Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Drwy ymuno â chynllun aelodaeth y Ganolfan, rydych yn cytuno i gadw at y telerau ac amodau a nodir isod.

FFRIND

Unigol = £45 neu £42 (yn flynyddol) trwy Ddebyd Uniongyrchol

Ar y cyd = £60 neu £57 (yn flynyddol) trwy Ddebyd Uniongyrchol

  • Mynediad i’r seddi gorau yn ystod y cyfnod archebu â blaenoriaeth 
    Yn ystod y cyfnod archebu â blaenoriaeth, gall aelodau unigol brynu pedwar tocyn i bob sioe ac aelodau ar y cyd yn gallu prynu wyth tocyn i bob sioe. Perfformiadau Theatr Donald Gordon yn unig.
  • Gostyngiad o £10 ar bris tocynnau’r noson agoriadol ar gyfer nifer o sioeau mawr, yn ychwanegol â sawl cynnig arall dros y flwyddyn. Ar gael ar seddi penodol/mewn ardaloedd penodol os yw’n bosibl, heblaw am berfformiadau un-nos. Gall aelodau unigol brynu dau docyn ac aelodau ar y cyd brynu bedwar tocyn gwerth y pris gostyngol. Ac eithrio Opera Cenedlaethol Cymru.
  • Gostyngiad o 20% yn ein Caffi a'n bariau theatr. Ni ellir defnyddio’r gostyngiad yma ar y cyd ag unrhyw gynnig arall.
  •  Diweddariadau e-bost rheolaidd ynglŷn â sioeau, digwyddidau a chynigion.
    Anfonir pob cyfathrebiad trwy e-bost

FFRIND+

Unigol = £150 neu £138 (yn flynyddol) trwy Ddebyd Uniongyrchol

Ar y cyd = £250 or £228 (yn flynyddol) trwy Ddebyd Uniongyrchol

Yn cynnwys yr holl fuddion sydd ar gael i aelodau Ffrind, yn ogystal â:

  • Gwahoddiad i ddigwyddiad blynyddol ecsgliwsif i aelodau Ffrind+.
    Mae’r digwyddiad blynyddol Ffrind+ yn agored i aelodau Ffrind+ yn unig a fel arfer bydd yn cael ei gynnal o amgylch ein cynyrchiadau teithiol neu ein cynyrchiadau tŷ ond gall hefyd gael ei gynnal yn ystod adeg lle y mae yna arddangosfa, ymgyrch codi arian neu dathliad cyffredinol o fewn y Ganolfan. Mae croeso i aelodau ddod â gwesteion i'r digwyddiad; un gwestai ar gyfer aelodau unigol a dau ar gyfer aelodau ar y cyd. Fel arfer croesawir gwesteion ychwanegol am rodd awgrymedig; cyfathrebir hyn cyn y digwyddiad.
  • Mynediad i’n lolfa breifat Taittinger i aelodau a gostyngiad o 20% ar ddiodydd.
    Rhaid i aelodau archebu lle yn y lolfa aelodau cyn eu hymweliad.
    Oni bai ei fod wedi hysbysu fel arall, mae’r lolfa aelodau ar agor i aelodau fwynhau hyd at awr cyn i’r sioe cychwyn ac am yr egwyl cyfan.
  • Mae hawl i aelodau unigol ddod â hyd at 3 gwestai, ac mae aelodau ar y cyd yn gallu dod â hyd at 4 gwestai gyda nhw, yn cynnwys nhw ei hun.

TELERAU AC AMODAU FFRIND A FFRIND+

Trwy ymuno â chynllun aelodaeth Canolfan Mileniwm Cymru, rydych chi’n cytuno i gadw at y telerau ac amodau fel y gosodir isod.

Rydych chi hefyd yn rhoi caniatâd i Ganolfan Mileniwm Cymru gysylltu â chi dros y ffôn, post neu e-bost gyda gwybodaeth ynglŷn â sioeau a digwyddiadau sydd ar y gweill.

Os hoffech chi ar unrhyw adeg ddewis peidio â derbyn y fath wybodaeth, diweddarwch eich cyfrif ar wmc.org.uk yn yr adran ‘Fy Nghyfrif’ os gwelwch yn dda.

1. CYMHWYSEDD A BUDDION AELODAETH

1.1 CYFFREDINOL

1.1.1 Ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i newid neu amrywio y pris hysbysiedig ar gyfer aelodaeth Ffrind neu Ffrind+.
1.1.2 Does dim modd trosglwyddo aelodaeth nag unrhyw fuddion.
1.1.3 Mae aelodau’n ymrwymo i gytundeb 12 mis.
1.1.4 Gall aelodaeth gael ei ganslo o fewn 14 diwrnod o ddyddiad cofrestru, dim ond os nad oes unrhyw fuddion wedi cael eu defnyddio o fewn y cyfnod.
1.1.5 Mae’r aelodaeth ar y cyd yn benodol ar gyfer dau oedolyn sy’n byw yn yr un cyfeiriad. Bydd y ddau aelod yn derbyn cerdyn aelodaeth digidol, yn gallu archebu tocynnau a chael mynediad i gynigion a gostyngiadau ar docynnau.
1.1.6 Bydd cyfathrebiadau e-bost ynglŷn a sioeau sy’n mynd ar werth dim ond yn cael ei ddanfon i aelodau presennol, gan gynnwys y rheiny sydd angen adnewyddu eu haelodaeth. Pan rydych chi’n prynu aelodaeth ar y cyd, bydd gan y ddau aelod opsiwn i dderbyn y cyfathrebiadau yma neu peidio.
1.1.7 Ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i ddiddymu buddion ar unrhyw adeg a heb unrhyw rhybudd.
1.1.8 Ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i addasu cynlluniau aelodaeth heb rhybudd blaenorol.
1.1.9 Mae telerau ac amodau cyffredinol Canolfan Mileniwm Cymru yn gymwys.

1.2 CYMHWYSTER

1.2.1 Rhaid i chi fod dros 18 oed i allu wneud cais am aelodaeth neu adnewyddiad.
1.2.2 Rhaid i ymgeisiwyr a derbynwyr rhodd o aelodaeth ar y cyd fod yn ddau oedolyn sy’n byw yn yr un cyfeiriad a byddant yn derbyn un cyfathrebiad fesul cartref, oni bai i'r ddau ofyn am ohebiaeth ar wahan.
1.2.3 Ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i wrthod cais am aelodaeth neu derfynu aelodaeth ar unrhyw adeg os byddwch yn camymddwyn neu'n ymddwyn yn annerbyniol ar safle Canolfan Mileniwm Cymru, mewn digwyddiad a gynhelir ar y cyd â Chanolfan Mileniwm Cymru neu ar-lein. Mae'n bosibl y cymerir camau cyfreithiol hefyd.
1.2.4 Ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i wrthod cais am aelodaeth neu derfynu aelodaeth oherwydd gweithredoedd o gamymddygiad neu ymddygiad annerbyniol sy’n dod â gwarth i enw da Canolfan Mileniwm Cymru, yn cynnwys ar-lein. Mae'n bosibl y cymerir camau cyfreithiol hefyd.  
1.2.5 Os bydd rhaid i Ganolfan Mileniwm Cymru terfynu aelodaeth oherwydd rheswm sy’n unol â adran 1.2.3.neu 1.2.4, ni roddir ad-daliad i’r aelod hwnnw am gost gweddill ei aelodaeth am unrhyw gyfnod sydd ar ôl.

1.3 BUDDION AELODAETH FFRIND

1.3.1 Bydd archebu â blaenoriaeth ar gael pan y mae’n bosibl. Pan nad yw'n bosib bydd seddi ecsgliwsif ar gael i aelodau. Bydd modd archebu'r seddi hyn am gyfnod cyfyngedig.
1.3.2 Yn ystod y cyfnod archebu â blaenoriaeth gall aelodau unigol archebu uchafswm o bedwar tocyn ac mae aelodau ar y cyd yn gallu archebu uchafswm o wyth tocyn y perfformiad. Os oes yna ostyngiad sy’n gymwys, gall aelodau unigol archebu dau tocyn ac mae aelodau ar y cyd yn gallu archebu pedwar y perfformiad o dan y pris gostynegol, yn ystod y cyfnod penodol. (Tocynnau Theatr Donald Gordon yn unig.)
1.3.3 Bydd aelodau yn derbyn cyhoeddiadau sioeau, diweddariadau a gwybodaeth am docynnau drwy e-bost lle bynnag sy'n bosibl.

1.4 BUDDION AELODAETH FFRIND+

Yn cynnwys holl delerau ac amodau aelodaeth Ffrind yn ogystal â:

1.4.1 Bydd aelodau Ffrind+ yn cael eu hysbysu am eu digwyddiad blynyddol unwaith y mae’r dyddiad a manylion wedi’u cadarnhau. Fel arfer mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal o amgylch ein cynhyrchiadau teithiol neu cynhyrchiad tŷ ni, ond gall hefyd cael ei gynnal yn ystod adeg lle y mae yna arddangosfa, ymgyrch codi arian neu ddathliad cyffredinol yn yr adeilad.

COPR – BAR A LOLFA I AELODAU

1.4.4 Rhaid i aelodau Ffrind+ archebu lle yn ein bar a lolfa breifat i aelodau o leiaf 48 awr cyn eu hymweliad, sy'n ein galluogi i reoli niferoedd a staffio.
1.4.5 Os yw aelodau Ffrind+ yn dymuno defnyddio’r bar a lolfa breifat i aelodau, dylid trefnu hynny wrth archebu tocynnau. Os oes angen i chi roi gwybod i ni’n hwyrach eich bod chi eisiau defnyddio’r bar preifat i aelodau, ebostiwch ffrind@wmc.org.uk.
1.4.6 Oni nodir yn wahanol, bydd y bar a lolfa’n agor un awr cyn i’r sioe cychwyn ac yn aros ar agor drwy gydol yr egwyl.
1.4.7 Caniateir i aelodau unigol ddod â hyd at dri gwestai gyda nhw, a gall aelodau ar y cyd ddod â hyd at bedwar gwestai, gan gynnwys nhw eu hunain.
1.4.8 Rhaid i westeion fod yng nghwmni aelod Ffrind+ ar bob adeg.
1.4.9 Rhaid archebu lle yn ein bar a lolfa o leiaf 24 awr cyn eu hymweliad a dim ond aelod Ffrind+ sy'n gallu ei ychwanegu.
1.4.10 Cadwn yr hawl i atal mynediad i’r bar a lolfa breifat i aelodau ar unrhyw adeg.
1.4.11 Os oes yna llai na 6 person yn defnyddio’r bar a lolfa, cadwn yr hawl i gau’r lolfa neu ofyn i chi archebu ymlaen llaw, ac mae'n bosib na fydd staff yn y lolfa.
1.4.12 Dim ond hyn a hyn o bobl all fod yn y bar a lolfa, a chaniateir i bobl ei ddefnyddio ar sail cyntaf i’r felin. Unwaith y bydd y lolfa'n llawn, ni fydd aelodau ychwanegol yn gallu ei ddefnyddio.
1.4.13 Mae’r bar a lolfa breifat i aelodau ond ar gael ar gyfer perfformiadau yn Theatr Donald Gordon, ac nid yw ar gael ar gyfer perfformiadau yn ein Stiwdio Weston, Cabaret a mannau perfformio eraill na’n gofodau cyhoeddus, oni bai y cytunwyd yn wahanol.

1.4.14 Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn ymrwymedig i ddarparu amgylchedd diogel, parchus a chroesawgar i bawb – ein haelodau, cefnogwyr, ymwelwyr a staff – a byddwn yn gweithredu os bydd unrhyw un yn profi sylwadau tramgwyddus neu ymddygiad bygythiol o unrhyw fath ar ein safle.

1.5 CYMALAU BUDDION CYFFREDINOL

1.5.1 Bydd yr holl fuddion i aelodau yn para am flwyddyn (oni nodir yn wahanol).
1.5.2 Sylwer y gallwch ddiweddaru eich manylion a'ch dewisiadau ar unrhyw adeg trwy fynd i’ch cyfrif ar-lein neu drwy gysylltu â ni.
1.5.3 Nid oes modd trosglwyddo eich aelodaeth.
1.5.4 Mae cynigion aelodaeth ar gael ar y ddau bris tocyn uchaf lle y bo'n bosib, ac eithrio perfformiadau un-nos, oni nodir yn wahanol.
1.5.5 Ni ellir cyfuno cynigion aelodau ag unrhyw gynigion a gostyngiadau eraill na chael eu hychwanegu at tocynnau a brynwyd eisoes.
1.5.6 Mae tocynnau, gostyngiadau a chynigion arbennig oll yn amodol ar argaeledd.
1.5.7 Nid oes modd defnyddio’r gostyngiadau yma pan yn archebu tocynnau gydag asiantaethau tocynnau eraill.
1.5.8 Yn ystod y cyfnod cyfnod archebu â blaenoriaeth gall aelodau unigol brynu uchafswm o bedwar tocyn a gall aelodau ar y cyd brynu wyth tocyn y perfformiad. Mae’r uchafswm yma yn cynnwys unrhyw gynigion tocynnau. Os oes yna gynnig tocynnau sy’n gymwys, gall unigolion archebu dau docyn ac aelodau ar y cyd yn gallu archebu pedwar tocyn gwerth y pris gostynedig, o fewn y cyfnod yma. Perfformiadau Theatr Donald Gordon yn unig.
1.5.9 Gall tocynnau pellach gael eu prynu yn ystod y cyfnod gwerthiant y cyhoedd, yn amodol ar gyfyngiadau tocynnau.
1.5.10 Mae’r cyfnod archebu â blaenoriaeth fel arfer o leiaf 24 awr, ond os nad yw hynny’n bosibl bydd dyraniad ychwanegol o docynnau yn cael eu cadw ar gyfer aelodau am gyfnog cyfyngedig.
1.5.11 Dim ond i ddeiliad y cerdyn sydd wedi’i henwi y gellir rhoi gostyngiadau.
1.5.12 Mae aelodau yn gymwys i gael gostyngiad o 20% yn ein lolfa a chaffis. Ni chaniateir i’r gostyngiad yma gael ei ddefnyddio ar y cyd ag unrhyw gynigion eraill (e.e. Tri am bris dau neu prynwch un a chewch un am ddim).
1.5.13 Ni all gostyngiadau cael ei ddefnyddio wrth brynu gofroddion trwyddedig megis Crysau T a CDs.

1.6 YMAELODI AC ADEWYDDIADAU

1.6 Sut i ymaelodi
1.6.1 Gallwch wneud cais ar gyfer aelodaeth newydd ar-lein ar https://www.wmc.org.uk/cy/ymuno-a-rhoi/aelodaeth/ 
1.6.2 Gallwch adnewyddu eich aelodaeth Ffrind a Ffrind+ ar-lein drwy fewngofnodi i’ch cyfrif aelodau ar-lein.

1.7 TALU

1.7.1 Gallwch dalu trwy Debyd Uniongyrchol, cerdyn credyd neu debyd.
1.7.2 Pan yn talu gyda Debyd Uniongyrchol, bydd eich aelodaeth yn dechrau o'r dyddiad cofrestru. Os byddwch yn cofrestru cyn hanner nos ar y 9fed o'r mis byddwn yn cymryd taliad ar y 1af o'r mis nesaf.

I bobl sy'n cofrestru ar ôl y 10fed o'r mis, byddwn yn cymryd taliad ymhen dau fis. Yn y blynyddoedd sydd i ddod, os ydych yn dewis adnewyddu eich aelodaeth, byddwn yn cymryd eich taliad y mis cyn bo'ch aelodaeth yn adnewyddu. Enghraifft o gylchred talu:

Dyddiad ymuno Diwedd yr aelodaeth  Dyddiad talu Dyddiad talu adnewyddu eich aelodaeth
9 Hyd 2024 8 Hyd 2025 1 Tach 2024 1 Medi 2025
10 Hyd 2024 9 Hyd 2025 1 Rhag 2024 1 Medi 2025
27 Hyd 2024 26 Hyd 2025 1 Rhag 2024 1 Medi 2025
2 Tach 2024 1 Tach 2025 1 Rhag 2024 1 Hyd 2025


1.7.3 Nodwch os gwelwch yn dda, ni fydd talebau elusen na ffyrdd eraill o dalu yn cael ei dderbyn ar gyfer tansgrifiadau aelodaeth yn unol â chanllawiau CThEM.

1.8 CANSLO AC AD-DALIADAU

1.8.1 Mae aelodaeth Canolfan Mileniwm Cymru yn ffordd o gyfrannu’n elusennol. Unwaith mae aelodaeth wedi cael ei dalu’n llawn a cherdyn wedi’i gyhoeddi, nid oes modd cynnig ad-daliad.
1.8.2. Mae hon yn aelodaeth am flwyddyn gyfan gyda rhwymedigaeth i orffen cyflawni’r amserlen taliadau.
1.8.3 Gall y rheiny sy’n talu trwy Ddebyd Uniongyrchol ganslo yn ystod y flwyddyn a bydd taliadau yn dod i ben wedi hynny.
1.8.4 Mae buddion aelodaeth yn ddilys pan mae’r aelodaeth yn weithredol ac yn anweithredol pan mae aelodaeth yn cael ei ganslo neu’n dod i ben.

1.9 CYNIGION RECRIWTIO AELODAETH AC ANRHEG AM DDIM

1.9.1 O bryd i'w gilydd, efallai y bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnal cynigion arbennig er mwyn hyrwyddo'r cynlluniau aelodaeth. Ni chaniateir ceisiadau gan drydydd person ac ni ellir defnyddio'r cynigion ar y cyd ag unrhyw gynigion na hyrwyddiadau eraill.

1.10 GDPR

1.10.1 Caiff enwau a manylion cyswllt aelodau eu storio ar gronfa ddata fel y gallwn anfon gwybodaeth a chynigion atoch sy'n ymwneud â Chanolfan Mileniwm Cymru a all gynnwys gweithgareddau codi arian ychwanegol.
1.10.2 Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn storio ac yn prosesu data personol yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth Diogelu Data sy'n gymwys.
1.10.3 Mae gan aelodau yr hawl i benderfynu p'un a ydynt am dderbyn gwybodaeth pellach ynglŷn â pherfformiadau neu ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu gan Ganolfan Mileniwm Cymru. Os ydych chi’n ail-ystyried ac yn dymuno peidio derbyn gohebiaeth ar unrhyw adeg yn ystod eich aelodaeth, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

1.11 RHODD CYMORTH

1.11.1 Mae aelodaeth yn cynnwys cyfran o fuddiant a chyfran o gyfraniad.
1.11.2 Rhaid i aelodau ein hysbysu os ydyn nhw’n gymwys am Rhodd Cymorth neu beidio. Bydd unrhyw gyfraniad gwirfoddol sydd yn uwch na gwerth y buddion â gytunwyd yn gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth.

1.12 CERDYN AELODAETH DDIGIDOL

1.12.1. Gall aelodau hawlio eu buddiannau ar y safle drwy ddangos eu cerdyn aelodaeth ddigidol neu cod QR bersonol (gellir ddod o hyd i'r ddau drwy fewngofnodi i Fy Nghyfrif)
1.12.2. Mae cardiau aelodaeth digidol yn ddilys hyd dyddiad dod i ben yr aelodaeth fel a ddengys yn Fy Nghyfrif.
1.12.3. Nid yw cardiau aelodaeth na manylion cysylltiedig yn drosglwyddadwy a dim ond yr unigolyn/unigolion a enwir ar y cerdyn sydd â hawl i'w ddefnyddio i archebu tocynnau neu hawlio gostyngiadau.

2. AMRYWIAD AR Y TELERAU AC AMODAU HYN

Cafodd y telerau ac amodau yma eu hadnewyddu ar 16 Ionawr 2024. Ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i addasu’r telerau ac amodau yma o bryd i'w gilydd. Bydd newidiadau o’r fath yn weithredol ar unwaith ar ôl iddynt gael eu hychwanegu i wefan Canolfan Mileniwm Cymru.

Darllenwch y telerau ac amodau yn ofalus cyn tmyno â'n cynllun aelodaeth, adnewyddu eich aelodaeth neu brynu aelodaeth rhodd os gwelwch yn dda.

Dylech ddeall eich bod yn cytuno i fod ynghlwm â’r telerau ac amodau yma a’n Hysbysiad Preifatrwydd wrth ymaelodi ar-lein, dros y ffôn neu thrwy’r post. Dylai’r telerau ac amodau aelodaeth yma hefyd cael eu darllen ar y cyd â’r telerau ac amodau gwerthiant.

Nodwch: os ydych chi’n defnyddio aelodaeth a chafodd ei brynu i chi gan rywun arall, trwy eich gweithrediad chi rydych yn cytuno ac yn derbyn bod y telerau ac amodau yma’n gymwys rhyngom ni.

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn elusen sydd wedi’i gofrestru gyda’r rhif elusen 106045.