Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Gellir defnyddio Tystysgrifau Rhodd a Thalebau Credyd i dalu am unrhyw docynnau, cost aelodaeth neu nwyddau a brynir ar-lein neu drwy ein swyddfa docynnau. Gallwch hefyd eu defnyddio i dalu am fwyd a diod yn ein bariau theatr neu yn y Caffi.

Er mwyn defnyddio Tystysgrif Rhodd arlein, wrth dalu cliciwch y botwm 'Oes gennych chi Dystysgrif Rhodd?' a rhowch y cod adbrynu o'ch tystysgrif. Er mwyn defnyddio Tystysgrif Rhodd yn ein bariau, dangoswch y cod QR sydd yng nghornel y tystysgrif. Os ydych chi wedi colli'ch Tystysgrif Rhodd, gall y prynwr gwreiddiol ddod o hyd i'r cod rhif neu'r cod QR o ardal Fy Nghyfrif ein gwefan.

Dim ond am 18 mis o'r dyddiad creu y mae tystysgrifau rhodd yn ddilys. Ar ôl hyn, bydd unrhyw dystysgrif rhodd sydd heb ei defnyddio yn annilys.

Crëir talebau credyd fel ffordd o ad-dalu ar ôl canslo sioe neu newid mewn prisiau tocynnau ar ôl cyfnewidiad. Gellir hefyd eu defnyddio yn yr un modd â Thystysgrifau Rhodd ac yn ddilys am 18 mis.

Gellir ond defnyddio talebau credyd Opera Cenedlaethol Cymru ar gyfer sioeau a nwyddau WNO.

Gellir gwirio balans unrhyw Dystysgrif Rhodd ar-lein ynghyd â manylion unrhyw dalebau credyd sydd wedi'u rhoi fel rhan o ad-daliad neu gyfnewidiad yn ardal Tystysgrifau Rhodd a Thalebau Credyd eich cyfrif ae-lein.

Telerau ac amodau eraill:

  • Ni ellir dal Canolfan Mileniwm Cymru yn atebol am dystysgrifau rhodd neu dalebau credyd sy'n mynd ar goll, sy'n cael eu dwyn, eu difrodi na'u difwyno.
  • Ni ellir cyfnewid tystysgrifau rhodd neu dalebau credyd am arian parod.
  • Ni ellir hawlio ad-daliad am dystysgrifau rhodd neu dalebau credyd.
  • Ni roddir newid, ond gellir defnyddio unrhyw falans sy'n weddill yn y dyfodol.
  • Ar ôl i'r dystysgrif rhodd neu'r daleb credyd ddod i ben, bydd unrhyw falans sy'n weddill yn cael ei ddidynnu.
  • Nid yw tystysgrifau rhodd neu dalebau credyd yn gwarantu bod tocynnau ar gael.
  • Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cadw'r hawl i ddiwygio'r telerau a'r amodau yma o dro i dro os yw'n ystyried yn rhesymol bod angen gwneud hynny (e.e. i newid cwmpas y gwasanaeth tystysgrif rhodd, i hysbysu bod y gwasanaeth wedi'i dynnu'n ôl neu os bydd amgylchiadau y tu hwnt i'w rheolaeth yn codi). Rhoddir rhybudd rhesymol o newidiadau o'r fath lle bo hynny'n bosib. 
  • Drwy brynu a/neu ddefnyddio tystysgrif rhodd neu daleb credyd, rydych chi'n derbyn y telerau a'r amodau yma ac yn cytuno iddynt.