Gall pob rhodd ym mhob ewyllys, waeth pa mor fawr neu fach ydyw, wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol y celfyddydau yng Nghymru.
Mae grym a phosibilrwydd mewn rhoi cymynrodd. Y potensial i dalent newydd ffynnu; yr uchelgeisiau amhosibl eu gwneud a'r diogelwch hirdymor a gynigir i'r celfyddydau sy’n annwyl iawn yng Nghymru.
Fel elusen, ein cenhadaeth yw tanio dychymyg a galluogi pob person ifanc yng Nghymru i ehangu eu gorwelion drwy'r celfyddydau. Gallai anrheg yn eich ewyllys ein helpu i gyflawni hyn.
Rydym yn dibynnu ar haelioni parhaus ein cefnogwyr i sicrhau y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau profiadau artistig, datblygu eu llais creadigol eu hunain a meddu ar y sgiliau i sicrhau dyfodol mwy bositif.
Os hoffech chi gofio'r Ganolfan yn eich ewyllys, mae'r manylion fydd eu hangen arnoch i'w cael isod ac mae croeso i chi gysylltu â ni. Byddem wrth ein bodd yn clywed beth am y Ganolfan sy'n eich ysbrydoli a dangos tu ôl i lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru i chi.
Enw’r Elusen: Canolfan Mileniwm Cymru
Cyfeiriad: Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Caerdydd, CF10 5AL
Rhif Elusen Gofrestredig: 1060458
Er Cof
I lawer, mae'r Ganolfan yn lle arbennig. I rai, mae'n teimlo fel cartref; i eraill, mae'n lle o ysbrydoliaeth a dysgu ac mae'n dal atgofion melys i bawb.
Gellir gwneud rhodd er cof yn lle - neu yn ogystal â - blodau mewn angladd ac mae'n ffordd arbennig o anrhydeddu bywyd rhywun annwyl, tra'n newid bywydau pobl eraill.
Bydd eich rhodd yn ein galluogi i estyn allan at y rhai sydd bellaf oddi wrth y celfyddydau, gan eu galluogi i danio angerdd a fydd, gobeithio, yn para am oes.
Os dymunwch wybod mwy am adael anrheg yn eich ewyllys neu am wneud rhodd er cof, cysylltwch â Bethany Helliwell ein Swyddog Rhoddion Unigol. Byddai'n fodlon anfon rhagor o wybodaeth atoch, neu drefnu cyfarfod cyfrinachol dros y ffôn neu'n bersonol.
Ffôn: 02920 636467
Ebost: bethany.helliwell@wmc.org.uk