Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

12 sioe wefreiddiol ar gyfer 2020

Mae'n anodd credu bod yr holl sioeau yma'n dod i'r Ganolfan o fewn yr un flwyddyn, ac mae rhagor i ddod. Dyma 12 sioe wefreiddiol sydd ar y gorwel. Mae 2020 yn argoeli i fod yn flwyddyn ragorol. Mynnwch docynnau.

1. The King and I

8 - 18 Ionawr 2020

Golygfa o King and I, yn cynnwys dyn mewn gwisg dwyreinol a menyw yn eistedd ar y llawr yn gwisgo ffrog, ger cerflun mawr.

Dechreuwch y flwyddyn gyda chynhyrchiad arobryn Lincoln Center Theater o gynhyrchiad Rodgers and Hammerstein, The King And I, yn syth o dymor hynod boblogaidd yn The London Palladium.

2. The Beauty Parade

5 - 14 Mawrth 2020

Tair menyw yn gwisgo dillad o gyfnod yr Ail Ryfel Byd, gyda chefndir glas.

Yr Ail Ryfel Byd yw'r cyfnod, ac mae tair menyw gyffredin yn cael eu tynnu o'u bywydau dinod a'u parasiwtio y tu ôl i linellau'r gelyn, i fod yn ddifrodwyr a llofruddion tawel.

Dyma gydweithrediad unigryw rhwng Kaite O'Reilly ac artistiaid Byddar a rhai sy'n clywed. Mae'n cyfuno cerddoriaeth fyw, caneuon atgofus ac iaith weledol i adrodd stori gwbl unigryw.

3. Cabaret

24 - 28 Mawrth 2020

Y flwyddyn yw 1931, mae Berlin yn hafan o ddirywiad nefolaidd ac mae'r enwog Sally Bowles ar fin camu ar lwyfan clwb drwgenwog y Kit Kat Klub.

Wedi'i gyfarwyddo gan Rufus Norris ac yn dilyn dau rediad poblogaidd yn y West End, mae Cabaret a enillodd dwy wobr Tony yn cynnwys coreograffi gwefreiddiol, gwisgoedd syfrdanol a digonedd o ganeuon eiconig.

Menyw yn gwisgo ffrog werdd, yn dansio'n droednoeth, ac yn cydio mewn pâr o esgidiau coch

Daw addasiad buddugoliaethus Matthew Bourne o'r ffilm chwedlonol yn ôl i'r Ganolfan ar ôl ennill dwy wobr Olivier a gwefreiddio cynulleidfaoedd a beirniaid ar draws y DU ac UDA.

Wedi'i gosod i gerddoriaeth hynod ramantus Oes Aur Hollywood, dyma chwedl am obsesiwn, meddiant a breuddwyd  un ferch i fod yn ddawnswraig orau'r byd.

5. Million Dollar Quartet

21 - 25 Ebrill 2020

Cymysgedd o wynebau tebyg i eiconau roc a rôl, yn cynnwys Elvis, Johnny Cash a Jerry Lee Lewis

Yn dilyn ei llwyddiant yn y West End, Las Vegas, Broadway ac o gwmpas y DU, daw Million Dollar Quartet i Gaerdydd.

Ysbrydolwyd y sioe hynod boblogaidd yma gan y sesiwn recordio enwog a ddaeth â'r eiconau roc a rôl Elvis Presley, Johnny Cash, Jerry Lee Lewis a Carl Perkins at ei gilydd am y tro cyntaf a'r unig dro.

Dewch i fwynhau stori wir y noson fythgofiadwy honno a greodd hanes ym myd roc a rôl.

6. A Monster Calls

28 Ebrill - 2 Mai 2020

Bachgen ifanc yn gwisgo pyjamas, yn eistedd ar gloc enfawr, yn edrych i fyny

Yn seiliedig ar lyfr adnabyddus Patrick Ness, mae cynhyrchiad Sally Cookson A Monster Calls yn cynnig mewnwelediad syfrdanol i gariad, bywyd ac iachâd.

Mae Conor sy'n 13 mlwydd oed, a'i fam wedi ymdopi'n iawn ers i'w dad symud i ffwrdd. Ond nawr mae ei fam yn dost a dyw hi ddim yn gwella. Un noson mae Conor yn cael ei ddihuno gan rywbeth wrth ei ffenest. Mae bwystfil wedi dod am dro i adrodd chwedlau...

7. Once the musical

11 - 16 Mai 2020

Mae dyn yn chwarae gitâr yn y stryd ac yn siarad â menyw ifanc

Mae Once yn adrodd stori dau enaid coll - bysgiwr o Ddulyn a cherddor Tsiecaidd sy'n dod o hyd i'w gilydd yn annisgwyl ac yn syrthio mewn cariad.

Enillydd Gwobr Academi am y Gân Wreiddiol Orau, a gwobr Grammy ar gyfer y Cyflawniad Cerddorol Gorau, mae'r sioe gerdd arbennig yma'n adrodd stori hudolus a thwymgalon am obeithio a breuddwydion.

Dyn ifanc gyda gwallt cwta wedi'i liwio'n olau, yn gwisgo colur, yn gwisgo gwisg ysgol ac yn gwenu

Mae'r sioe gerdd hynod boblogaidd o'r West End yn dod i Gaerdydd, ac yn serennu Layton Williams fel Jamie New a Shane Richie o Eastenders fel Hugo/ Loco Chanelle. Doniol a thwymgalon, dyma sioe gerdd fendigedig ar gyfer y teulu cyfan.

9. The Lion King

9 Gorffennaf - 29 Awst 2020

Golygfa o The Lion King, gyda cefndir oren, gafrewigod yn neidio a phennaeth Affricanaidd efo gwaywffon yn canu

Wedi'i osod yn y Serengeti Plains mawreddog i rythmau Affrica, mae The Lion King yn ffenomen fyd-enwog. Mae 100 miliwn o bobl wedi gweld y sioe anhygoel yma, ac mae'n parhau i werthu allan yn ei 20fed flwyddyn.

Mae sioe glasurol Disney yn wledd weledol sy'n ffrwydrad o liw, effeithiau arbennig a cherddoriaeth hudolus.

10. The Book of Mormon

3 - 28 Tachwedd 2020

Llun du a gwyn o ddyn yn gwenu ac yn neidio i fyny i'r awyr, gyda beibl tra'n cydio mewn beibl

Dyma sioe gerdd gomedi ffraeth ac anhygoel gan grewyr South Park, Trey Parker a Matt Stone, a Bobby Lopez - cyd-awdur Avenue Q a Frozen.

Dilynwn anffawd pâr o genhadwyr sydd wedi'u danfon ar genhadaeth i le sydd mor bell o Salt Lake City ag sy'n bosib. Enillydd naw Gwobr Tony, mae The Book of Mormon yn ffenomen fyd-eang.

Wyneb teigr lliwgar, gyda chefndir gaeafol a choedwig

Camwch i mewn i’r cwpwrdd i deyrnas hudolus Narnia am antur gyfriniol mewn byd pell i ffwrdd dros y Nadolig.

Ymunwch â Lucy, Edmund, Susan a Peter wrth iddynt chwifio hwyl fawr i Brydain yng nghyfnod rhyfel a dweud helo wrth y Ffawn sy’n siarad, Llew bythgofiadwy a’r Wrach Wen oeraidd, fwyaf creulon.

12. The Phantom of the Opera

9 Rhagfyr 2020 - 16 Ionawr 2021

Mae dyn sydd wedi gwiso fel y Phantom yn llywio cwch, mae menyw yn eistedd yn y cwch ac mae mae'r awyrgylch yn niwlioge with lights and candles either

Mae'r cynhyrchiad gwreiddiol anhygoel o The Phantom of the Opera gan Andrew Lloyd Webber yn mynd ar daith o amgylch y DU ac Iwerddon.

Wedi'i gynhyrchu gan Cameron Mackintosh a The Really Useful Group Ltd, mae'r sgôr rhamantus, swynol ac esgynnol yn cynnwys Music of the Night, All I Ask of You, Masquerade a'r gân deitl eiconig. Peidiwch â cholli un o'r cynyrchiadau mwyaf prydferth, syfrdanol a fu erioed.

Gweler ein rhaglen llawn ar gyfer 2020 fan hyn, a dechreuwch archebu

<img src="3223" alt="undefined" title="undefined" />