Wedi'r Eisteddfod

Yng nghyfarfodydd y bwrdd rydym yn trafod yn aml sut y gall CMC ddod yn aelwyd i’r genedl ac ysbrydoli Cymru a chreu argraff ar y Byd. Dangosodd yr wythnos dwethaf sut y gellid cyflawni hyn.

Rhoddodd y DG, y Weston, y dderbynfa a’r cyntedd, y pant mawr y tu allan, yr adeiladau cyfagos a’r Bae ei hun lwyfan perffaith i’r egni creadigol sydd gyda ni yng Nghymru gyrraedd miloedd o ymwelwyr a chyfranogwyr.

Roedd y rhaglen artistic yn gyfoethog o ran ei hystod a’i safon, a gallwn i gyd deimlo’n falch dros ben. Ar lefel lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, roedd yr wythnos yn gyfle i ddathlu sut y gall y celfyddydau ddod â phobl at ei gilydd.

Clywsom a gwelsom dalent creadigol o Dreletert i Dregarth, o Faenclochog i Faentwrog, o Bontypridd i Bwllheli – mewn gair, o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Dysgwyd am Wyddoniaeth, Y Gyfraith a Hanes; trafodwyd Gwleidyddiaeth a Llenyddiaeth; clywyd lleisiau’r gymuned LHDT yng Nghymru; dathlwyd gwaith creadigol ffoaduriaid yng Nghymru; cafwyd blas arbennig ar Garnifal y Môr a phob math o gerddoriaeth, o Ganu Gwerin i Reggae, o Gerdd Dant i Gantata, a phlethwyd Roc a Baroc wrth i Händel gwrdd â Jarman mewn trefniannau newydd a lenwodd y DG.

Cawsom ein hudo gan ddawn cymaint - o’r cystadleuwyr lleiaf dan 12 i’r rhyfeddol Bryn Terfel. Anrhydeddwyd beirdd a llenorion, artistiaid y celfyddydau gweledol, cyfansoddwyr, gwirfoddolwyr a menywod a dynion o fyd y campau… a chafwyd pleser arbennig yng nghwmni Geraint Thomas, yn fôr o ddreigiau coch a chrysau melyn.

Gwelwyd theatr i ysgogi’r meddwl a dawnsiwyd hyd yr oriau mân wrth fwynhau Sîn Roc Gymreig sydd fel petai’n tyfu a thyfu a thyfu.

Hyn oll dan lywyddiaeth anrhydeddus Huw Stephens, Radio 1, cadeiryddiaeth Ashok Ahir … a gwên danbaid haul Awst.

Mererid Hopwood