Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

10 Ffaith Anhygoel am Ysbiwyr Benywaidd

Mae ein cyd-gynhyrchiad diweddaraf, The Beauty Parade, yn archwilio gweithrediad unigryw o’r Ail Ryfel Byd, lle’r oedd menywod cyffredin yn cael eu tynnu o’u bywydau dinod a’u parasiwtio y tu ôl i linellau’r gelyn.

Ym 1940, ffurfiodd y Llywodraeth Brydeinig Swyddog Gweithredol Gweithrediadau Arbennig (SOE). Ei rôl? Ysbïwriaeth mewn tiriogaethau goresgynedig, ac am y tro cyntaf, roedd menywod yn cael gwasanaethu.

Ymgymerodd y menywod yr un hyfforddiant â’r dynion. Ar ôl proses dewis yn seiliedig ar gymeriad, ymgymerodd y recriwtiaid mewn rhaglenni hyfforddiant llym - gan gynnwys hyfforddiant corfforol, sut i fod yn llofruddion tawel, defnyddio arfau, dymchwel, darllen mapiau, gwaith cwmpawd, crefft maes, Côd Morse syml a thactegau ymosodiad.

Daeth y menywod dewr hyn o bob math o gefndiroedd - o’r dosbarthiadau gweithiol i’r aristocratiaid, ond roedd gan bob un ohonynt un peth yn gyffredin - roeddent yn gallu siarad Ffrangeg.

Mae The Beauty Parade a ysgrifenwyd a chyd-gynhyrchwyd gan Kaite O'Reilly yn adrodd y stori ryfeddol hon, o bersbectif tair menyw hollol wahanol.

Rydym wedi ymchwilioi’r hanes cudd yma a chyflwynwn i chi’r ffeithiau difyr hyn:

  1. Ymunodd llawer o fenywod â’r Rhydd-ddeiliaid Cymorth Cyntaf (FANY) i guddio eu bywydau dwbl fel ysbiwyr.

  2. Y menywod ag ymunodd â’r SOE oedd yr unig ferched oedd â’r hawl i gael rôl gornest yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

  3. Disgwyliad oes gweithredwr SOE yn Ffrainc ar gyfartaledd oedd chwe wythnos yn unig.

  4. Roedd pob un gweithredwr wedi’i hyfforddi mewn difrodi, drylliau, ffrwydron, cyfathrebiadau, gornestau diarfog, cynllunio gollwng cyflenwadau, osgoi cael eu dal a gwrthsefyll holiadau.

  5. Cariodd bob ysbïwr dabledi hunanladdiad ac roeddent yn ymwybodol nad oeddent yn debygol o weld eu teuluoedd a'u ffrindiau byth eto.

  6. Yn anaml y bu ysbiwyr a gafodd eu dal yn goroesi. Cafodd y mwyafrif eu carcharu, eu cwestiynu, a’u harteithio neu eu saethu.

  7. Llwyddodd Nancy Wakes, neu ‘The White Mouse’ fel roedd y Gestabo yn ei galw, i osgoi cael ei dal sawl gwaith ac fe oroesodd hi’r rhyfel. Achubodd fywydau cannoedd o awyrenwyr, trwy fynd â nhw o Sbaen i Ffrainc.

  8. Roedd y menywod yn ysbiwyr arbennig gan nad oeddent yn cael eu gweld fel bygythiad a gallent grwydro’n hawdd yn ystod y dydd gan eu bod nhw’n cymysgu’n well ymhlith trigolion cyffredin.

  9. Cafodd offer arbennig ei greu ar gyfer ysbiwyr gan gynnwys, gynnau cudd, siwtcesys trosglwyddydd radio, llygod mawr ffrwydrol a beiciau modur plygu.

  10. Bu Violette Szabo unwaith yn ymladd yn erbyn milwyr Almaeneg mewn brwydr gynnau, a wnaeth alluogi i arweinydd lleol y gwrthwynebiad ddianc. Cafodd ei dal a’i dienyddio mewn gwersyll crynhoi ym 1945.

Darganfyddwch fwy yn The Beauty Parade 5 - 14 Mawrth 2020.

Mae’r sioe yn hygyrch ar gyfer cynulleidfaoedd B/byddar, gydag iaith weledol ac is-deitlau trwy gydol y perfformiad.