Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rhowch gyfle i’ch busnes ddisgleirio gyda phrofiadau bythgofiadwy o’r celfyddydau.

Rydyn ni’n arbenigo yn eich helpu chi i wireddu eich nod: o greu derbyniadau sy’n seiliedig ar sioe i ddarparu profiadau bythgofiadwy y tu ôl y llen; dangos eich brand i’n cynulleidfa a chodi’r llen i’ch staff – mae’r arbenigedd gennym ni.

Gallwn deilwra ein pecynnau hyblyg i ateb eich gofynion unigryw, gan sicrhau bod y bartneriaeth yn un naturiol ac yn gweddu eich busnes.

Gall ein pecynnau aelodaeth corfforaethol gynnwys:

  • Y tocynnau gorau: Cyfle i fynychu digwyddiadau, arddangosfeydd a pherfformiadau poblogaidd a mwynhau’r seddi gorau
  • Rhagoriaeth lletygarwch: Gallwch logi ein hystafelloedd digwyddiadau am ddim
  • Cyfleoedd rhwydweithio: Cewch wahoddiadau ecsgliwsif i ragddangosiadau, derbyniadau a pherfformiadau arbennig i bwysigion a thyfwch eich rhwydwaith broffesiynol
  • Ymgysylltu â’ch staff: Ysbrydolwch eich staff gyda’n sioeau gwefreiddiol, gweithdai arbennig a chyfleoedd i wirfoddoli, gan feithrin eu datblygiad a’u creadigrwydd
  • Mynediad arbennig: Cewch fynediad at ddigwyddiadau artistig arbennig, sgyrsiau gan guraduron a theithiau y tu ôl y llen, lle gewch fewnwelediad unigryw gan artistiaid o fri
  • Rhowch sbotolau ar eich brand: Bydd eich busnes yn cael ei gredydu fel partner gwerthfawr ar sgriniau digidol yn y ganolfan, ar ein cyfryngau cymdeithasol, mewn rhaglenni print, ar ein gwefan ac yn ein hadroddiadau blynyddol
  • Cefnogaeth arbennig: Bydd ein rheolwyr cyfrifon medrus yn darparu profiad esmwyth ac yn eich cynghori chi er mwyn sicrhau eich bod chi’n gwneud y mwyaf o adenillon ar fuddsoddiad

Drwy fwynhau’r buddion hyn byddwch hefyd yn cefnogi ein gwaith fel elusen gan gysylltu pobl ifanc, cymunedau ac artistiaid Cymru er mwyn rhoi’r cyfle iddynt i fod yn greadigol ac i ddysgu sgiliau newydd.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cydweithio? Cysylltwch â’n tîm datblygu er mwyn i ni weld sut y gallwn ni gefnogi amcanion eich busnes. Cysylltwch â ni heddiw a byddwch yn rhan o rywbeth anhygoel.

Cysylltwch ag partner@wmc.org.uk