Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

ADMIRAL YW EIN CEFNOGWR CORFFORAETHOL DIWEDDARAF

Yn dilyn y newyddion diweddar ein bod ni wedi derbyn grant arbennig gan Sefydliad Garfield Weston mae’n bleser gen i gyhoeddi bod Admiral  yn ymuno â ni fel cefnogwr corfforaethol Canolfan Mileniwm Cymru.

Admiral logo

Golygir hyn bod gweithwyr Admiral yn dod yn rhan o’n cymuned ac yn cael mynediad i docynnau a digwyddiadau, gan gychwyn â Disney's Beauty and the Beast, ein sioe fawr ar gyfer Nadolig 2021. Gwyddwn mor awyddus mae pawb i fynychu digwyddiadau byw unwaith eto, ac mae’r sioe arbennig hon yn rhan o raglen wych sydd ar y gorwel gennym.

Sefydlwyd Admiral yng Nghaerdydd ym 1993, ac, fel ni, maent yn falch iawn o’u gwreiddiau yn y ddinas a’r bobl maent yn eu cyflogi. Maent yn angerddol dros feithrin creadigrwydd yng Nghymru, sy’n gwneud y bartneriaeth rhyngom yn un naturiol iawn, gan ein bod ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru.

Hoffem ddiolch o galon i Admiral a’u gweithwyr am eu cefnogaeth hael. Daw’r gefnogaeth ar adeg hollbwysig, wrth ystyried effaith enfawr y pandemig ar ein gwaith gyda chymunedau, pobl ifanc a gweithwyr llawrydd yng Nghymru.

Bydd y bartneriaeth newydd yma’n cefnogi’n cynlluniau i ailagor cyn gynted a bo hi’n ddiogel i ni wneud. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gynnal perthynas hirdymor gydag Admiral. Dyma newyddion calonogol iawn.

Hoffem annog unrhyw gwmnïau eraill sydd am gymryd rhan yn ein dathliadau ailagor yn hwyrach eleni i gysylltu drwy e-bostio datblygu@wmc.org.uk.