Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

MAE BYWYD YN DDRAG

Felly.... Mae’r blog yma’n barod yn teimlo bach yn gamarweiniol. 

Er bod y blog yma’n cael ei sgwennu gan y tad cynhwysol, asthmatig, dwyieithog, hoyw mewn ffrog, Connie Orff, mae hefyd yn cael ei sgwennu gan ei bersonoliaeth arall, yr un sydd ychydig yn fwy tebyg i Clark Kent, Alun Saunders (ond heb y specs).

Wrth i mi ddatblygu a sgwennu fy nrama ddiweddaraf, Tuck – sydd ynglŷn â pherfformwyr Drag – penderfynais y dylwn i  gael syniad gwell o’r hyn mae’n golygu i fod yn berfformiwr Drag.

Mae'r trawnsewidiad yn dechrau

Dysgu'r Grefft Drag

Sylwais ar gwrs Drag yn Llundain wedi’i hysbysebu ar Facebook ac ar ôl ychydig o ymchwilio, fe gofrestrais ar y cwrs ym mis Medi 2017.

Yn hytrach na’n dysgu ni sut i wneud colur neu’n cynghori ni ar y lle gorau i brynu teits yn ystod y cwrs deg wythnos, caniataodd Michael Twaits -  mentor, arweinydd ac athro'r cwrs The Art of Drag -   i ni gyd (12 ohonom i gyd yn rhywiau gwahanol) ddarganfod ein cymeriad Drag unigryw a dewis ein ffurf o berfformio ar gyfer y sioe derfynol – anterth ein hastudiaethau – yn y Royal Vauxhall Tavern.

Roedd graddedigion Drag Hydref ‘17 yn gymysgedd amrywiol a hyfryd, gyda Brenhinoedd, Mings (wir yr!) a Breninesau Drag o bob math ac oedran.  

Roedden i'n gwybod fy mod i eisiau i fy mhersona Drag fod yn frenhines gomedi, draddodiadol mewn rhai ffyrdd, gyda synnwyr cryf a chredadwy o’i Chymreictod.

Fe weithiais ar fy neunydd gan ail sgwennu wrth fynd yn fy mlaen, gyda phobl yn gofyn i  mi drwy’r amser beth fyddai fy enw, ond doedd neb yn gofyn i mi sut bydden i’n edrych.

Fe wawriodd, wrth gwrs, y byddai’n rhaid i mi weithio ar yr elfen esthetig cyn bo hir...

Wrth y Cownter Colur

Rhwyd gwallt ar fy mhen, barod i ymgoluro

Dwi’n dychmygu bod llawer o ferched yn arbrofi â cholur yn eu harddegau.  

"Perfformiais fel dâm unwaith, mewn sioe addysgol iechyd bwyd ar gefn trýc"

Alun Saunders

Heddiw, mae’n amlwg bod Drag wedi cael argraff liwgar ac anhygoel ar steil colur nifer o fenywod.

Ond fe dyfais lan fel bachgen, felly mi wnes i erioed ddysgu. Dwi wedi perfformio fel dâm unwaith
 o’r blaen (nid panto oedd, ond sioe addysgol iechyd bwyd ar gefn trýc... ‘na ti ‘showbiz’).

Felly, roedd fy sgiliau coluro yn brin. Ond daw cam pwysig cyn i chi ddechrau rhoi’r colur ar eich wyneb. Hynny yw....

Beth ar Wyneb Daear ydw i'n Prynu?

Wrth i mi sefyll mewn siop fferyllfa a phethau ymolchi ar Stryd y Frehines yng Nghaerdydd, dwi’n dechrau crwydro o un pen i'r llall gan bori drwy’r cownteri a’r silffoedd, yn edrych ar frandiau a
chynnyrch.

Doedd gen i ddim syniad beth byddai angen arna’ i er mwyn edrych fel Brenhines Drag anhygoel, lliwgar, a hardd a fe sylwais ar rywbeth arall hefyd: roedden i'n teimlo allan o le yno – a ddylen i fod yna?

Fe welais rhywun roeddwn i'n ei ‘nabod –  aelod o sîn Drag Caerdydd a meddyliais i fy hun 
‘Dyma ni, yr union beth sydd angen arna’ i!’

Yn anffodus, ar ôl mynd lan ato a gofyn am gyngor ynglŷn â beth ddylwn i brynu a lle i gychwyn, roedd ei ymateb yn siomedig “Pam wyt ti’n gofyn i fi?”

Roeddwn i wedi siomi nad oedd wedi cynnig unrhyw gyngor, yn enwedig fel rhywun oedd wedi bod yn gwneud ers blynyddoedd. Ond fe symudais ymlaen. 

Edrych yn Gas

Mae'r trawnsnewidiad wedi gorffen, daw Alun yn Connie Orff

Hoffwn wneud un peth yn glir, wnaeth dim un merch edrych yn gas arna’ i; does neb wedi fy ngwthio allan o’r ffordd na gofyn i mi adael yr adran golur.

"Ydw, rydw i'n berfformiwr Drag a dwi’n chwilio am gynnyrch cynaliadwy bydd yn para oes, plîs.."

Alun Saunders

Efallai oherwydd fy mod i wedi creu’r syniad o’r ffiniau yma yn fy mhen, roedd yn ddiethr i mi. Gwirion ynte?

Ar ben hyn oll, ers i mi ennill yr hyder i fanteisio ar gynigion caredig o “Can I help you at all today?” dim ond ymatebion llawn diddordeb (neu gyffro) sydd wedi bod ynglŷn â fy mhrofiad o ddod allan eto...

'Ydw, rydw i'n berfformiwr Drag a dwi’n chwilio am gynnyrch cynaliadwy bydd yn para oes, plîs.'

Fy Mocs Offer 

Erbyn heddi’ dwi’n falch o ddweud bod gen i gasgliad helaeth (mae mam yn dweud fy mod i'n barod yn berchen ar lawer mwy o golur nag oedd ganddi hi erioed), ac mae’r casgliad yn barod yn fwy na’r bag colur mae fy chwaer wedi rhoi i mi fel anrheg.

Dwi’n meddwl bydd angen blwch offer arna’ i i ffitio popeth mewn. Un fel oedd gan mam ar gyfer eu thŵls go iawn, ma’ hi wastad wedi bod yn hynod o ymarferol.

Mae gen i golur proffesiynol o Kryolan yn Llundain (cefais brofiad arbennig yno a llawer o gyngor hyfryd gan y staff), manion bethau o siopau’r stryd fawr, a llawer o bethau disglair a glityri sy’n anodd iawn golchi i ffwrdd.

Wrth i mi barhau i gofleidio’r ochr Connie Orff ohona’ i, ac wrth i fwyfwy o gyfleoedd perfformio ymddangos, dwi’n trio fy ngorau i arbrofi a gwella fy sgiliau ac yn ara’ deg dwi’n teimlo fy mod i'n dod yn fy mlaen, ond dwi dal yn newydd i’r holl beth.

A chofiwch, mae colur Drag yn bodoli er mwyn cael ei werthfawrogi o bell. Os ydych chi’n barod i  feirniadu colur Brenhines Drag, yna byddwch yn barod am ateb llawn agwedd yn ei hôl!

Alun Saunders