Black man with dreadlocks wearing a green t-shirt speaking into a microphone

A yw'r celfyddydau yng Nghymru yn hiliol yn eu hanfod?

Os ydw i am fod yn hollol onest (a dw i’n bwriadu bod), mae fy nhaith yrfaol drwy fyd y celfyddydau a'r cyfryngau wedi bod yn un unig.

Dw i wedi teimlo fel dieithryn mewn ystafell/swyddfa/cyfarfod ac yn fy amgylchedd yn amlach nag y galla i ei gofio.

Dydy hyn ddim oherwydd bod y bobl dan sylw wedi dewis fy nieithrio, ond oherwydd yn amlach na pheidio bod fy mhrofiad byw i yn un sydd heb fodoli ym mywydau neb arall sydd yn y gofod dw i'n gweithio ynddo.

Fel person du wedi'i eni yng Nghymru, dydy'r digwyddiadau sydd wedi siapio fy myd a'r lens dw i'n gweld fy amgylchiadau drwyddi ddim yn bresennol yn y mwyafrif traddodiadol.

A young black girl holding a mobile phone looks through a window into an empty theatre

Does neb yn trafod faint o hwyl gawson nhw’n paratoi pysgod hallt ac ackee, na sut roedden nhw'n uniaethu ag islais diwylliannol y ffilm Get Out o gymharu â gwaith arall Jordan Peele, na sut effeithiodd sylwadau 'digyfnewid' Laurence Fox arnyn nhw, heb sôn am anallu cyflwynydd Question Time i fynd i'r afael â'r mater a datganiad ysgubol o gefnogaeth Priti Patel.

Na chwaith (heblaw am yr ychydig dymhorau diwethaf) sut gallai cynyrchiadau fel Black Men Walking neu Pass Over roi profiad theatraidd mawr ei angen i gynulleidfa nad ydyn ni'n rhaglennu llawer ar eu cyfer fel arfer.

Dyma'r tirlun dw i'n ei lywio; diwydiant yng Nghymru lle, yn ystadegol, mae llai na 4% o'r bobl yn dod o gefndir amrywiol; diffyg cynrychiolaeth syfrdanol sydd i'w weld hefyd ar draws llawer o sectorau.

Felly dw i'n cadw hyn mewn cof pan mae pobl wedi awgrymu wrtha i’n ddiweddar bod y Ganolfan lle dw i'n gweithio yn hiliol.

Wrth ystyried hyn, dw i'n cwestiynu a yw edrych ar y mater drwy ficro-lens sy'n ffocysu ar sefydliadau unigol yn rhan o'r broblem o bosib.

"Beth fyddai'n digwydd pe baen ni'n ehangu'r cwmpas yna am eiliad, ac yn gofyn cwestiwn mwy; a yw'r celfyddydau yng Nghymru yn hiliol yn eu hanfod?"

Jason Camilleri

Mae ateb y cwestiwn yna’n datgelu'r her wirioneddol rydyn ni'n ei hwynebu, a fy nghred bersonol i (yn seiliedig ar fy mhrofiad byw drwy fy ngyrfa) yw ydyn, maen nhw! Yn sefydliadol hiliol, ond hefyd yn anymwybodol o hynny.

Dydy pobl ddim yn gwybod beth dydyn nhw ddim yn ei wybod. Ond nawr bod yr alwad am gydraddoldeb yn atseinio o'r nenfwd ar hyn o bryd, ac mae'r drych wedi'i droi am i fewn i adlewyrchu anghydraddoldebau enbyd, does dim modd cuddio y tu ôl i len o anwybodaeth bellach. Heb os, mae'r adeg i newid wedi cyrraedd y sector.

Mae'r corws byd-eang wedi ysgogi cefnogaeth gan lawer o sefydliadau a chwmnïau, ac yn galw ar y rhai sydd heb godi llais eto i gydsefyll gyda'r achos.

Ond byddwn i'n rhybuddio yn erbyn geiriau teg heb fwriad gweithredu, yn enwedig wrth ymdrin â sefydliadau sydd â hanes nodedig o wael ym maes cydraddoldeb.

Yn bersonol, byddwn i'n ffafrio eich ymrwymiad i gynllun gweithredu pendant sydd â strategaeth hirdymor a fydd yn newid y sector dros ryddhau datganiad tocenistaidd pan fo'r cynnwrf yn ei anterth.

Felly sut gallwn ni newid y tirwedd yma?

Mae gen i ychydig o syniadau. Wrth ein pobl ni fe fyddwn i'n dweud – camwch ymlaen a chymerwch eich sedd wrth y bwrdd. Mae angen cyfoethogi'r diwydiant yma drwy ddod â’n cymunedau i’r rhengoedd. Ond fel dywedodd fy rheolwr gyfarwyddwr wrtha i un tro... 'Paid â setlo!'

Paid â setlo ar lefel mynediad, lefel swyddog, na lefel rheoli hyd yn oed. Mae angen ein pobl ni ar bob lefel; gweithiol. yn ystafell y bwrdd, yn y llefydd lle caiff newid ei wneud; fel arall fyddwn ni'n ddim byd ond teithwyr mewn cerbyd nad yw'n eiddo i ni. Dyna'r rheswm dros fy ymateb 'Black In' i'r blacowt ar y cyfryngau cymdeithasol rai wythnosau’n ôl.

Black In artwork by Jason Camilleri featuring words in white text on a black background
Black In

Geiriau gwag sydd wedi bod gan y diwydiant yn llawer rhy hir, ac os yw o ddifri o ran 'amrywiaethu' a 'dadwladychu', yna mae angen gwneud consesiynau.

Er mwyn i ni gael sedd wrth y bwrdd mae angen i eraill gynnig eu lle, a derbyn na all y sector maen nhw'n mwynhau cyfran fwyafrifol ynddi ar hyn o bryd fyth fod fel maen nhw'n gyfarwydd â hi eto.

Ydy'r sector yn barod am hynny? Beth petaen ni'n ymestyn hynny at gyllid? Hinsawdd lle mae'n ymddangos ar hyn o bryd eu bod yn fodlon gydag un neu ddau sefydliad amrywiol er mwyn cyrraedd y cwota, gan osod y gymuned yn erbyn ei hunan mewn gwirionedd, wrth i bawb frwydro am safle’r corff sy'n cael ei ariannu ac i'r diwydiant roi tic yn eu blwch amrywiaeth yn fodlon eu byd. Mae'n rhaid i hyn newid.

Mae angen i'r sector fod yn onest gyda'i hunan hefyd. Yn debyg i'r gweithle lle dw i'n gweithio, mae angen i chi godi’ch dwylo a chyfaddef camgymeriadau'r gorffennol, ac mae camgymeriadau wedi bod.

Yr hyn sy’n allweddol yw pa werth ydych chi'n ychwanegu i'ch arfer o ganlyniad? A pha mor gyflym allwch chi weithredu ar sail yr hyn rydych chi’n ei ddysgu?

Ni ddylai’r un person ifanc fyth eto orfod profi diffyg cydnabod bod cwynion yn ddilys nac effaith ansensitifrwydd diwylliannol. Dyna beth yw dysgu.

Rydyn ni wedi clywed cyfaddefiadau bod y symud wedi bod yn rhy araf, ac y bydd sefydliadau'n cael eu hadeiladu ar gydraddoldeb o hyn ymlaen. Fe alla i barchu hyn os bydd gweithredu gwirioneddol yn dilyn.

A young black woman wearing white face paint closes her eyes during a dance

Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi gwneud, ac yn dal i wneud gwaith da y tu ôl i’r llen, ond mae’n cydnabod bod rhaid i hyn ddigwydd o flaen llygaid pawb nawr.

Caiff cymunedau eu galw i helpu i lywio gyda bwriad a hygrededd, ac er bod angen uno gweledigaethau, mae gennym gasgliadau o artistiaid amrywiol yn ymdrefnu ac yn cynllunio, a ddylai gyda'i gilydd gynnig gobaith bod tirlun cyfartal ar y gorwel wrth i ni gerdded ochr yn ochr â’r sefydliadau sy’n ceisio newid a rhoi cymorth iddynt wneud hynny’n iawn.

Er, i wneud hyn yn llwyddiannus gallwn ni ddim gosod lefel o actifedd unrhywun yn erbyn y llal, na honni bod ymddygiad gwrth-hiliol y person yma’n fwy dilys na’r person yma.

Mae’n rhaid i ni gefnogi ein holl bobl boed yn hyrwyddo newid o tu fewn i’r sector neu or tu allan, yn cyd-weithio tuag at y gôl unedig trwy sawl dull gwahanol.

Pan fo'r byd rydych chi'n ei rodio'n un di-liw, gall newid fod yn dasg lafurus, ond bydda i'n parhau i eirioli i sicrhau cyfnod pan nad yw'r celfyddydau yng Nghymru yn gwneud i bobl o gefndiroedd amrywiol deimlo fel petaen nhw'n bodoli yn y 'Sunken Place'.

Wrth i mi fenthyg cyfeiriadau o Get Out, mae cerfluniau'n cwympo o gwmpas y byd, ac mae'n rhaid i'r rhwystrau rhag cydraddoldeb gael eu chwalu gyda nhw. Wedi'r cyfnod clo, bydd cyfrifoldeb arnon ni i gyd i beidio â gadael i 'normal' fod yr un peth byth eto.

Jason Camilleri - Cynhyrchydd Dysgu Creadigol / Gweithiwr Celfyddydau'r Ifanc