Yn ganolog i’n rôl fel pwerdy diwylliant yng Nghymru, rydyn ni’n meithrin doniau ac yn hyrwyddo lleisiau amrywiol drwy gefnogi artistiaid ac ymarferwyr creadigol ledled Cymru.
Rydyn ni’n rhoi gofod i wneuthurwyr theatr archwilio syniadau ac ymarfer, yn rhoi adborth ar sgriptiau a pherfformiadau, ac yn helpu i roi sbardun i syniadau. Rydyn ni hefyd yn cysylltu artistiaid gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant, ac yn helpu i sicrhau cyllid.
Gall y gwaith sylfaenol yma fod yn llwyr archwiliadol – gan roi cyfle i artistiaid brofi syniadau a chwarae – neu mewn rhai achosion, gall arwain yn rhagweithiol at greu gwaith y gellir ei berfformio ar ein llwyfannau a’r tu hwnt.
Yn 2021, fe greon ni wyth swydd Cydymaith Creadigol newydd, sef contract dwy flynedd ar gyfer unigolion creadigol ac artistiaid i ddatblygu eu crefft, i gymryd amser i arbrofi ac i fod yn greadigol.
Cefnogi Artistiaid
Rydyn ni’n meithrin drwy ystod o fentrau gwahanol. Rydyn ni’n cynnig arhosiad wythnos o hyd am ddim i unrhyw wneuthurwyr theatr proffesiynol yn unrhyw un o’n gofodau ymarfer blaen tŷ. Rydyn ni’n rhoi cyngor ac adborth i artistiaid sy’n archwilio syniadau ac yn rhannu gwaith ar wahanol gamau.
Rydyn ni’n cynnal perfformiadau gwaith ar waith ddwywaith y flwyddyn. Dyma gyfle i wneuthurwyr theatr gyflwyno gwaith newydd i’w ddatblygu mewn amgylchedd diogel heb bwysau. Mae’r gynulleidfa’n talu faint fynnan nhw, yn hytrach na thocyn pris safonol, sy’n tynnu pwysau oddi ar werthu tocynnau.
Mae’r amgylchedd yn berffaith ar gyfer treialu gwaith newydd a chael syniad o ymateb y gynulleidfa. Gall gwneuthurwyr theatr roi cynnig ar bethau newydd, gwneud camgymeriadau, llwyddo a dod o hyd i’w maes unigryw.
Yn ein gwaith yn cefnogi artistiaid, does dim pwysau i gael canlyniad. Ein rôl yw tywys, cefnogi a meithrin ar hyd y daith.
Drwy ein swyddi Cymdeithion Creadigol, rydyn ni’n darparu mentora cadarn a gofod i unigolion archwilio syniadau, bod yn greadigol, a chymryd amser i ddatblygu eu crefft.

Mae’r wyth swydd llawn amser yma ar gontractau dwy flynedd a chyflog o £25,000 yn hyblyg, gall y cyfranogwyr fod yn llawrydd neu’n Talu wrth Ennill, a gallant weithio’n rhan amser neu’n llawn amser.
Mae’r swyddi yma hefyd yn allweddol i’n hymrwymiad i ddod o hyd i ffyrdd cyffrous, ystyrlon, cydnerth a democrataidd o weithio gydag artistiaid, pobl ifanc a chymunedau.
Mae gennym ni ddulliau llai ffurfiol o feithrin doniau hefyd. Mae ein Swyddfa Agored yn cynnig gofod anffurfiol i artistiaid a gwneuthurwyr gwrdd ag aelod o’n tîm cynhyrchu.
Fe’i lansiwyd ar ddiwedd 2019, ac mae’r Swyddfa Agored yn rhoi cyfle i unigolion sgwrsio am brosiectau, cael cyngor ymarferol, cynnig syniadau, a dysgu mwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud.
Ym mis Ionawr 2020, aeth y Swyddfa Agored ar daith, gan ymweld â Phontio ym Mangor er mwyn cyrraedd mwy o bobl. Cafodd y daith ei gohirio oherwydd pandemig y Coronafeirws, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn dychwelyd yn fuan.
Nid datblygu doniau ar gyfer y llwyfan yn unig rydyn ni’n canolbwyntio arno, ond hefyd meithrin ymarferwyr ar draws y sector, a bod yn ased gwerthfawr i ecosystem ehangach y celfyddydau yng Nghymru.
Sut mae cysylltu â ni
Os ydych chi’n wneuthurwr theatr neu’n artist sy’n chwilio am gymorth ac arweiniad, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at artistiaid@wmc.org.uk. Mae’r mewnflwch yma’n cael ei fonitro’n gyson, a bydd eich e-bost yn cael ei anfon ymlaen at yr aelod o staff a fydd yn gallu ymdrin â’ch ymholiad orau.
Dysgu mwy am sut gallwn ni gefnogi eich gwaith
SUT Y GALLWCH CHI GEFNOGI ARTISTIAID
Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gefnogi ein gwaith gydag artistiaid. Mae dod yn aelod, gwneud rhodd, enwi sedd neu adael rhodd yn eich ewyllys i gyd yn ffyrdd y gallwch chi ein helpu ni i feithrin doniau yng Nghymru a datblygu gyrfaoedd artistiaid.
Os hoffech chi gefnogi, cysylltwch â ni – bydden ni’n falch o gael sgwrs: datblygu@wmc.org.uk.