Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

5 Gweithgaredd Gwych i'r Teulu dros y Pasg

Ydych chi'n chwilio am weithgareddau i gadw'r plant yn hapus ac yn llon dros y Pasg? Dyma bum syniad gwych i ddiddanu'r teulu cyfan: o helfeydd wyau Pasg dan do i deithiau rhithwir a llawer mwy...

1. Mwynhewch Noson yn y Theatr

Dewch â hudoliaeth sioe fyw i'ch lolfa: yn ogystal â lanlwythiadau wythnosol Andrew Lloyd Webber o'i sioeau cerdd enwog, gallwch chi a'r teulu hefyd fwynhau sioe gerdd newydd The Wind In The Willows am ffi bychan.

Neu, beth am ffoi i fyd tywyth teg, gyda stori I Wish I Was A Mountain – cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Iolo, sydd bellach ar gael i'w wylio am ddim.

A Monster Calls ar BBCiPlayer

Yn anffodus bu raid i ni ganslo perfformiadau sioe A Monster Calls ond, mae'r ffilm ar gael drwy BBC iPlayer am weddill y mis.

2. Dewch â Byd Natur i'ch lolfa

Dyw aros gartref ddim yn golygu bod rhaid i chi golli allan ar wyn bach y gwanwyn. Mae 'Barn Cam' byw Folly Farm yn gadael i chi weld beth mae defaid, geirf ac asynnod yn ei wneud o ddydd i ddydd.

Oen bach

A beth am wylio'r pengwiniaid, jiráffs a'r llewod? Neu gallwch fentro hyd yn oed ym mhellach, gyda gwe-gamera Sŵ Caeredin. Cadwch lygad allan am y pandas a'r teigrod.

3. Tamaid o Wyddoniaeth

Gadewch i Techniquest, ein cymydog ym Mae Caerdydd ddiddanu'r gwyddonwyr yn eich tŷ chi gyda'i fideos gwyddoniaeth dyddiol.

Gyda thiwtorialau dyddiol yn cynnwys sut i greu lamp lafa a phartïon te hylif nitrogen... cofiwch fod rhai arbrofion yn well nag eraill ar gyfer y cartref!

Esgyrn dinosor mewn amgueddfa

Neu, os oes well gan eich gwyddonwyr ifanc chi ddinosoriaid, beth am fynd â nhw ar daith rithwir o'r Natural History Museum? Gallwch grwydro'r amgueddfa ac archwilio'i chasgliadau byd-enwog am ddim.

4. Ymarfer Corff

Ymunwch yng ngweithdai dawns ar gyfer y teulu gyda Sadler’s Wells, sy'n berffaith ar gyfer plant 2 – 6 oed, neu beth am ddianc i fyd y syrcas gyda dosbarthiadau rhithwir i oedolion a phlant gyda chwmni No Fit State o Gaerdydd.

Dysgwch sut i jyglo, sefyll ar eich dwylo, cryfhau, a llawer mwy; mae amserlen y dosbarth yn cael ei ddiweddaru bob wythnos, felly mae digon o amrywiaeth.

Bydd cwmni New Adventures Matthew Bourne hefyd yn lansio rhaglen o fideos dros y Pasg - fideos ar gyfer y teulu cyfan, gyda symudiadau dawns gallwch chi ddysgu gartref.

5. Crefftau 

Mae gennym ni her ar eich cyfer chi. Hoffem i chi ddylunio wy Pasg gan ddefnyddio siâp ein hadeilad eiconig.

Byddwch ddychmygus... dyma weithgaredd ar gyfer y plantos a'r oedolion! Dewiswch unrhyw thema.

Tynnwch lun o'ch campwaith, ac os fedrwch chi, rhannwch ar Twitter a thagiwch ni –  @yGanolfan fel y gallwn ni weld eich gwaith. Byddwn yn dangos y rhai gorau fan hyn.

Wyau Pasg yn cael eu paentio

Mae Disney Theatrical Productions yn cynnig gweithgareddau creadigol i'w lawrlwytho am ddim, i rieni ac addysgwyr, o The Lion King, Mary Poppins, Frozen ac Aladdin.

Wedi'u dylunio ar gyfer disgyblion ysgol gynradd ac uwchradd i'w mwynhau gartref, mae'r adnoddau creadigol yma'n cynnwys sesiynau am greu gwisgoedd, dylunio set, ysgrifennu creadigol, fideos o gefn llwyfan a podlediadau am yrfaoedd.

Rhywbeth arbennig i ffans y cerddor Cymreig, Gruff Rhys a'i albwm Candylion gyda gwaith celf eiconig gan Pete Fowler...  Lawrlwythwch model o Candylion i liwio gyda'r plant (neu ar ben eich hunan) a rhannwch gyda Gruff ar Twitter.

Yn olaf, beth am greu helfa Wyau Pasg traddodiadol ar gyfer y plant? Am ysbrydoliaeth, ewch i  BBC Good Food i gael cyfarwyddiadau ar gyfer helfa dan do, sy'n addas ar gyfer tai o bob maint.

Pasg Hapus