Beth mae bod yn wrth-hiliol, a bod yn gynghreiriad go iawn i bobl Dduon, Asiaidd ac amrywiol ethnig, yn ei olygu?
Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni wedi bod yn ei ystyried a’i drafod ar bob lefel ar draws y sefydliad.
Nid yw ein sefydliad ni, fel sawl un ym myd y celfyddydau, yn cynrychioli nac yn adlewyrchu Cymru gymaint ag yr hoffen ni. Rydyn ni’n gwneud pethau i newid hyn, ac i sicrhau bod ein diwylliant a’n hagweddau yn weithredol wrth-hiliol.
Rydyn ni am i Ganolfan Mileniwm Cymru fod yn gartref i bawb – gan groesawu a chynnwys pawb am bwy ydyn nhw fel unigolyn neu grŵp, waeth beth yw’r gwahaniaethau.
Rydyn ni’n ymdrechu i adrodd straeon ac hyrwyddo lleisiau amrywiol, ar ein llwyfannau ac ym mhob rhan o’n gwaith a’n diwylliant. Rydyn ni’n siarad am bwysigrwydd y celfyddydau bob dydd; ond mae’n rhaid i ni wneud mwy i annog mynediad i wahanol bobl o ystod o gefndiroedd allu ymuno â ni.
Yn ystod 2020, cyhoeddon ni ein Cynllun Gweithredu Amrywiaeth, sy’n amlinellu’r camau rydyn ni’n eu cymryd i wneud ein rhaglen, ein gweithle a’n hadeilad yn fwy cynhwysol a chynrychioliadol.
Rydyn ni’n addo y byddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd i ddatgymalu’r anghydraddoldeb strwythurol sydd wedi golygu nad ydyn ni bob amser wedi bod mor groesawgar a chynhwysol ag yr hoffen ni.
Mae hyfforddiant staff wedi bod yn rhan allweddol o’n cynllun gweithredu i helpu i adeiladu cynghreiriau, gan ein galluogi ni fel sefydliad i fod yn fwy hygyrch fel gweithle ac fel cartref i’r celfyddydau.
Mae ein sesiynau hyfforddi wedi bod yn hyrwyddo amrywiaeth ac addysgu ein staff (gan gynnwys uwch arweinwyr ac aelodau’r Bwrdd) am beth mae amrywiaeth a meddwl cynhwysol yn ei olygu i ni yn ein rhyngweithiadau dydd i ddydd gyda chydweithwyr, cwsmeriaid, ymwelwyr a rhanddeiliaid.
Drwy weithdai a sgyrsiau gyda’r Privilege Café a Folk Training, rydyn ni wedi trafod themâu fel braint, anghydraddoldeb strwythurol, a bod yn gynghreiriad. Mae ein hyfforddiant yn cynnwys gwrando ar brofiadau bywyd ein cydweithwyr.
All newid a thwf ddim digwydd heb y sgyrsiau go iawn yma a heb fod yn agored i farn wahanol. Mae’n rhaid i ni dderbyn yr her er mwyn cyflawni newid cadarnhaol i bawb.
Rydyn ni wedi dechrau ar ein taith, a byddwn ni’n parhau i yrru dealltwriaeth ynghylch pam fod angen i ni fod ag ymrwymiad clir i wireddu’r newid yma ar bob lefel wrth symud ymlaen. Nid yw’r daith yma’n dod i ben.
Rydyn ni'n cydnabod ac yn cefnogi’r Maniffesto 10 Cam dros Gymru Wrth-hiliol gan Gynghrair Hil Cymru.
Er mai canolbwyntio ar wrth-hiliaeth rydyn ni yma, rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd rhyngblethedd a’r rôl y mae rhywedd, rhywioldeb, dosbarth ac anabledd hefyd yn ei chwarae yn y profiad o anghydraddoldeb. Rydyn ni mewn sefyllfa freintiedig ac yn cydnabod ein rôl o ran defnyddio ein grym bob cam o’r ffordd.
Rydyn ni’n cydnabod mai megis dechrau mae’r gwaith yma, ac mae gennym ni lawer mwy i’w wneud. Byddwn ni’n parhau i ddefnyddio’r gofod yma i rannu diweddariadau am ein hymrwymiadau gwrth-hiliaeth.