Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rydyn ni yma i greu profiadau llawn llawenydd sy’n cyfoethogi bywydau pobl ifanc Cymru, ac yn eu galluogi i adrodd eu straeon ac i fod yn greadigol.

Bob blwyddyn, rydyn ni’n ymgysylltu â miloedd o blant a phobl ifanc, gan annog y genhedlaeth nesaf i godi eu llais a datblygu’r sgiliau creadigol sy’n hanfodol ar gyfer eu llesiant personol, cymdeithasol ac economaidd yn y dyfodol.

Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd i’r bobl ifanc hynny y mae profiadau gwael bywyd wedi effeithio arnynt fwyaf, ac ers agor rydyn ni wedi cyrraedd dros 300,000 o bobl ifanc. Yn 2019-20 cynhalion ni 736 o sesiynau, gan ymgysylltu â dros 20,766 o gyfranogwyr.

Tanio chwilfrydedd, datblygu hyder.

Rydyn ni’n datblygu sgiliau bywyd drwy brofiadau creadigol, gan ganolbwyntio ar gyfathrebu, gwydnwch, a mwynhau dysgu, a gaiff eu hannog gyda meddylfryd cadarnhaol.

Drwy roi’r sgiliau, y gofod a’r amser i bobl ifanc greu, rydyn ni’n gobeithio tanio dyhead ac annog hunan-gred. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy gynnal gweithdai sgiliau ymarferol a rhaglenni hyfforddi, a chreu profiadau dysgu digidol.

Eu stori nhw, yn eu ffordd nhw.

Rydyn ni’n annog pobl ifanc i fynd i ganol llwyfan a chreu Cymru sy’n adlewyrchu eu dyheadau nhw, felly rydyn ni’n cynllunio ein rhaglenni ochr yn ochr â phobl ifanc o’r dechrau un.

Rydyn ni’n rhoi ymreolaeth a chyfrifoldeb i bobl ifanc, drwy eu galluogi i weithio’n greadigol mewn gofodau corfforol a digidol sydd dan eu perchnogaeth a’u rheolaeth nhw.

Gyda’n gilydd.

Ein partneriaeth orau yw ein partneriaeth gyda phobl ifanc, yn creu rhaglenni a chynnwys gyda nhw, ar eu cyfer nhw. Serch hynny, fel sefydliad cenedlaethol, rydyn ni wedi meithrin partneriaethau gyda nifer o sefydliadau fel Plant y Cymoedd, Sparc, Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru, a Chelfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru i rannu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau.

I ni, mae cydweithio ar lefel genedlaethol yn allweddol er mwyn cynyddu arbenigedd a chyrraedd y rhai fydd yn cael y budd mwyaf.

Ein rhaglenni diweddar

Radio Platfform: Mae ein gorsaf radio a’n rhaglen hyfforddi dan arweiniad pobl ifanc yn rhoi llwyfan i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed i feithrin eu hyder, canfod eu llais, a mynegi eu hunain. Yn ogystal â'n gorsaf yng Nghaerdydd, mae nawr gennym ni chwaer-orsaf yn The Factory yn y Porth.

“Dydy Radio Platfform erioed wedi bod am y radio yn unig; mae’n ymwneud â datblygu pobl ifanc a rhoi cyfleoedd a sgiliau iddyn nhw y byddan nhw’n ei chael yn anodd dod o hyd iddyn nhw yn rhywle arall.” 

Ben, Intern gyda Radio Platfform

Mae'r gorsafoedd radio wedi'u gweithredu gan ac ar gyfer pobl ifanc; popeth o gynhyrchu a chyflwyno rhaglenni byw i farchnata a’r cyfryngau cymdeithasol. Caiff y cwrs chwe wythnos dwyieithog yma ei ddarparu mewn partneriaeth â Promo Cymru.

Yn Gryfach Ynghyd: Gyda chefnogaeth hael iawn Sefydliad Paul Hamlyn, mae’r rhaglen yma wedi gallu meithrin pobl ifanc ledled y Rhondda gyda gweithgareddau, digwyddiadau a sesiynau blasu; o hyfforddiant darlledu radio i weithdai theatr. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag elusen Plant y Cymoedd o’r Rhondda i’w darparu dros nifer o flynyddoedd.

Drwy gydol Gŵyl y Llais 2021, llenwyd ofodau Canolfan Mileniwm Cymru gan gyfres o ymyriadau creadigol a oedd yn archwilio'r cysyniad o 'bŵer'. Bu'r prosiect Ymyriadau Pwerus, dan arweiniad yr artist Bethan Marlow, yn cryfhau lleisiau pobl ifanc o'r Cymoedd a Chaerdydd o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys pobl anabl, niwroamrywiol, â phrofiad gofal, LHDTC+ a Du, Asiaidd ac amrywiol ethnig. Cymerwch olwg ar ein cyrsiau diweddaraf.

Llais Creadigol: Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw chwe wythnos o hyd sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’i diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol. O ysgrifennu creadigol i greu ffilmiau a chynhyrchu sioeau radio, mae'r rhaglen yn rhoi lle i ddysgu a chreu.

Prentisiaethau technegol: Oherwydd maint ein rhaglen fasnachol, mae modd i ni roi cyfle i bobl ifanc ddysgu sgiliau cynhyrchu technegol a’u paratoi nhw ar gyfer eu swydd gyntaf yn y diwydiant theatr neu ddigwyddiadau byw. Mae graddedigion yn cael prentisiaeth Lefel 3 wedi’i hachredu gan Goleg Caerdydd a’r Fro, a Dyfarniad Efydd gan Gymdeithas Technegwyr Theatr Prydain.

Sing Proud Cymru: Cywaith gorfoleddus gyda Voices From Care Cymru sydd â’r nod o roi cyfle i blant, pobl ifanc a theuluoedd o’r gymuned sydd â phrofiad o ofal i fynegi eu hunain drwy gân. Mae’r côr yma sy’n pontio’r cenedlaethau yn dod â phobl ifanc a’u cefnogwyr ynghyd, gan gynnwys gweithwyr cymorth, teuluoedd maeth a phobl sydd wedi gadael gofal.

Cefnogir ein gwaith dysgu ac ymgysylltu gan Garfield Weston Foundation, Moondance Foundation, Mary Homfray Charitable Trust, Simon Gibson Charitable Trust, John Thaw Foundation, a Chyngor Celfyddydau Cymru.