Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

10 o’r perfformiadau chwilfrydig gorau

Paratowch am...sioeau i’ch swyno’n llwyr, ymrysonfeydd stand-yp a slam, theatr ymdrochol, cabaret, comedi,  cathlau telynegol a rhagor byth. Mae Perfformiadau i’r Chwilfrydig yn ôl, ac y tro hwn, mae’n bersonol...

Ffresh Burlesque

15 Mawrth 2019

Mae FooFooLaBelle a Chlwb Cabaret Caerdydd yn eu holau, gyda drama odidog gan Markee de Saw, sioe matryd chwilboeth gan Brandy Montmarte a chanu grymus gan y ffrwydrad o swyn... Miss Cherry Bomb.

Séayoncé

13 Ebrill 2019

Seans dragtastig yw Séayoncé ar gyfer eneidiau unig sydd angen peth comedi a chabaret yn eu bywydau. Bydd yr ymgomiwr ysbrydion o fri hon yn gymaint o hwyl, fyddech chi ddim am ei cholli am unrhyw beth. Mae’n bryd ichi agor eich trydydd llygad... a’ch coesau.

Mary Bijou: Fakes it

23 Mawrth2019

Styntiau trawiadol a thriciau syrcas syfrdanol. Ymbaratowch am y sioe styntiau mwyaf y byddwch chi byth yn ei gweld yn ein bar cabaret. Gyda chabaret mor dda, byddwch yn amau eich bod yn cael eich twyllo...

Rhagflas o Ŵyl Gomedi Machynlleth

5 Ebrill 2019

Chwistrellwch beth chwerthin i’w bywydau gyda’n Rhagflas o Ŵyl Gomedi Machynlleth. Cyn degfed Ŵyl Gomedi Machynlleth, ymunwch â ni er mwyn gweld detholiad o’r doniau doniol a fydd yn ymddangos yn yr ŵyl.

Paulus: Beta

6 Ebrill 2019

Sioe gerdd undyn llawn disgleirdeb byd y sioeau, diod feddwol, a legins. Dyma sioe gyntaf persona drag amgen, hylifol ei rywedd Paulus: Beta. Bydd hi'n eich syfrdanu â’r sioe hollol unigryw hon.

MERCHED CAERDYDD / NOS SADWRN O HYD 

10 – 13 Ebrill 2019

Dwy ddrama gyfoes a dau lais croyw: Merched Caerdydd a Nos Sadwrn o Hyd. Dyma gynhyrchiad Cymraeg yn Stiwdio Weston sy’n berffaith ar gyfer siaradwyr rhugl a dysgwyr fel ei gilydd, diolch i ap Sibrwd, a fydd y cynnig mynediad i’r di-Gymraeg am ddim ar y noson.

Bump and Bully

18 Ebrill 2019

Dwy ddrama newydd gan Unsolicited Theatre sydd wedi eu cynllunio i gyfeirio eich meddyliau tuag at y profiad o fod yn rhiant, teulu, gwleidyddiaeth, bwlio, ac anabledd mewn ffyrdd annisgwyl. Mwynhewch brynhawn o straeon cyfoes gyda chapsiynau llawn ar gyfer aelodau B/byddar a thrwm eu clyw y gynulleidfa.

Donna Marie: #MYGAGALIFE

20 Ebrill 2019

O Grangetown i fod yn feirniad teledu amlwg a bod y deyrnged orau i Lady Gaga yn y byd. Ewch chi’n wirion drosti wrth iddi berfformio clasuron o ganeuon, rhannu straeon ysbrydoledig am ei bywyd a’i gyrfa a rhoi miliwn o resymau ichi ddawnsio.

The Nature of Why

9 – 11 Mai 2019

Peidiwch â cholli’r cyfuniad o hwn o ddawns a cherddoriaeth fyw wedi ei berfformio gan Baragerddorfa Prydain, gyda sgôr byw sinematig gan Wil Gregory, aelod o’r band Goldfrapp. Gyda’r gynulleidfa a’r perfformwyr ar y llwyfan gyda’u gilydd, dyma brofiad theatr personol ac agos-atoch heb ei ail.

Hollie McNish: 2019 Tour

15 Mai 2019

Mae Hollie McNish yn dychwelyd i berfformio barddoniaeth o’i chyfrol ddiweddaraf. Gyda thros ddeng mil o wyliadau ar YouTube a llu o ffans enwog sy’n cynnwys Emma Watson, Pink, a Tim Minchin, rhowch y dyddiad hwn yn eich dyddlyfr.

Am godi archwaeth? Bwriwch olwg ar ein tudalen Perfformiadau i’r Chwilfrydig am ragor o sioeau’r tymor.