Fel cynhyrchydd creadigol, rydyn ni’n credu mewn creu gwaith sydd â’r grym i ehangu ein bydoedd, sbarduno emosiynau, a thanio’r dychymyg.
Rydyn ni’n creu cynyrchiadau, gwyliau a digwyddiadau ein hunain, sy’n difyrru, yn ysgogi ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd, ac sydd â llais cryf wrth eu calon. Rydyn ni’n canolbwyntio ar greu profiadau gyda cherddoriaeth; theatr gerdd, dramâu a chaneuon, theatr gig neu stori lle mae’r sgôr yn ganolog i’r cynhyrchiad.
Rydyn ni’n cynhyrchu gwaith cyfoes sy’n hyrwyddo doniau o Gymru wrth adrodd straeon grymus drwy leisiau hen a newydd, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u tangynrychioli, ac yn dathlu Cymru yn ei holl amrywiaeth.
Rydyn ni wedi cydweithio gydag artistiaid Byddar ac artistiaid sy’n clywed, perfformwyr dwyieithog, cyfansoddwyr, cwmnïau theatr ac awduron lleol, ac artistiaid LHDTQ+ i greu math newydd o waith sy’n adrodd eu stori nhw, yn eu ffordd nhw.

Grandmother's Closet

The Making of a Monster

The Boy With Two Hearts

The Beauty Parade

Anthem

The Mirror Crack'd

Patti Smith, Gŵyl y Llais/ Festival of Voice

RED

Arlo Parks, Gŵyl y Llais/ Festival Of Voice

John Grant, Gŵyl y Llais/ Festival Of Voice

Tiger Bay The Musical

Only The Brave
Helen Maybanks
Man To Man
POLLY THOMAS
Land of Our Fathers

City Of The Unexpected
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi cryfhau ein rôl fel tŷ cynhyrchu gyda chnwd newydd o gynyrchiadau a wnaed yng Nghymru, i Gymru, wedi’u ysbrydoli gan Gymru, ar draws ein llwyfannau ni a llwyfannau ledled Prydain a’r tu hwnt.
Mae ein cynyrchiadau diweddaraf yn cynnwys...
The Making of a Monster
Ar gyfer The Making of a Monster, cafodd ein Stiwdio Weston ei drawsnewid yn ofod personol ac eclectig lle aeth Connor Allen, y Children’s Laureate Wales, â chynulleidfaoedd yn ôl i’w blentyndod fel person hil gymysg mewn perygl o golli rheolaeth a’r un eiliad a newidiodd ei fywyd.
Gyda cherddoriaeth fyw, tafluniadau, barddoniaeth a symudiadau, roedd y sioe yn rhannu stori bachgen o Gasnewydd â thad Du absennol, a oedd yn cuddio o’r heddlu gan weithio allan beth yw ystyr bod yn ddyn.
Wedi’i greu o ddiwylliant grime ac wedi’i ysbrydoli gan Dizzee Rascal, Wiley, Skepta a Kana, perfformiwyd y cynhyrchiad rhwng 9 – 19 Tachwedd 2022. Dysgwch fwy.
The Boy With Two Hearts
Dilynodd y stori wir anhygoel hon, mewn cynhyrchiad a grëwyd mewn cydweithrediad agos â Hamed a Hessam Amiri, y teulu Amiri wrth iddynt ffoi Affganistan i ddianc o'r Taliban, ac roedd eu taith hyd yn oed yn fwy hanfodol oherwydd bod cyflwr ar galon eu mab hynaf Hussein.
"Thrilling, timely and heartfelt."
THE STAGE
Yn dilyn tymor agoriadol yn 2021 pan werthwyd pob tocyn, mae The Boy with Two Hearts yn dychwelyd i Gaerdydd am wythnos ym mis Medi 2022 cyn trosglwyddo i'r National Theatre yn Llundain. Dysgwch fwy.
Llais
Ein gŵyl gelfyddydol ryngwladol flynyddol yw Llais sy’n arddangos pŵer y llais gan gyflwyno doniau anhygoel artistiaid o bedwar ban byd i'r gynulleidfa.
Ers i’r ŵyl ddechrau, mae wedi arddangos rhai o leisiau mwyaf adnabyddus y byd o’r sbectrwm cerddorol llawn, gan gynnwys: Patti Smith, Van Morrison, Femi Kuti, Laura Marling, Candi Staton, Elvis Costello, Hugh Masekela, Rufus Wainwright, Fatoumata Diawara, John Grant, Angélique Kidjo, Arab Strap, Hot Chip a mwy. Dysgwch fwy.
Anthem
Comedi gerddorol yn Gymraeg oedd Anthem a berfformiwyd yn ein Stiwdio Weston rhwng 20 a 30 Gorffennaf 2022.
Cafodd Anthem, a oedd yn llawn hwyl, caneuon bachog a gliter, ei llwyfannu fel darllediad teledu byw gyda chyflwynydd a phedwar cystadleuydd a oedd yn perfformio mewn ‘ffeinal’ byw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Wedi'i hysgrifennu gan Llinos Mai a’i chyfansoddi gan Llinos Mai a Dan Lawrence, cafodd ei pherfformio a’i chapsiynu yn greadigol yn Gymraeg gydag uwchdeitlau yn Saesneg.
Grandmother's Closet

Cyd-gynhyrchiad rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Luke Hereford oedd Grandmother's Closet a berfformiwyd yn ein Stiwdio Weston rhwng 20 a 23 Ebrill 2022.
Roedd y ddrama hunangofiannol hon gan y gwneuthurwr theatr profiadol, Luke Hereford, a oedd yn ysgrifennu am y tro cyntaf, yn archwilio hunaniaethau cwiar, a sut ddysgodd Luke i garu ei hunaniaeth gyda chymorth ei fam-gu a'i chwpwrdd dillad lliwgar. Dysgwch fwy.
Yn dilyn rhediad ym mis Ebrill 2022 lle gwerthwyd pob tocyn, caiff sioe gerdd un-person Luke ei pherfformio rhwng 3 a 28 Awst 2022 yn adeilad Summerhall yn ystod Gŵyl Ymylon Caeredin.
The Beauty Parade
Mewn cyd-gynhyrchiad gyda’r gwneuthurwr theatr arloesol Kaite O’Reilly, roedd y cynhyrchiad pwerus hwn yn adrodd stori deimladwy y menywod arwrol a oedd yn ysbïwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dysgwch fwy.
Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff)
Cafodd y cabaret un-fenyw yma, wedi’i gyd-gynhyrchu, ei ysgrifennu a’i berfformio gan yr awdur a’r perfformiwr dwyieithog Carys Eleri, adolygiadau ardderchog ac enillodd wobr am y Cabaret Gorau yng Ngŵyl Ymylon Adelaide. Yna cafodd ei berfformio yng Ngŵyl Ymylon Caeredin ac aeth ar daith o amgylch Cymru – yn Gymraeg ac yn Saesneg – gyda chanmoliaeth fawr. Dysgwch fwy.
The Mirror Crack'd
Aeth y cyd-gynhyrchiad hwn gyda Wiltshire Creative, addasiad o waith Agatha Christie gan Rachel Wagstaff, ar daith a welwyd gan fwy na 28,000 o bobl, gan gynnwys pythefnos yn Theatr Newydd Caerdydd, lle curodd y record am nifer y tocynnau a werthwyd ar gyfer drama yn y lleoliad hwnnw.
Fe gynhyrchwyd a pherfformiwyd fersiwn o’r ddrama yn hwyrach ym Mumbai, India. Dysgwch fwy.
Cynyrchiadau’r gorffennol...
RED / Dinas yr Annisgwyl Roald Dahl / Man to Man / The Last Mermaid / Land of Our Fathers / La Voix Humaine / Only the Brave / Sioe Gerdd Tiger Bay / Double Vision / Highway One
Cefnogir ein cynyrchiadau ar gyfer 2021 gan Gronfa Ddiwylliant Garfield Weston, Bob a Lindsay Clark, Cyngor Celfyddydau Cymru, British Council a Llywodraeth Cymru.


Llais
Mae gŵyl gelfyddydol ryngwladol Caerdydd yn dod ag artistiaid a chynulleidfaoedd at ei gilydd am gerddoriaeth fyw anhygoel, perfformiadau ysgogol a sgyrsiau ysbrydoledig.

The Making of a Monster
Too black for his white friends, but too white for his Black friends. Growing up mixed race in Newport, Connor fell into a cloud of grey.

The Boy With Two Hearts
O Affganistan i Gymru, datgelodd y stori wir hon y dewrder a'r ddynoliaeth sydd y tu ôl i stori bob ffoadur.

Ripples of Kindness
Stori o frawdoliaeth, cariad a phositifrwydd, crëwyd y profiad VR cymydol hwn i gyd-fynd â The Boy With Two Hearts.

Anthem
Comedi gerddorol yn Gymraeg oedd Anthem a berfformiwyd yn ein Stiwdio Weston ym mis Gorffennaf 2022.

Grandmother's Closet
Mae’r sioe hunangofiannol yma gan y gwneuthurwr theatr profiadol Luke Hereford, a oedd yn ysgrifennu am y tro cyntaf, yn archwilio ei bersonoliaethau cwiar.

Gŵyl 2021
Daeth pedair o hoff wyliau Cymru – Gŵyl y Llais, FOCUS Wales, Lleisiau Eraill Aberteifi a Gŵyl Gomedi Aberystwyth – ynghyd yn ystod y cyfnod clo i greu Gŵyl 2021.

EICH LLAIS
Roedd Eich Llais syn arddangosfa amlgyfrwng dan arweiniad y gymuned a oedd yn dal bywydau, gobeithion a breuddwydion ein cynulleidfaoedd a’n cymunedau.

The Beauty Parade
Wedi’i gyd-gynhyrchu â’r gwneuthurwr theatr arloesol, Kaite O’Reilly, cyflwynodd The Beauty Parade stori ryfeddol ysbiwyr benywaidd, arwrol yr Ail Ryfel Byd.

RED
RED oedd ein sioe Nadolig ar gyfer 2019 a berfformiwyd yn ein Stiwdio Weston. Roedd hi’n gyd-gynhyrchiad gyda’r cwmni arobryn Likely Story a…

Cer i grafu...sori ...garu!
Sioe wyddoniaeth, comedi, cerddoriaeth un ddynes Carys Eleri am gymhlethdodau cariad.

The Mirror Crack'd
Ein drama wefreiddiol newydd yn seiliedig ar y clasur o nofel ddirgel Miss Marple gan Agatha Christie, The Mirror Crack'd from Side to Side.

Double Vision
This ambitious co-production with Gagglebabble was part murder mystery, part gig with plenty of twists and turns.

Highway One
Co-production with August 012 about a surreal journey to Delphi with a grieving woman, mythical Centaur, Italian film-maker and a mystic.

Tiger Bay Y Sioe Gerdd
Dociau Caerdydd ar droad yr ugeinfed ganrif, lle mae tlodi enbyd ochr yn ochr â chyfoeth eithriadol a’r diwydiant glo sy'n teyrnasu.

Only the Brave
Sioe gerdd am laniadau D-Day, straeon y dynion a'r menywod a'u dewrder yn wyneb yr Ail Ryfel Byd.

Dinas yr Annisgwyl
Strafagansa byw ansbaridigaethus drwy strydoedd Caerdydd i ddathlu bywyd a gwaith Roald Dahl.

Man to Man
Ein cynhyrchiad mewnol cyntaf, gyda fersiwn newydd o ddrama Manfred Karge am oroesiad un fenyw yn yr Almaen Natsiaidd