Mae ymddiriedolaethau a sefydliadau sy'n ein hariannu yn ein galluogi ni i gyrraedd cymunedau amrywiol a phobl ifanc ddifreintiedig drwy ein Rhaglen Dysgu Creadigol.

Rydyn ni'n mynd ati i godi arian er mwyn parhau â'n gwaith ar draws y meysydd prosiect canlynol:

  • Creu cynyrchiadau gwreiddiol a wnaed yng Nghymru megis Sioe Gerdd Tiger Bay, Only the Brave a Man to Man, sy'n arddangos talentau o Gymru ac yn adrodd straeon Cymreig;
  • Gŵyl y Llais – ein gŵyl gelfyddydol ryngwladol ddwyflynyddol sy'n arddangos artistiaid rhyngwladol, cenedlaethol a lleol;
  • Cefnogi talent sy'n dod i'r amlwg gan gynnwys artistiaid, cynhyrchwyr a phrentisiaid technegol sy'n datblygu;
  • Partneriaethau creadigol gydag elusennau ieuenctid, adfywio a chymunedol megis Plant y Cymoedd, Grassroots, Clybiau Bechgyn a Merched ac Oasis Caerdydd;
  • Ein tri maes craidd o ddysgu drwy greadigrwydd – Platfform Perfformio, Tu Ôl i'r Platfform a Radio Platfform.

"Gall dysgu drwy'r celfyddydau ymgysylltu ac ysbrydoli pobl ifanc, cefnogi canlyniadau addysgol allweddol a datblygu sgiliau sy'n paratoi pobl ifanc at fywyd y tu hwnt i'r ysgol. Gall y profiadau mae'r celfyddydau'n eu cynnig arwain at newid mewn unigolion, gan annog creadigrwydd, lleihau achosion o allgáu a chynorthwyo â datblygiad cymdeithasol a phersonol."

P

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Iestyn Evans, Rheolwr Datblygu, Ymddiriedolaethau a Sefydliadau 029 2063 4649,  iestyn.evans@wmc.org.uk