Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

10 dantaith ar gyfer y gwanwyn

Dyma yw'r tymor llachar a hyfryd rydyn ni wedi'i disgwyl. O sioeau cerdd y West End i hwyl am ddim i'r teulu, dyma 10 uchafbwynt drwy'r Gwanwyn na ellir eu colli.

1. Crefftau am ddim i'r teulu

19 – 23 Ebrill, 11am – 3pm (11am – 2pm ar 23 Ebrill)

Ymunwch â ni dros wyliau'r Pasg yn y Glanfa er mwyn dylunio eich gwarchodwr gardd lliwgar eich hun i amddiffyn eich hoff leoliad. Byddwn ni'n eich helpu i ddechrau ar ddyluniad bwystfil eich hun: creu a modelu, torri a gludo neu roi pensil ar bapur.

Mae hi am ddim a does dim angen archebu lle, felly dewch lawr. Bydd ein hoff ddyluniad yn dod yn fyw fel ffiwr chwyddadwy dros yr haf, gan ddiolch i'r dylunwyr chwyddiannau mawr, Designs in Air.

2. DREAMGIRLS

19 – 30 Ebrill 2022

Gadewch i'ch enaid ganu gyda'r sioe gerdd Dreamgirls, yn syth o'r West End. Ymunwch â thair ffrind ar eu taith anturus drwy gyfoeth ac enwogrwydd y byd cerddoriaeth, a gwyliwch wrth i’w cyfeillgarwch gael ei drethu i’r eithaf.

3. THE_CRASH.TEST

13 – 14 Mai + 24 Mehefin 2022

Mae the_crash.test yn olwg dywyll, chwareus ar ein perthynas â thechnoleg, sy’n cynnwys pypedwaith cipio symudiad, tafluniad ar raddfa fawr, cyfansoddiad gwreiddiol a chast cynhwysol o berfformwyr ar y llwyfan a thrwy gyswllt fideo, i gynulleidfaoedd wyneb-yn-wyneb ac ar-lein. Mi fydd the_crash.test hefyd yn ran o Ŵyl Undod Hijinx, sy'n dychwelyd dros yr haf o 22 – 26 Mehefin.

4. GRANDMOTHER'S CLOSET (AND WHAT I FOUND THERE...)

20 – 23 Ebrill 2022

Yn edrych am antur gerddorol sy'n addo direidi a mashups, ffrogiau a divas, a digonedd o galon? Ymunwch â Luke wrth iddo faglu ar hyd ei daith hunan-ddarganfod cwiar drwy ysbryd glamoraidd ei famgu.

5. SIX

3 – 14 Mai 2022

Yn gosod y sass yn y Gwanwyn yw'r brenhinesau Tuduraidd wedi'u troi'n dywysogesau pop; chwe gwraig Harri VIII o’r diwedd yn gafael yn y meicroffon i adrodd eu hanesion, yn cydblethu pum cant blwyddyn o dor-calon mewn dathliad 80-munud o bŵer merched yr 21ain ganrif.

6. Oi Frog & Friends!

7 – 10 Mai 2022

Cewch ddisgwyl caneuon, pypedau, chwerthin a llwyth o odli yn yr addasiad llwyfan newydd llawn bwrlwm yma o lyfrau hynod boblogaidd Kes Gray a Jim Field, Oi Frog!, Oi Dog!, ac Oi Cat!

7. SCHOOL OF ROCK

16 – 21 Mai 2022

Paratowch am noson o roc gyda'r sioe gerdd pum seren hon. Paratowch i'ch calon dwymo ac am brofiad gwefreiddiol.

8. SINGIN' IN THE RAIN

23 – 28 Mai 2022

Gwnewch sblash y tymor hwn a phrofwch y clasur godidog hwn gyda choreograffi llawn egni a dyluniad setiau moethus (gan gynnwys dros 14,000 litr o ddŵr ar y llwyfan bob nos) yn cyfuno â swyn, rhamant a ffraethineb un o hoff ffilmiau’r byd.

9. WAITRESS

30 Mai – 4 Mehefin 2022

“Treat yourself to a slice of five-star musical pie” (The Times) gyda sioe sy’n cael ei ddisgrifio gan yr Express fel “joyously life-affirming celebration of love and friendship”.

10. THE PLAY THAT GOES WRONG

Bydd y comedi wirioneddol ddoniol yma yneich cadw’n chwerthin am hir! Mae’r Cornley Drama Society yn cynnal noson ‘Pwy yw’r Llofrydd?’ wedi’i osod yn y 1920au, ond fel mae’r teitl yn awgrymu, mae’r sioe yn mynd o chwith! 

Cofiwch - mae pob tocyn ac aelodaeth yn helpu ni i ddod â chyfleoedd dysgu sy'n newid bywydau pobl ifanc, o'n cyrsiau a gweithdai am ddim i'n gorsafoedd radio, cynyrchiadau a mwy dan arweiniad pobl ifanc.