Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rydyn ni’n falch o groesawu ein teulu gwerthfawr o bartneriaid, sy’n chwarae rhan hollbwysig yn ein hymdrechion codi arian.

Fel elusen rydyn ni’n dibynnu ar gefnogaeth gorfforaethol i helpu i dyfu ein rhaglenni addysg, sy’n ein galluogi ni i gysylltu gydag ac ysbrydoli’r genedl. Drwy roi blas cyntaf o’r celfyddydau i blant a phobl ifanc rydyn ni’n cynnau fflam o greadigrwydd sy’n cyfoethogi eu bywydau.

Mae partneriaethau cydweithredol yn creu ffyrdd unigryw i fusnesau ymgysylltu â’u staff, eu cwsmeriaid a’u cleientiaid, a hefyd yn agor y drysau i gynulleidfa fwy eang. Drwy ymuno â ni gall gwmnïau ddangos eu hymrwymiad i effaith gymdeithasol ac ehangu eu cyrhaeddiad a’u henw da.

Ydych chi am weld pwy yw ein partneriaid cyfredol? Cymerwch olwg ar ein rhwydwaith o gefnogwyr uchel eu parch, sy’n rhannu angerdd dros wneud gwahaniaeth.

Os ydych chi wedi’ch ysbrydoli ac am ymuno â’n teulu o bartneriaid gwerthfawr a gwneud cyfraniad i’n cenhadaeth, cysylltwch â’n tîm datblygu heddiw. Gyda’n gilydd gallwn gael effaith ystyrlon a chyfoethogi bywydau drwy bŵer y celfyddydau.

Darganfyddwch fwy am effaith eich cefnogaeth yma.

Cysylltwch ag partner@wmc.org.uk