Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref creadigol i bawb.
Rydym wedi ymrwymo i greu profiad croesawgar, bywiog a pharchus i bawb sy'n ymweld â ni ac yn gweithio gyda ni. Rydym yn disgwyl i bawb rhyngweithio gyda pharch a chwrteisi at ei gilydd.
Ni fyddwn yn goddef unrhyw ymddygiad sy’n cael effaith negyddol ar ddiogelwch, cysur a lles pawb sy'n gweithio neu'n ymweld â CMC neu sy'n tanseilio ein hymrwymiad i hygyrchedd a chynhwysiant.
Ni fyddwn yn goddef:
- Unrhyw achosion o wahaniaethu neu aflonyddu yn erbyn unrhyw un sy'n gweithio i, neu'n ymweld â, CMC, gan gynnwys ymddygiad geiriol, di-eiriol neu gorfforol sy'n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, neu sarhaus
- Unrhyw fath o ymddygiad corfforol, bygythiol, ymosodol neu drais, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, daro, gwthio, poeri, taflu gwrthrychau neu wneud symudiadau corfforol bygythiol
- Sylwadau ansensitif, sarhaus, bras, gweiddi, defnyddio iaith fygythiol neu ddychrynllyd. Os nad ydych chi’n ystyried rhywbeth i fod yn sarhaus ni ddylech gymryd yn ganiataol y bydd eraill yn ei ystyried yn yr un modd
- Ymddygiad sy'n tarfu ar weithrediadau arferol CMC neu ddyletswyddau ein haelodau tîm. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gwrthod dilyn cyfarwyddiadau, achosi aflonyddwch mewn mannau cyhoeddus ac arddangos ymddygiadau aflonyddgar tra dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau anghyfreithlon
- Difrod (gan gynnwys fandaliaeth) i fannau, eiddo, dodrefn neu offer neu eiddo personol aelodau staff neu ymwelwyr eraill.
Os byddwch yn dyst i unrhyw un o'r uchod, dylech roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau i aelod o staff a fydd yn gallu cyfeirio hyn at reolwr.
Byddwn yn gofyn i chi gwblhau adroddiad o’r digwyddiad i ddogfennu'r ymddygiad a'r camau a gymerwyd. Gallwch wneud adroddiad yn bersonol, dros y ffôn, neu drwy e- bost.
Os ydym o’r farn bod unrhyw ymddygiad wedi peryglu ein hymrwymiad i amgylchedd diogel, croesawgar a pharchus i bawb, byddwn yn cymryd y camau canlynol:
1. Rhybudd:
Bydd rhybudd llafar neu ysgrifenedig yn cael ei roi i'r unigolyn sy'n ymddwyn mewn modd annerbyniol.
2. Gadael yr Adeilad neu Wrthod Mynediad:
Gellir gofyn i unigolion sy'n ymddwyn mewn modd annerbyniol adael yr adeilad ar unwaith neu wrthod mynediad iddynt heb rybudd; bydd hyn yn dibynnu ar natur yr ymddygiad digroeso.
Gellir cysylltu â diogelwch neu orfodi'r gyfraith i gynorthwyo yn y broses hon os oes angen.
3. Ymddygiad amhriodol ailadroddus:
Gall ymddygiad annerbyniol ailadroddus neu sylweddol arwain at waharddiad dros dro neu barhaol o'r adeilad.
Bydd unigolion sydd wedi'u gwahardd yn cael gwybod yn ysgrifenedig trwy'r cyswllt a enwir neu'r archebwr tocynnau.
4. Camau Cyfreithiol:
Gellir cymryd camau cyfreithiol mewn achosion sy'n ymwneud â bygythiadau, ymddygiad ymosodol corfforol, aflonyddu, neu ddifrod i eiddo. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â'r heddlu ac erlyn unigolion os yw'n briodol.