Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Amser 'Steddfod

Eleni mae Llanrwst, Sir Conwy yn gartref i Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2019.

Wrth i ni edrych ymlaen at yr Eisteddfod yn Llanrwst, rydyn ni hefyd wrth ein boddau’n edrych yn ôl at amser yma llynedd pan fu’r ŵyl yma yn y Ganolfan ac ar faes ddi-ffiniau ym Mae Caerdydd.

Roedd hi’n bleser pur cael bod yn gartref i’r ŵyl. Cynhaliwyd cannoedd o berfformiadau, defodau a chystadlaethau ar ein llwyfannau ac ar y maes y tu allan i’n drysau. Am y tro cyntaf erioed roedd mynediad i’r maes am ddim. Daeth dros 300,000 o ymwelwyr i gyd, o eisteddfodwyr brwd, pobl leol a thwristiaid chwilfrydig ynghyd i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant cenedlaethol.

Roedd ein Theatr Donald Gordon ysblennydd yn lleoliad perffaith ar gyfer Pafiliwn yr ŵyl. Cafodd Catrin Dafydd ei choroni, enillodd Gruffudd Eifion Owen y gadair, a bu llu o ddoniau eraill o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn perfformio ac yn cyrraedd y brig ar eu llwyfan cenedlaethol.

Roedd yr holl berfformio a dathlu’n waith sychedig - gwerthwyd 2187 o baneidiau te yn Caffi a Ffresh, heb sôn am sawl gwydraid o win gyda’r nos.

Os ydych chi’n mynd i Lanrwst, mae gwledd arbennig yn aros amdanoch chi.
Rydyn ni’n hynod o falch o gefnogi Bachu gan Melangell Dolma – cynhyrchiad Melangell Dolma, Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd. Bydd perfformiadau o’r ddrama newydd yma am gariad, cyfeillgarwch a chalonnau dryslyd yn digwydd yng Nghaffi Maes B, 5-8 Awst.

Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at weld Theatr Gen Creu: Gwely (Theatr Unnos). Bydd y darn newydd yma o waith yn cael ei greu mewn 24 awr. A’r un sy’n camu i’r adwy? Un o gyfarwyddwyr cynllun Awenau Theatr Gen Creu – Elen Mair Thomas, sydd hefyd yn gynhyrchydd yn ein tîm dysgu creadigol.

Pob hwyl i bawb sy'n rhan o'r Eisteddfod. Ac i bawb sy'n mynychu - mwynhewch bob eiliad!