Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Grŵp o unigolion sy’n rhannu’r un meddylfryd yw Cylch y Cadeirydd. Maent yn rhannu angerdd dros y celfyddydau ac yn credu ym mhwysigrwydd ein gwaith fel canolfan gelfyddydau cenedlaethol, a’n nod o sicrhau bod y celfyddydau’n fwy hygyrch ac o feithrin creadigrwydd ledled Cymru a thu hwnt.

Ffurfiwyd Cylch y Cadeirydd yn wreiddiol gan Lywydd Gydol Oes Canolfan Mileniwm Cymru, yr Arglwydd Rowe-Beddoe. Arweinir y grŵp gan ein Cadeirydd cyfredol, Peter Swinburn.

Mae’r aelodau’n chwarae rhan hollbwysig yn ariannu ein prosiectau a’n cynyrchiadau, drwy gyfrannu isafswm o £5,000 y flwyddyn.

Mae’r cyfraniad yn sicrhau y gallwn ymestyn ein gwaith trawsffurfiol gyda phobl ifanc, cymunedau a doniau newydd, gan gyfoethogi bywydau ledled Cymru.

Mae aelodau’r grŵp yn ffurfio perthynas bersonol gyda Chanolfan Mileniwm Cymru, wedi’i deilwra i’w diddordebau nhw. Mae sawl aelod ar hyn o bryd yn cefnogi ein cynyrchiadau ein hunain drwy Gylch y Cynhyrchydd. Golygai hyn eu bod yn mynd i galon y broses ddatblygu, gan gyfarfod â dramodwyr, cyfarwyddwyr ac actorion wrth i ddarn ddatblygu a chael cyfle i fod yn rhan o weithdai a nosweithiau agoriadol.

Rydyn ni’n cynnig ymweliadau tu ôl y llen i’r rheiny sy’n cymryd rhan yn ein prosiectau – fel bod aelodau’n gallu gweld effaith eu cefnogaeth ar ein gwaith.

Maent hefyd yn treulio amser gyda’n uwch dîm rheoli, er mwyn closio at ein gwaith, ein gweledigaeth a’n cynlluniau. 

Gwahoddir aelodau i ddigwyddiadau ecsglwsif drwy gydol y flwyddyn rydyn yn cydnabod eu cefnogaeth yn ein hadeilad, mewn print ac ar-lein.

Mae aelodau Cylch y Cadeirydd hefyd yn mwynhau holl fuddion aelodaeth Partner Awen.

Os hoffech dderbyn wybodaeth bellach am ymuno â Chylch y Cadeirydd, cysylltwch â Sian Morgan, Cyfarwyddwr Datblygu a Phartneriaethau drwy e-bostio sian.morgan@wmc.org.uk.

Diolch i aelodau cyfredol Cylch y Cadeirydd:

Cylch y Cadeirydd

Dr Carol Bell
Bob a Lindsay Clark
Y Fonesig Vivien Duffield DBE
Diane Briere de l'Isle-Engelhardt OBE
Henry Engelhardt CBE
Dyfrig a Heather John
Sylvia Richards er cof am Clive Richards CBE KSG DL
Yr Arglwydd a’r Arglwyddes Lady Rowe-Beddoe
Mr Peter a Mrs Janet Swinburn
David Stevens CBE + Heather Stevens CBE