newidiadau i ddulliau talu, newidiadau i gyfreithiau perthnasol a gofynion rheoleiddio a newidiadau i gapasiti ein system. 

17. HAWLIAU TRYDYDD PARTÏON

Nid yw'n fwriad gennym ni na chi y dylai unrhyw un o'r Amodau hyn fod yn orfodadwy, yn rhinwedd Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 neu fel arall, gan unrhyw berson nad yw'n barti yn y Contract.

18. CYFRAITH REOLI AC AWDURDODAETH

Caiff yr Amodau hyn a'r Contract eu rheoli a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.

19. TORADWYEDD

Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys arall yn barnu bod unrhyw un o'r Amodau hyn (neu ran ohonynt) yn annilys, yn ddi-rym neu'n anorfodadwy, caiff ei ddileu a bydd yr amodau sy'n weddill yn para mewn grym llawn ac yn para i fod ag effaith lawn a byddant yn cael eu diwygio os bydd angen cyn belled ag y bo'n ofynnol er mwyn gweithredu'r amodau hyn.

 

FFIOEDD ARCHEBU

TALIADAU

Gellir talu gydag arian parod (os ydych chi'n prynu wyneb yn wyneb), siec, (yn daladwy i Ganolfan Mileniwm Cymru) neu gyda'r cardiau debyd a chredyd canlynol - Visa, MasterCard, MasterCard Debit, Visa Debit / Delta, Maestro, ac Electron. Mae'n rhaid talu am docynnau wrth archebu. Dim ond ar gyfer grwpiau o 10 neu fwy, neu dros dro tra rydyn ni'n prosesu ceisiadau ar gyfer y Cynllun Hygyrchedd y gellir rhoi tocynnau ar gadw..

CYNLLUN BOOKING PROTECT

Rydyn ni bellach yn cynnig opsiwn diogelu ad-daliad ar eich tocynnau.

Rydyn ni’n argymell eich bod yn cynnwys yr opsiwn yma wrth brynu’ch tocynnau, er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn ad-daliad llawn petai unrhyw aelod o’ch grŵp yn methu mynychu oherwydd;

  • Anaf neu salwch rydych chi, neu aelod o’ch teulu agos yn profi.
  • Tywydd garw, yn cynnwys eira, rhew, niwl neu storm, lle mae’r Heddlu neu’r Llywodraeth wedi datgan rhybuddion teithio.
  • Bod eich cerbyd preifat sy’n eich cludo i’r digwyddiad yn torri lawr, mewn damwain, yn mynd ar dân neu’n cael ei ddwyn wrth i chi deithio i’r digwyddiad.

Bydd cost diogelu ad-daliad yn cael ei gyfrifo yn ddibynol ar yr hyn sydd yn eich basged, a bydd opsiwn i chi ei ychwanegu i gyfanswm y fasged.

Os ydych chi am fanteisio ar yr opsiwn yma, yna ychwanegwch yr opsiwn at eich pryniant.

Ystod prisiau tocynnau'r sioe Cost Booking Protect fesul tocyn
£0.00 - £4.00 n/a
£4.01 - £9.99 £0.50
£10.00 - £19.99 £1.00
£20.00 - £29.99 £1.50
£30.00 - £39.99 £2.00
£40.00 - £49.99 £2.50
£50.00 - £59.99 £2.50
£60.00 - £99.99 £3.00
£100.00 - £159.99 £3.50
£160.00 - £199.99 £4.50