Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

10 ffaith ddifyr gan Mistar Urdd

Rydym ni wedi chwilota drwy'r archif, i greu rhestr o ddeg ffaith ddifyr am Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. 

Faint o'r rhain oeddech chi'n gwybod?

  1. Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gyntaf ym Mhafiliwn Corwen ym 1929.
  2. Heddiw, mae’r ŵyl yn un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop ar gyfer pobl ifanc, ac fe fydd oddeutu 15,000 o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan yng ngwyl eleni.
  3. Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd wedi teithio o Fôn i Fynwy ac o Gaernarfon i Gaerdydd a nifer helaeth o lefydd eraill. Mi fydd cyfanswm o 84 Eisteddfod wedi’u cynnal erbyn eleni.
  4. Yn flynyddol, mae disgwyl i’r ŵyl atynnu 90,000 o ymwelwyr i’r Maes.
  5. Mae union 10 mlynedd ers i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ymweld â Chaerdydd a’r Fro ddiwethaf.
  6. Mistar Urdd yw masgot yr Urdd. Ganwyd y cymeriad hoffus yma ym 1976, ac mae’n boblogaidd gyda phlant ar hyd a lled y wlad. Cadwch lygad barcud amdano yn y Bae yn ystod yr ŵyl.
  7. I ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod i Gaerdydd a’r Fro, trefnwyd fod Mei Gwynedd yn recordio fersiwn newydd o’r gân eiconig ‘Hei Mistar Urdd’ gydag 20 o ysgolion yr ardal. Mi fydd ar gael i’w lawrlwytho ar ddydd Gwener 10 Mai. Gwrandewch i’r gân newydd yma!
  8. Ymysg yr enwogion sydd wedi cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod y mae'r gantores Casi Wyn, yr actor Matthew Rhys, y canwr opera byd-enwog Bryn Terfel, yr actores Caryl Parry Jones ac Amber Davies – un o enillwyr rhaglen Love Island.
  9. Mae’r Urdd yn gwmni preswyl yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac mae eu gwersyll yn croesawu 22,000 o blant bob blwyddyn
  10. Mae gan yr Urdd 55,000 o aelodau.