Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

10 sioe orau i'w gweld yn 2022

Dechreuwch eich 2022 mewn steil gan roi anrheg i'ch hun, eich ffrindiau neu deulu gyda thocynnau i un o'r sioeau anhygoel hyn. Dyma ddeg sioe i'ch diddanu hyd at yr haf.

1. MATTHEW BOURNE'S NUTCRACKER!

22 – 26 Mawrth 2022

Gyda ffraethineb a ffantasi hudolus nodedig Matthew Bourne, mae Nutcracker! yn dilyn taith chwerwfelys Clara o Noswyl Nadolig dywyll yng nghartref plant amddifad Dr. Dross, trwy fyd gaeafol sglefrio iâ disglair i deyrnas losin Sweetieland. Dyma gynhyrchiad wedi’i ysbrydoli gan sioeau cerdd ysblennydd Hollywood y 1930au.

2. Jenůfa

5, 12 + 18 Mawrth 2022

Mae Jenůfa wedi swyno cynulleidfaoedd am ganrif gyfan gyda'r stori dorcalonnus hon am obaith, cariad ac anobaith. Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, sy'n arwain cynhyrchiad llwyddiannus Katie Mitchell, a ddisgrifiwyd fel 'y mwyaf pwerus eto' pan aeth y cynhyrchiad ar daith ddiwethaf.

3. ANTHEM

30 Mawrth – 10 Ebrill 2022

Ymunwch â ni’n fyw yn y stiwdio ar gyfer rownd derfynol Anthem, cystadleuaeth ganu deledu fwya'r genedl. Bydd peiriannau gwynt. Bydd newidiadau cywair. Bydd dadlau di-ri ar Twitter. Dyma gomedi gerddorol Gymraeg newydd gan Llinos Mai a fydd yn codi gwên ymhell ar ôl canu’r nodyn olaf.

4. DREAMGIRLS

19 – 30 Ebrill 2022

Dewch i ’nabod The Dreams – Effie, Lorrell a Deena – tair cantores ifanc, dalentog yn y 1960au cythryblus ar drobwynt pwysig yn hanes cerddoriaeth Americanaidd. Ymunwch â’r ffrindiau ar eu taith anturus drwy gyfoeth ac enwogrwydd y byd cerddoriaeth, a gwyliwch wrth i’w cyfeillgarwch gael ei drethu i’r eithaf.

5. Grandmother's Closet (and What I Found There...)

20 – 23 Ebrill 2022

Ar ei gamau petrus cyntaf ar hyd yr yellow brick road mae Luke yn herio Broadway, profi ei ddigwyddiad balchder gyntaf a darganfod ei liw lipstic berffaith – gyda cherddoriaeth ei holl divas pop yn gefndir. Dyma antur gerddorol fywgraffiadol sy'n addo direidi a mashups, ffrogiau a divas, a digonedd o galon.

6. SIX

3 – 14 Mai 2022

O freninesau Tuduraidd i dywysogesau pop, mae chwe gwraig Harri VIII o’r diwedd yn gafael yn y meicroffon. Dyma nhw’n adrodd eu hanesion, yn cydblethu pum cant blwyddyn o dor-calon mewn dathliad 80-munud o bŵer merched yr 21ain ganrif. Efallai bod gan y breninesau llewys gwyrdd, ond mae eu lipstig yn goch gwrthryfelgar. Mae’n hen bryd iddyn nhw adrodd eu stori.

7. SCHOOL OF ROCK

16 – 21 Mai 2022

Paratowch am noson o roc, Gaerdydd, achos mae sioe gerdd hynod boblogaidd Andrew Lloyd Webber o’r West End a Broadway, School of Rock, ar ei ffordd i Ganolfan Mileniwm Cymru.

8. Singin' In The Rain

23 – 28 Mai 2022

Ewch ar daith yn ôl i hudoliaeth Hollywood yn ystod y 40au gwyllt. Mae gan y seren ffilmiau mud Don Lockwood y cyfan, cyfres o ffilmiau poblogaidd a rhamant gydag actores fwyaf golygus y dref. Mae Sam Lips, Charlotte Gooch, a Jenny Gayner ynghyd â Kevin Clifton o Strictly fel ‘Cosmo Brown’ yn serennu yng nghynhyrchiad poblogaidd.

9. Waitress

30 Mai – 4 Mehefin 2022

Dewch i gwrdd â Jenna, gweinyddes a phobydd peis sy’n breuddwydio am damaid o hapusrwydd. Pan mae doctor golygus yn symud i’w thref, mae bywyd yn cymhlethu. Archebwch nawr er mwyn sicrhau eich tocynnau ar gyfer sioe sy’n cael ei ddisgrifio gan yr Express fel “joyously life-affirming celebration of love and friendship”.

10. THE LION KING

7 Gorffennaf – 27 Awst 2022

Mae’r addasiad yma o ffilm glasurol Disney yn wledd weledol sy’n ffrwydrad o liw, effeithiau arbennig a cherddoriaeth hudolus. Wrth galon y sioe mae stori bwerus a dirdynnol Simba - a’i daith epig ac anturus o genau bychan i Frenin y Llewod.

Cofiwch - mae pob tocyn ac aelodaeth yn helpu ni i ddod â chyfleoedd dysgu sy'n newid bywydau pobl ifanc, o'n cyrsiau a gweithdai am ddim i'n gorsafoedd radio, cynyrchiadau a mwy dan arweiniad pobl ifanc.

Helpwch ni gadw’r fflam greadigol ynghyn

Cefnogwch ni heddiw