Drwy gefnogi Canolfan Mileniwm Cymru drwy ein cynlluniau aelodaeth, rydych yn cytuno i gadw at y Telerau ac Amodau Aelodaeth a nodir isod.

Rydych hefyd yn caniatáu i Ganolfan Mileniwm Cymru gysylltu â chi dros y ffôn, drwy'r post a thrwy e-bost gyda gwybodaeth am ein gwaith, sioeau sydd ar ddod a digwyddiadau.

Os penderfynwch ar unrhyw adeg y byddai'n well gennych beidio â derbyn gwybodaeth o'r fath, cysylltwch â'r Tîm Datblygu drwy e-bostio supporters@wmc.org.uk neu drwy ffonio 029 2063 6467.

Cymhwysedd a Buddion Aelodaeth

  1. CYFFREDINOL

    1.1. Ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i newid neu amrywio gwerth y rhoddion a awgrymir ar gyfer aelodaeth Partner neu aelodaeth Partner Awen.
    1.2. Nid yw aelodaeth na'i holl fuddion yn drosglwyddadwy.
    1.3. Mae aelodau'n ymrwymo i gontract 12 mis.
    1.4. Gellir canslo aelodaeth o fewn y cyfnod o 14 diwrnod, ond dim ond os na ddefnyddiwyd unrhyw fuddion.
    1.5. Mae aelodaeth ar y cyd ar gyfer dau oedolyn sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Bydd y ddau aelod yn cael cerdyn aelodaeth, yn gallu prynu tocynnau yn ystod y cyfnod archebu â blaenoriaeth ac yn gallu manteisio ar gynigion a phrisiau gostyngedig.
    1.6. Dim ond un pecyn croeso gaiff ei anfon fesul aelodaeth, gan gynnwys aelodaeth unigol ac aelodaeth ar y cyd.
    1.7. Dim ond at aelodau gweithredol y caiff negeseuon eu hanfon drwy e-bost. Wrth brynu aelodaeth ar y cyd, caiff y ddau aelod yr opsiwn i dderbyn y negeseuon hyn.
    1.8. Caiff negeseuon ynghylch sioeau sydd ar ddod, digwyddiadau a'n gwaith eu hanfon yn ddwyieithog. Fodd bynnag, bydd gohebiaeth bersonol â'r Tîm Datblygu yn Saesneg yn bennaf.
    1.9. Dylech ganiatáu hyd at 21 diwrnod i'ch cerdyn a'ch pecyn aelodaeth gael eu prosesu.
    1.10. Ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i dynnu buddion yn ôl ar unrhyw adeg a heb rybudd ymlaen llaw.
    1.11. Ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i wneud newidiadau i'n cynlluniau aelodaeth heb rybudd ymlaen llaw.
    1.12. Mae telerau ac amodau gwerthu cyffredinol Canolfan Mileniwm Cymru yn gymwys i'n pecynnau aelodaeth.
    1.13. Cadwn yr hawl i gysylltu â chi am y modd y mae eich rhodd yn cefnogi ein gwaith a sut y gallech ein cefnogi ymhellach.

  2.  CYMHWYSEDD

    2.1. Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i wneud cais am aelodaeth neu i adnewyddu aelodaeth.
    2.2. Ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i wrthod cais am aelodaeth neu derfynu aelodaeth ar unrhyw adeg os byddwch yn camymddwyn neu'n ymddwyn yn annerbyniol ar safle Canolfan Mileniwm Cymru, mewn digwyddiad a gynhelir ar y cyd â Chanolfan Mileniwm Cymru neu ar-lein. Mae'n bosibl y cymerir camau cyfreithiol hefyd.
    2.3. Os bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn terfynu aelodaeth yn unol â chymal 2.2, ni roddir ad-daliad i'r aelod hwnnw am gost ei aelodaeth am unrhyw gyfnod sy'n weddill o'r aelodaeth honno.

  3.  BUDDION PARTNER

    3.1. Mae mynediad i'r seddi gorau cyn ein haelodau Ffrind a Ffrind+ yn amodol ar gytundeb cwmnïau teithiol allanol.
    3.2. Mynediad i Lolfa Taittinger, ein bar preifat i aelodau.
    3.3. Gostyngiad o 20% ym mar a chegin Ffresh, ein siop goffi - Caffi, bariau'r theatr a'r teras. Ni ellir defnyddio'r gostyngiad hwn ar y cyd ag unrhyw gynigion eraill.
    3.4. Yn ystod y cyfnod archebu â blaenoriaeth, gall aelodau unigol archebu pedwar tocyn ar y mwyaf, a gall aelodau ar y cyd archebu wyth tocyn ar y mwyaf fesul perfformiad. Perfformiadau yn Theatr Donald Gordon yn unig.
    3.5. Mae'n rhaid i aelodau Partner archebu eu tocynnau ar-lein neu drwy ffonio'r Swyddfa Docynnau ar 029 2063 6467.
    3.6. Cynhelir digwyddiadau arbennig drwy gydol y flwyddyn. Rhoddir gwybod i aelodau unwaith y caiff dyddiadau a manylion eu cadarnhau. Fel arfer bydd y digwyddiadau yn gysylltiedig â'n cynyrchiadau teithiol neu ein cynyrchiadau mewnol, ond gallant ymwneud ag arddangosfa, ymgyrch codi arian neu ddathliad cyffredinol yn y Ganolfan hefyd.
    3.7. Bydd aelodau'n cael neges e-bost yn cynnwys manylion sioeau, prisiau tocynnau a hyd y cyfnod archebu â blaenoriaeth pan gaiff sioeau eu cyhoeddi.
    3.8. Bydd aelodau'n cael rhaglen y tymor a gaiff ei chyhoeddi ddwywaith neu deirgwaith y flwyddyn.

  4. BUDDION PARTNER AWEN
    Yn cynnwys yr holl delerau ac amodau ar gyfer aelodau Partner, yn ogystal â'r canlynol:

    4.1. Caiff pob aelod newydd ei wahodd i gymryd rhan mewn taith dywys y tu ôl i'r llenni. Rhaid hawlio'r daith o fewn blwyddyn gyntaf yr aelodaeth a dim ond i'r rhai sy'n ymuno â'r cynllun aelodaeth am y tro cyntaf y mae ar gael.
    4.2. Mae hawl gan aelodau Partner Awen i wasanaeth archebu personol, sydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 4pm, yn amodol ar argaeledd staff. Os na allwch gysylltu, e-bostiwch development@wmc.org.uk a bydd rhywun o'r Tîm Datblygu yn cysylltu â chi o fewn 48 awr. Fel arall, gellir prynu tocynnau ar ein gwefan neu drwy ffonio'r Swyddfa Docynnau ar 029 2063 6464.
    4.3. Dim ond pan fydd seddi ar gael ac yn unol â thelerau ac amodau Opera Cenedlaethol Cymru y ceir mynediad i'r seddi gorau ar gyfer perfformiadau Opera Cenedlaethol Cymru cyn ein haelodau Ffrind a Ffrind+ a'n haelodau Partner.

  5.  LOLFA BREIFAT I AELODAU

    5.1. Dim ond ar gyfer perfformiadau yn Theatr Donald Gordon y mae'r lolfa breifat i aelodau ar gael ac nid yw ar gael ar gyfer perfformiadau yn Stiwdio Weston nac mewn mannau cyhoeddus, oni chytunir yn wahanol.
    5.2. Dylai aelodau gadw lle yn y lolfa i aelodau wrth brynu eu tocynnau. Os oes angen i chi roi gwybod i ni eich bod yn dymuno defnyddio'r lolfa breifat i aelodau rywbryd arall, rhaid i chi ffonio'r Tîm Datblygu o leiaf 24 awr cyn eich ymweliad.
    5.3. Oni nodir yn wahanol, bydd y lolfa i aelodau ar agor am awr cyn i'r sioe ddechrau ac yn ystod yr egwyl gyfan.
    5.4. Caniateir i aelodau ddod â hyd at 3 gwestai gyda nhw gydag aelodaeth unigol, a hyd at 6 gwestai gydag aelodaeth ar y cyd.
    5.5. Rhaid i westeion fod yng nghwmni aelod gweithredol ar bob adeg ac ni chaniateir iddynt ddefnyddio'r lolfa pan fyddant yn ymweld â'r Ganolfan, heb fod aelod yn bresennol.
    5.6. Cadwn yr hawl i ddirymu mynediad i'r lolfa breifat i aelodau ar unrhyw adeg.
    5.7. Os oes llai na 3 aelod yn defnyddio'r lolfa breifat i aelodau, ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i gau'r lolfa neu ofyn i chi archebu ymlaen llaw ac mae'n bosibl na fydd staff yn y lolfa.
    5.8. Dim ond hyn a hyn o bobl all fod yn y lolfa breifat i aelodau, a chaniateir i bobl ei defnyddio ar sail y cyntaf i'r felin. Unwaith y bydd y lolfa breifat i aelodau yn llawn, ni fydd aelodau ychwanegol yn gallu ei defnyddio.

  6.  CYMALAU BUDDION CYFFREDINOL

    6.1. Bydd yr holl fuddion i aelodau yn para am flwyddyn (oni nodir yn wahanol).
    6.2. Sylwer y gallwch ddiweddaru eich manylion a'ch dewisiadau ar unrhyw adeg drwy fynd i'ch cyfrif aelodaeth ar-lein neu drwy gysylltu â ni.
    6.3. Nid yw eich aelodaeth ag enw yn drosglwyddadwy, oni chytunir yn wahanol.
    6.4. Mae cynigion i aelodau ar gael ar y ddau bris tocyn uchaf lle y bo'n bosibl, ac eithrio perfformiadau un noson, oni nodir yn wahanol.
    6.5. Ni ellir cyfuno cynigion aelodau ag unrhyw gynigion, gostyngiadau na chonsesiynau eraill ac ni ellir eu defnyddio ar gyfer tocynnau a brynwyd eisoes.
    6.6. Mae tocynnau, gostyngiadau a chynigion arbennig eraill oll yn amodol ar gytundeb y cwmni teithiol ac argaeledd.
    6.7. Ni ellir hawlio gostyngiadau ar docynnau wrth archebu tocynnau drwy asiantaethau tocynnau eraill.
    6.8. Gellir archebu rhagor o docynnau yn ystod y cyfnod gwerthu i'r cyhoedd, yn amodol ar gyfyngiadau tocynnau arferol.
    6.9. Mae'r cyfnod Archebu â Blaenoriaeth yn para o leiaf ddau ddiwrnod fel arfer ond, os nad yw hyn yn bosibl, bydd dyraniad ychwanegol o seddi yn cael ei gadw i aelodau am gyfnod cyfyngedig.
    6.10. Dim ond yr unigolyn/unigolion a enwir ar y cerdyn sy'n gallu hawlio gostyngiadau.
    6.11. Ni ellir hawlio gostyngiadau ar nwyddau trwyddedig sioeau, megis crysau T a CDs.

  7.  YMUNO AC ADNEWYDDU

    7.1. Sut i ymuno
    7.1.1. Gellir gwneud cais am aelodaeth newydd ar-lein yn www.wmc.org.uk/cy/ymuno-a-rhoi/aelodaeth-ffrind-a-ffrind/, drwy ffonio 029 2063 4649 neu drwy e-bostio supporters@wmc.co.uk
    7.1.2. Gellir adnewyddu aelodaeth ar-lein drwy fewngofnodi i'ch cyfrif aelod ar-lein neu drwy ffonio 029 2063 4649.

    7.2. Talu 
    7.2.1. Gellir talu drwy ddefnyddio Debyd Uniongyrchol, cerdyn credyd neu gerdyn debyd.
    7.2.2. Dim ond dros y ffôn y gellir trefnu i dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol: 029 2063 4649
    7.2.3. Os byddwch yn defnyddio Debyd Uniongyrchol, bydd eich taliadau misol yn cael eu cymryd ar y 1af o bob mis neu o gwmpas y diwrnod hwnnw. Rydym yn cymryd taliadau aelodaeth ar ffurf ôl-daliadau, felly mae'n debygol y bydd eich taliad cyntaf yn uwch.
    7.2.4. Sylwer na chaiff talebau elusen na dulliau talu eraill eu derbyn ar gyfer tanysgrifiadau aelodaeth yn unol â chanllawiau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

    7.3. Canslo ac ad-daliadau
    7.3.1. Mae bod yn aelod o Ganolfan Mileniwm Cymru yn fath o rodd elusennol. Unwaith y bydd pris aelodaeth wedi'i dalu'n llawn ac y bydd cerdyn wedi'i gyflwyno, ni ellir cynnig ad-daliadau.
    7.3.2. Aelodaeth blwyddyn o hyd yw hon gyda rhwymedigaeth i gwblhau'r amserlen talu.
    7.3.3. Bydd buddion aelodaeth yn ddilys tra bydd eich aelodaeth yn weithredol a byddant yn dod i ben pan gaiff aelodaeth ei chanslo neu os na chaiff ei hadnewyddu cyn y dyddiad dod i ben ar eich cerdyn aelodaeth.

    7.4. Cynigion recriwtio'r cynlluniau aelodaeth ac anrheg am ddim
    7.4.1. O bryd i'w gilydd, efallai y bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnal cynigion arbennig er mwyn hyrwyddo'r cynlluniau aelodaeth. Ni chaniateir ceisiadau mewn swmp na cheisiadau gan drydydd partïon ac ni ellir defnyddio'r cynigion ar y cyd ag unrhyw gynigion neu hyrwyddiadau eraill.
    7.4.2. Weithiau caiff anrhegion am ddim eu cynnig er mwyn diolch i aelodau sy'n adnewyddu. Mae'r rhain ond ar gael i aelodau sy'n adnewyddu drwy wahoddiad personol a thra bo rhai ar ôl, ac ni ellir eu cyfnewid am arian.

    7.5. GDPR
    7.5.1. Caiff enwau a manylion cyswllt aelodau eu storio ar gronfa ddata fel y gallwn anfon gwybodaeth a chynigion atoch sy'n ymwneud â Chanolfan Mileniwm Cymru a all gynnwys gweithgareddau codi arian ychwanegol.
    7.5.2. Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn storio ac yn prosesu eich data personol yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth Diogelu Data sy'n gymwys.
    7.5.3. Mae gan aelodau'r hawl i ddewis p'un a ydynt am dderbyn rhagor o wybodaeth am brosiectau, perfformiadau neu weithgareddau a gynhelir gan Ganolfan Mileniwm Cymru ai peidio. Os byddwch yn newid eich meddwl ar unrhyw adeg yn ystod eich aelodaeth, rhowch wybod i ni.
    7.5.4. Ni fydd Canolfan Mileniwm Cymru yn rhannu eich gwybodaeth â thrydydd partïon, yn unol â'n Polisi Preifatrwydd sydd ar gael ar ein gwefan.

    7.6. Rhodd Cymorth
    7.6.1. Mae ein pecyn aelodaeth Partner yn cynnwys cyfran budd a chyfran rhodd.
    7.6.2. Bydd unrhyw rodd a gawn sy'n uwch na gwerth y buddion y cytunwyd arno yn gymwys am Rodd Cymorth. Byddwn yn gofyn a ydych yn gymwys am Rodd Cymorth pan fyddwch yn ymuno felly rhowch wybod i ni ar y cam hwn a hoffech roi Cymorth Rhodd ar eich rhodd, neu ar ôl hynny os bydd eich amgylchiadau'n newid. 

    7.7. Cerdyn aelodaeth a dosbarthu
    7.7.1. Caiff eich cerdyn aelodaeth ei brosesu cyn gynted â phosibl, ond dylech ganiatáu hyd at 28 diwrnod ar gyfer hyn.
    7.7.2. Caiff eich pecyn aelodaeth ei anfon i'r cyfeiriad a gaiff ei nodi gennych wrth ymuno.
    7.7.3. Defnyddir gwasanaeth ail ddosbarth y Post Brenhinol ar gyfer dosbarthu safonol am ddim i gyfeiriadau yn y Deyrnas Unedig.
    7.7.4. Mae eich cerdyn aelodaeth yn brawf o'ch aelodaeth o Ganolfan Mileniwm Cymru. Bydd angen i chi ddangos eich cerdyn er mwyn hawlio eich buddion yn y Ganolfan. Os na fyddwch yn dangos eich cerdyn aelodaeth, mae'n bosibl na fydd y buddion ar gael i chi.
    7.7.5. Mae cardiau aelodaeth yn ddilys hyd at eu diwrnod dod i ben.
    7.7.6. Nid yw cardiau aelodaeth na manylion cysylltiedig yn drosglwyddadwy a dim ond yr unigolyn/unigolion a enwir ar y cerdyn sydd â hawl i'w ddefnyddio i archebu tocynnau neu hawlio gostyngiadau.
    7.7.7. Caiff cardiau aelodaeth ar y cyd eu dosbarthu fesul aelod a bydd enw ar y ddau ohonynt; bydd y ddau unigolyn a enwir yn gallu archebu tocynnau a hawlio gostyngiadau drwy'r cynllun aelodaeth.
    7.7.8. Ar ôl prynu aelodaeth, bydd hawl gan yr aelod i archebu tocynnau gan ddefnyddio'r cynigion i aelodau am gyfnod o ddim mwy na 12 mis o'r dyddiad y prynwyd yr aelodaeth (oni nodir yn wahanol).
    7.7.9. Os byddwch yn colli eich cerdyn aelodaeth, darperir un newydd am ddim y tro cyntaf. Bydd yn rhaid talu ffi weinyddol o £5.00 am unrhyw gardiau newydd a ddarperir wedi hynny.
    7.7.10. Ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i wrthod ceisiadau am gardiau newydd ychwanegol pan fydd o leiaf ddau gerdyn newydd wedi'u darparu o fewn chwe mis.

AMRYWIO'R TELERAU AC AMODAU HYN

Cafodd y Telerau ac Amodau hyn eu diweddaru ddiwethaf ar 14 Ionawr 2020. Ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i amrywio'r Telerau ac Amodau hyn o bryd i'w gilydd. Daw amrywiadau o'r fath i rym yn syth ar ôl eu cyhoeddi ar wefan Canolfan Mileniwm Cymru. Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus cyn prynu aelodaeth, adnewyddu aelodaeth neu brynu aelodaeth yn anrheg. Drwy brynu aelodaeth dros y ffôn neu drwy'r post, dylech ddeall eich bod yn cytuno i fod yn rhwymedig i'r telerau ac amodau hyn a'n Hysbysiad Preifatrwydd. Hefyd, dylid darllen y telerau ac amodau hyn ar y cyd â'r Telerau ac Amodau Gwerthu.

Sylwer: os ydych yn defnyddio aelodaeth a brynwyd i chi yn anrheg gan rywun arall, yna drwy weithredu rydych yn derbyn ac yn cytuno bod y telerau ac amodau hyn yn gymwys rhyngom.

MAE CANOLFAN MILENIWM CYMRU YN ELUSEN GOFRESTREDIG [RHIF ELUSEN 1060458]